Dyn wedi’i ddedfrydu am ladd ei chwaer ar faes carafannau
Dedfrydwyd dyn am ladd ei chwaer 15 oed yn ystod gwyliau teuluol ar faes carafannau yng ngogledd Cymru.
Ymosododd Matthew Selby, 20 oed, sydd ag awtistiaeth, ar ei chwaer iau, Amanda Selby, yn ystod ffrae rhyngddynt ar Faes Carafannau Tŷ Mawr yn Nhowyn ar ddydd Sadwrn 31 Gorffennaf y llynedd, gan achosi anafiadau angheuol iddi.
Heddiw (16 Rhagfyr) yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, fe’i dedfrydwyd i bum mlynedd o garchar gyda thrwydded estynedig o bum mlynedd. Plediodd yn euog o ddynladdiad ar sail cyfrifoldeb lleiedig mewn gwrandawiad llys blaenorol.
O’r post-mortem canfuwyd y bu farw Amanda o asffycsia mecanyddol.
Cafodd yr heddlu eu galw ac arestiwyd Selby yn y fan a’r lle.
Dywedodd David Mainstone o’r CPS: “Roedd hon yn lladdedigaeth drasig o laslances.
“Ymosododd Matthew Selby ar ei chwaer mewn ffrwydrad o wylltineb, yn reddfol ac yn fygythiol wedi cyfres o ffraeon cynyddol rhyngddynt yn ystod gwyliau teuluol.
“Roedd achos yr erlyniad yn cynnwys adroddiadau seiciatrig, ac ynddynt canfuwyd bod Selby ag awtistiaeth, anhwylder sy’n achosi i’w dymer ffrwydro ar hap ac anhwylder o iselder difrifol, y cyfan yn debygol o fod wedi sbarduno ei weithredoedd treisgar.
“Mae ein meddyliau’n parhau i fod gyda phawb sydd wedi’u heffeithio gan yr achos hwn.”
Nodiadau i olygyddion
- Plediodd Matthew Selby (Dyddiad geni: 5 Mai 2002) yn euog o ddynladdiad yn Llys y Goron Caernarfon ar 25 Ebrill 2022.
- Mae David Mainstone yn Erlynydd Llys yn CPS Cymru-Wales.