Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Adborth a chwynion

Rydyn ni eisiau gwybod pan na fydd ein gwasanaeth yn cyrraedd y safon rydych chi'n ei ddisgwyl er mwyn i ni allu datrys pethau, gwella pethau a dysgu o'r profiad.

Mae delio â chwynion yn rhan bwysig o'r gwasanaeth cyhoeddus rydyn ni'n ei ddarparu. Ein nod yw darparu gwasanaeth o’r safon uchaf a gwneud pethau’n iawn. Os hoffech chi roi adborth neu gwyno am unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth, hoffem glywed gennych chi.

Darllenwch ein Cyfarwyddyd Adborth a Chwynion (PDF, 171kb). Mae hwn yn cynnwys gwybodaeth fanwl am ein system adborth a chwynion. Mae'n egluro sut gallwch chi roi adborth i ni ar ein gwasanaethau - yn negyddol ac yn gadarnhaol, neu gwyno os ydych chi'n anfodlon â'r gwasanaeth rydyn ni wedi ei ddarparu. Mae Cyfarwyddyd Adborth a Chwynion ar gael yn Gymraeg hefyd (PDF, 171kb).

Sefydliadau eraill

Os oes gennych chi gŵyn am y gwasanaeth gawsoch chi gan yr heddlu neu adrannau eraill y llywodraeth, dylech gysylltu â nhw'n uniongyrchol.

Mae cwyn yn ffordd i unigolyn, neu ei gynrychiolydd, fynegi ei fod yn anfodlon ar unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth os oedd y mater dan sylw wedi effeithio arno’n uniongyrchol.

Gall cwynion fod yn rhai:

  • Cyfreithiol - Cwynion sy'n ymwneud â phenderfyniadau cyfreithiol a wneir gan Wasanaeth Erlyn y Goron
  • Gwasanaeth - Cwynion sy'n ymwneud â'r ffordd rydym wedi ymddwyn
  • Cymysg - Mae'r rhain yn gwynion sy'n cynnwys materion cyfreithiol a gwasanaethau.

Gallwch chi gyflwyno cwyn neu gall rywun rydych chi wedi'i enwebu gyflwyno cwyn ar eich rhan megis:

  • Aelod o'r teulu neu ffrind
  • Grŵp cymorth
  • Cyfreithiwr neu weithiwr proffesiynol arall

Os byddwch chi'n enwebu rhywun i gwyno ar eich rhan, bydd angen i chi roi caniatâd ysgrifenedig i'r unigolyn hwnnw weithredu ar eich rhan.

Chewch chi ddim defnyddio trefn gwyno y CPS i wneud cwyn:

  • Os ydych chi’n ddiffynnydd a'ch bod chi eisiau i achos yn eich erbyn gael ei ollwng
  • Os ydych wedi'ch cael yn euog o drosedd a'ch bod chi eisiau apelio yn erbyn eich euogfarn a/neu ddedfryd. Dylech ofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol.
  • Os ydych chi’n ddioddefwr a’ch bod eisiau defnyddio eich hawl i ofyn am adolygiad o benderfyniad y CPS i beidio â dwyn cyhuddiadau yn erbyn rhywun sy'n cael ei amau, terfynu achos neu gynnig dim tystiolaeth mewn achos. Ewch i Hawl Dioddefwyr i Adolygiad.

Dim ond os cyflwynir cwynion o fewn chwe mis i'r mater dan sylw y bydd y CPS yn ystyried y gŵyn. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd cwynion a gyflwynir y tu allan i'r cyfnod hwn yn cael eu hystyried, er enghraifft os oedd dros chwe mis wedi pasio cyn i chi gael gwybod am y mater.

Mae sawl ffordd o gwyno:

Drwy ein gwefan

Gallwch wneud cwyn drwy ein gwefan, naill ai fel yr unigolyn a oedd yn rhan o'r digwyddiadau, neu ar ran rhywun arall. Dyma'r dull mwyaf effeithlon ar gyfer cyflwyno eich cwyn.

Dros y ffôn

Os ydych chi eisiau cwyno, mae’n syniad da siarad yn gyntaf â'ch swyddfa Ardal CPS leol neu'r aelod o staff dan sylw. Byddant yn ceisio datrys y mater ar unwaith. Mae rhifau ffôn holl ardaloedd y CPS ar gael ar ein gwefan.

Drwy anfon e-bost

Mae cyfeiriadau e-bost holl ardaloedd y CPS ar gael ar ein gwefan.

Drwy’r post

Gallwch gyflwyno cwyn yn ysgrifenedig. Mae cyfeiriadau post holl ardaloedd y CPS ar gael ar ein gwefan.

Os ydych am gwyno, y peth cyntaf i'w wneud yw cysylltu â’ch Ardal CPS leol, neu'r aelod o staff dan sylw. Byddant yn ceisio datrys y mater ar unwaith. Os byddwch yn dal yn anfodlon, efallai y byddwch eisiau gwneud cwyn ffurfiol drwy ysgrifennu atom.

Cam Un

Bydd cwynion yng Ngham Un yn cael eu cofnodi'n ffurfiol a'u rheoli gan yr Ardal CPS leol lle digwyddodd y mater. Bydd yn ymchwilio i'ch cwyn ac yn ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith. Lle nad yw'n bosibl cwblhau'r ymchwiliad, a darparu ymateb o fewn yr amserlen honno, byddwn yn ysgrifennu atoch yn nodi erbyn pa ddyddiad y gobeithiwn ymateb.

Cam Dau

Os ydych yn dal yn anfodlon â'r ymateb a gafwyd yng Ngham un, cewch uwchgyfeirio eich cwyn. Rhaid gwneud hyn o fewn un mis i'n hateb. Rhowch fanylion pam rydych yn dal yn anfodlon. Bydd rheolwr uwch yn adolygu eich cwyn ac yn ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith. Lle nad yw'n bosibl cwblhau'r ymchwiliad, a darparu ymateb o fewn yr amserlen honno, byddwn yn ysgrifennu atoch yn nodi erbyn pa ddyddiad y gobeithiwn ymateb.

Dyma fydd diwedd y broses ar gyfer cwynion sy'n ymwneud â phenderfyniadau cyfreithiol.

Cam Tri

Os yw eich cwyn yn cyfeirio at y ffordd rydym wedi ymddwyn (cwyn am wasanaeth), a'ch bod yn dal yn anfodlon ar ôl Camau Un a Dau, gallwch gyfeirio'ch cwyn at yr Asesydd Cwynion Annibynnol (IAC) i'w hadolygu. Rhaid gwneud hyn o fewn un mis i’r ymateb i Gam Dau. Mae'r IAC yn gweithredu'n annibynnol ar y CPS, ac mae'n gyfrifol am adolygu cwynion gan aelodau o'r cyhoedd yng nghyswllt ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan y CPS a sicrhau ein bod yn glynu wrth ein gweithdrefn gwynion sydd wedi'i chyhoeddi. Mae rhagor o wybodaeth am rôl yr IAC ar gael ar y dudalen hon (isod).

Rydym yn croesawu adborth - boed hwnnw'n gadarnhaol neu’n negyddol - ar ein polisïau, gweithdrefnau, gwasanaethau a pherfformiad. Rydym yn croesawu eich barn am eich profiad o ddelio â ni neu eich barn am unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth.

Sut mae rhoi adborth?

Gall unrhyw un roi adborth i’r CPS, ac nid oes terfyn amser ar gyfer gwneud hynny. Bydd yr holl adborth yn cael ei gydnabod, ei gofnodi a'i ddadansoddi er mwyn nodi gwelliannau i ddatblygu ein gwasanaethau.

Os yw'n bosibl ac yn briodol gwneud hynny, darperir ymateb.

Gallwch roi adborth yn y ffyrdd canlynol:

Drwy ein gwefan

Gallwch roi adborth drwy ein gwefan. Dyma'r ffordd fwyaf effeithlon o ddarparu adborth.

Dros y ffôn

Gellir darparu adborth dros y ffôn. Mae rhifau ffôn holl ardaloedd y CPS ar gael ar ein gwefan.

Drwy anfon e-bost

Mae cyfeiriadau e-bost holl ardaloedd y CPS ar gael ar ein gwefan.

Drwy’r post

Gellir darparu adborth yn ysgrifenedig. Mae cyfeiriadau post holl ardaloedd y CPS ar gael ar ein gwefan.

Mae'r Asesydd yn gweithredu'n annibynnol ar y CPS, ac mae'n gyfrifol am ddelio â chwynion gan aelodau o'r cyhoedd yng nghyswllt ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan y CPS, ynghyd ag ymchwilio i’r cwynion hynny, ac ydy’r corff wedi glynu wrth ei weithdrefn gwynion sydd wedi ei chyhoeddi.

Darllenwch am waith yr IAC

Adborth a chwynion drwy e-bost a thrwy’r post

Gallwch chi anfon eich cwyn atom trwy e-bost neu bost. Llwythwch y ffeil isod i lawr, ei chwblhau a'i e-bost neu ei phostio i'r Ardal briodol. Mae cyfeiriadau e-bost a phost ar gyfer holl Ardaloedd y CPS ar gael yn adran 'Ynglŷn â CPS' y wefan.

Ffurflen Adborth a Chwynion - Word

Scroll to top