Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Swyddog Heddlu wedi’i ddedfrydu am ymosod ar ei wraig

|News, Violent crime , Domestic abuse

Tra bod y cwpwl cartref ar 25 Ionawr 2020, cododd ffrae a arweiniodd at Huw Orphan, 32 oed, yn gadael y tŷ.

Pan geisiodd y dioddefwr gau’r drws, gwthiodd Orphan ei ffordd yn ôl i mewn; taclodd ei wraig i’r llawr, lle trawodd ei phen. Fodd bynnag, llwyddodd hi i redeg i’r ystafell wely a  chau’r drws, gan rwystro ei fynediad. Ond cafodd Orphan fynediad i’r ystafell a pharhaodd i ddadlau, gan bwyso  lawr ar fraich y ddioddefwraig.

Yn ystod ffrae arall ar 7 Ebrill 2020, ciciodd Orphan ei wraig ar ei chorff gan achosi iddi ddisgyn am yn ôl i lawr y grisiau. O ganlyniad, torrodd y ddioddefwraig fertebra.

Meddai David Elvy o Wasanaeth Erlyn y Goron, “Roedd Orphan yn ymddwyn mewn ffordd warthus, yn ymosod ar ei wraig yn eu cartref eu hunain.

“Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cymryd unrhyw honiad o gam-drin domestig o ddifrif ac yn parhau i fod yn benderfynol o ddod â chyflawnwyr o flaen eu gwell.

“Mae’r achos hwn yn dangos y byddwn yn erlyn troseddwyr, waeth beth fo’u safle yn y gymuned, pryd bynnag y bodlonir y prawf cyfreithiol.”

Dedfrydwyd Huw Orphan ar 25 Hydref am y drosedd o achosi anaf corfforol difrifol a throsedd o anaf corfforol gwirioneddol. Mewn gwrandawiad disgyblu yn dilyn y treial troseddol, canfuwyd bod camymddwyn difrifol Orphan wedi’i brofi, a chafodd ei wahardd rhag ymuno ag unrhyw heddlu.

Nodiadau i olygyddion

  • Daw Huw Orphan (Dyddiad Geni 8/10/1992) o’r Barri
  • Orphan yn euog o’r ddwy drosedd yn Dilyn treial
  • Mae David Elvy yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.

Further reading

Scroll to top