Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Dyn yn cael ei garcharu am daflu sylwedd cyrydol dros rywun arall

|News, Violent crime

Mae dyn a achosodd anafiadau sy’n newid bywyd i rywun arall drwy daflu hylif cyrydol dros ei wyneb a’i ben wedi cael ei garcharu yn Llys y Goron Abertawe.

Ymosododd Jivan Dean, 24 oed, ar Raven Riley a oedd yn ymweld â ffrind mewn tŷ mewn ardal yn Sir Gaerfyrddin o’r enw ‘Tipi Valley’, ar 14 Awst 2024.

Roedd y dioddefwr 20 oed yn eistedd mewn cadair pan ddaeth Dean i mewn i’r ystafell gyda phadell â’r hylif ynddi. Taflodd Dean yr hylif tuag at Mr Riley a deimlodd y sylwedd yn llosgi ar unwaith.

Cafodd Mr Riley gymorth gan unigolion eraill a aeth ag ef i’r ysbyty, lle cafodd driniaeth am losgiadau cemegol difrifol.

Arestiwyd Dean ddeuddydd yn ddiweddarach yn ardal Llanelli, ac roedd profion a gynhaliwyd ar ei ddillad yn dangos olion o Sodiwm Hydrocsid.

Dywedodd Craig Harding o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd ymosodiad syfrdanol Dean yn dangos ei fod yn bwriadu achosi niwed difrifol iawn i’r dioddefwr.

“Mae Mr Riley wedi dioddef anafiadau sydd wedi newid ei fywyd oherwydd yr ymosodiad dychrynllyd hwn.

“Gobeithio y bydd Mr Riley yn parhau i wella ac y gall fod yn rhywfaint o gysur iddo wybod bod ei ymosodwr wedi cael ei ddwyn gerbron y llys.”

Cafodd Jivan Dean ddedfrydu ar 25 Hydref 2024 i 19 mlynedd o garchar gyda'r pedair blynedd diwethaf i'w gyflwyno ar drwydded.

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Jivan Dean (Dyddiad Geni: 15/10/2000) o ardal Llandeilo
  • Mae Craig Harding yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru
  • Plediodd Jivan Dean yn euog o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol, a hefyd o achosi i rywbeth peryglus neu wenwynig ddod i ran rhywun, gyda’r bwriad o losgi.

Further reading

Scroll to top