Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Dedfrydu dau am ladd dyn ym Mae Colwyn

|News, Violent crime

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug cafodd dyn a menyw eu dedfrydu i garchar am oes am lofruddio Mark Wilcox o Fae Colwyn.

Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad ym Mae Colwyn ar 20 Tachwedd 2023 lle daethant o hyd i Mark Wilcox gydag anafiadau difrifol, gan gynnwys dau anaf trywanu. Roedd ymholiadau wedi datgelu bod ei bartner, Lauren Harris, 29 a David Webster, 43, wedi ffoi o’r ardal mewn cerbyd a oedd wedyn wedi cael ei adael.

Daethpwyd o hyd i ddwy gyllell yn y cerbyd ac roedd profion DNA o’r carnau’n dangos cysylltiad â Webster. Yn anffodus, bu Mark Wilcox farw yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw.

Roedd Harris a Webster yn gwadu unrhyw ymwneud â’r achos, ond fe’u cafwyd yn euog o lofruddiaeth gan y rheithgor wedi gwrando’r holl dystiolaeth. Roedd trydydd dyn, Thomas Whiteley, hefyd yn wynebu treial a chafodd ryddfarn.

Dywedodd Dean Quick o’r CPS: “Cafodd Mr Wilcox ei drywanu yn ei gartref ei hun, ac roedd yr anafiadau’n angheuol.

“Cyflwynodd y CPS y dystiolaeth gerbron y rheithgor a ddychwelodd reithfarnau euog i Harris ac i Webster.

“Rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau Mr Wilcox sydd wedi gorfod delio â cholled ofnadwy.”

Dedfrydwyd Lauren Harris a David Webster i garchar am oes ac fe’u gorchmynnwyd i wasanaethu am isafswm o 25 a 23 mlynedd yn y drefn honno.

Nodiadau i olygyddion

  • Cafwyd Lauren Harris (Dyddiad Geni: 18/9/1994) a David Webster (Dyddiad Geni: 29/1/1981) yn euog o lofruddiaeth ar ôl y treial
  • Bu Mark Wilcox farw ar 20 Tachwedd 2023 yn 65 oed
  • Mae Dean Quick yn Uwch Erlynydd Rhanbarth y Goron yn CPS Cymru-Wales.

Further reading

Scroll to top