Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Main content area

Dyn wedi ei ddedfrydu am farwolaeth ei gariad

|News, Driving offences

Mae dyn oedd wedi ei wahardd rhag gyrru ac a ddrylliodd car ei gariad gan achosi ei marwolaeth wedi ei ddedfrydu.

Plediodd Cameron Jones, 29 yn euog i achosi farwolaeth Demi Mabbit trwy yrru'n beryglus, achosi marwolaeth wrth yrru pan nad oedd wedi ei yswirio ac Achosi marwolaeth trwy yrru pan oedd wedi ei wahardd.

Ddydd Gwener, 5 Ebrill 2024, roedd Jones yn gyrru Audi S3 ar gyflymder gyrru ar draffordd, a hynny ar ffyrdd preswyl, gan fynd yn sylweddol dros y terfyn gyrru. Oherwydd y cyflymder gormodol, amodau gwlyb y ffyrdd ac nad oedd digon o wadn ar y teiars ôl,  sgefriodd y car ar y dŵr a mynd i mewn i wal derfyn.

Dywedodd llygad dystion i'r olygfa wedi'r gwrthdrawiad eu bod wedi clywed Jones yn dweud, 'Mae angen i mi gael y dyn oedd yn gyrru fy ngar' ac 'Mae fy missus newydd ddryllio'r car'.Yna dihangodd Jones o leoliad y ddamwain.

Dioddefodd Demi anafiadau sylweddol ac yn drasig, bu farw saith diwrnod yn ddiweddarach.

Yn y pen draw, dros dair wythnos yn ddiweddarach, ar 28 Ebrill 2024, ildiodd Jones i'r heddlu. Yn ystod cyfweliad y heddlu, atebodd 'dim sylw' i'r holl gwestiynau ond cyfaddefodd mai fo oedd yn gyrru'r Audi.

Roedd achos yr erlyniad yn cynnwys ffilm Camerâu Cylch Cyfyng yn dangos y cerbyd yn cael ei yrru gan Jones ac yntau'n dianc o leoliad y ddamwain. Cadarnhaodd tystiolaeth DNA o'r car mai Jones oedd y gyrrwr.

Dywedodd Jordan Jones o Wasanaeth Erlyn y Goron"Mae'r achos hwn yn tynnu sylw at ganlyniadau difrifol gyrru'n beryglus. Mae gweithredoedd Cameron Jones wedi arwain at drychineb colli bywyd gyda'i ymdrechion i osgoi cyfrifoldeb yn dyfnhau galar anwyliaid Demi Mabbit. Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Demi."

Dedfrydwyd Cameron Jones ar 17 Gorffennaf 2024 yn Llys y Goron Merthyr Tudful i 10 mlynedd o garchar - a bydd yn treulio hanner ohono yn y ddalfa. Cafodd ei wahardd rhag gyrru am 10 mlynedd hefyd.
 

Notes to editors

  • Mae Jordan Jones yn Uwch-erlynydd y Goron yng Nghymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • Bu farw Demi Mabbitt ar 12 Ebrill 2024 yn 25 mlwydd oed
  • Daw Cameron Jones (DG: 11/07/1994) o Ferthyr Tudful
  • Plediodd Cameron Jones yn euog yn Llys y Goron Merthyr Tudful ar 31 Mai 2024 i: 
  • Achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus
  • Achosi marwolaeth trwy yrru pan nad oedd wedi ei yswirio
  • Achosi marwolaeth trwy yrru pan oedd wedi ei wahardd
  • Gyrrwr cerbyd yn methu stopio ar ôl damwain ffordd
  • Gyrrwr cerbyd oedd mewn damwain ffordd yn methu rhoi gwybod am y ddamwain honno
     

Further reading

Scroll to top