Gyrrwr wedi’i garcharu am ladd dyn mewn cilfan
Mae gyrrwr BMW a gollodd reolaeth dros ei gerbyd ac a sglefriodd ar ddŵr i mewn i gilfan, gan ladd dyn, wedi cael ei garcharu yn Llys y Goron Caerdydd heddiw.
Roedd Ricky Perkins, 32, yn gyrru ar ffordd osgoi Abercynffig ar yr A4063 ychydig cyn 6am ar 20 Ionawr 2021. Collodd reolaeth dros y car a mynd ar y llain las cyn y gilfan, cyn taro Byron Jeans a oedd yn sefyll yn y gilfan yn aros am lifft i’r gwaith.
Gan ddisgrifio safle’r ddamwain, dywedodd ymchwilwyr gwrthdrawiadau bod y ffordd yn “...wlyb a bod dŵr wyneb yn bresennol...” gan nodi bod dŵr yn llifo ar draws y gerbytffordd oherwydd bod draen wedi blocio.
Ar ôl archwilio safle’r ddamwain a data o’r cerbyd, daeth yr ymchwilydd i’r casgliad bod y BMW yn teithio ar 93mya adeg y gwrthdrawiad, er bod terfyn cyflymder o 50mya ar y ffordd.
Dywedodd Millie Davies o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Fe wnaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron ddefnydido data o’r bag aer ynghyd ag adroddiadau llygad-dystion i ddangos bod y diffynnydd yn gyrru’n rhy gyflym.
“O ganlyniad i’r cyfuniad o gyflymder y car a thywydd gwael, collodd Perkins reolaeth dros y cerbyd, a arweiniodd at ganlyniadau trasig.
“Ni all neb ddad-wneud digwyddiadau’r bore hwnnw, ac er bod yr achos wedi dod i ben, byddwn yn dal i feddwl am deulu a ffrindiau Byron.”
Dedfrydwyd Perkins i bum mlynedd o garchar ar 2 Medi yn Llys y Goron Caerdydd, ac fe gafodd ei wahardd rhag gyrru am bum mlynedd a chwech mis.
Notes to editors
- Daw Ricky Perkins (Dyddiad Geni: 23/5/1992) o Faesteg ac ar 16 Mehefin 2024, plediodd yn euog i achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.
- Bu farw Byron Jeans ar 20 Ionawr 2021 yn 49 oed.
- Mae Millie Davies yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.