Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Dedfrydu gyrrwr am ddamwain angheuol ar dir ysbyty

|News, Driving offences

Mae gyrrwr 70 oed a gollodd reolaeth dros ei char, gan daro grŵp o gerddwyr a oedd yn cynnwys plentyn mewn pram, wedi cael ei dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe.

Roedd Bridget Curtis yn mynd â’i merch am apwyntiad yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd ac roedd wedi stopio’r car mewn man gollwng ar 21 Mehefin 2023.

Pan aeth ei merch allan o’r car a mynd i nôl ei bag llaw o’r sedd gefn, trodd Curtis i’w helpu.

Ar yr adeg honno, collodd Curtis reolaeth dros y cerbyd, ac fe aeth y car yn ei flaen a tharo grŵp o bobl a oedd yn aros ar y safle.

Fe wnaeth y car daro pram a oedd yn dal Mabli Hall, plentyn bach wyth mis oed, a fu wedyn farw o’i hanafiadau.

Dywedodd Michael Cray o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd Bridget Curtis yn chwilio am fag llaw ar y sedd gefn tra oedd yn dal i reoli pedalau’r cerbyd.

“O ganlyniad, collodd reolaeth dros y car gan anafu criw o bobl gerllaw ac achosi marwolaeth babi.

“Arweiniodd gweithredoedd Curtis at ganlyniadau angheuol. Gobeithio y bydd hyn yn atgoffa pob modurwr o’r cyfrifoldebau difrifol sy’n gysylltiedig â bod yn yrrwr.

“Does dim byd yn gallu newid digwyddiadau trasig y diwrnod hwnnw, ac er bod yr achos troseddol wedi dod i ben, rydyn ni’n dal i feddwl am deulu Mabli a’u colled dorcalonnus, yn ogystal â phawb a gafodd ei anafu ar y diwrnod hwnnw.”

Dedfrydwyd Bridget Curtis ar 23 Ionawr 2025 i bedair blynedd o garchar, cafodd ei wahardd rhag gyrru am wyth mlynedd a gorchymyn i gymryd prawf estynedig.  
 

Nodiadau i olygyddion

  • Plediodd Bridget Carole Curtis (dyddiad geni: 24/12/1953) o Fegeli, Sir Benfro, yn euog o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.
  • Bu farw Mabli Hall ar 21 Mehefin 2023 yn 8 mis oed.
  • Mae Michael Cray yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru. 
     

Further reading

Scroll to top