Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Gyrrwr wedi’i ddedfrydu am anafu cerddwr

|News, Driving offences

Mae gyrrwr sydd wedi taro cerddwr cyn gwibio i ffwrdd wedi cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Merthyr Tudful am achosi anaf difrifol drwy yrru’n ddiofal.

Roedd Morgan Moon, 20 oed, yn gyrru Honda Civic ar Avenue De Clichy ym Merthyr Tudful ar 2 Medi 2023 pan oedd Thomas White yn croesi’r ffordd ar ôl cerdded i lawr Heol y Castell.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ychydig cyn hanner nos, gan daflu Mr White, 29, i’r awyr cyn iddo lanio wrth ymyl y cwrb. Deffrôdd Mr White yn yr ysbyty ddeuddydd yn ddiweddarach ar ôl dioddef anafiadau difrifol a oedd yn cynnwys sawl torasgwrn i’r penglog, gwaedu a chwydd ar yr ymennydd, a chleisio helaeth.

Er gwaethaf y gwrthdrawiad, daliodd Moon ati i yrru a chafodd ei arestio y diwrnod canlynol pan aeth i orsaf heddlu Merthyr.

Dywedodd Louisa Campbell o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Nid oedd Moon yn talu sylw priodol wrth yrru, a dyna a achosodd y gwrthdrawiad hwn.

“Mae ei ddiffyg gofal wedi arwain at anafu rhywun yn ddifrifol ac mae hyn yn neges i atgoffa pob gyrrwr i ganolbwyntio y tu ôl i’r olwyn.

“Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cymryd achosion o yrru gwael o ddifrif, yn enwedig lle mae rhywun wedi cael ei anafu.

“Mae Mr White yn dal i wella ar ôl ei anafiadau, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yn gwella’n llwyr yn fuan.”

Cafodd Morgan Moon ei ddedfrydu am bum mis o garchar wedi’i ohirio am 18 mis ar 28 Awst 2024 ac fe’i gwaharddwyd rhag gyrru am bum mlynedd.

Nodiadau i olygyddion

  • Daw Morgan Moon (Dyddiad Geni: 28/2/2004) o Dredegar, Blaenau Gwent
  • Ar 5 Gorffennaf 2024, plediodd Morgan Moon yn euog o achosi anaf difrifol drwy yrru’n ddiofal
  • Mae Louisa Campbell yn Erlynydd y Goron Rhanbarthol yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) Cymru.

Further reading

Scroll to top