Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Gyrrwr wedi’i garcharu am achosi gwrthdrawiad angheuol gyda gyrrwr tacsi

|News, Driving offences

Mae gyrrwr BMW wedi’i garcharu  yn Llys y Goron Abertawe am achosi marwolaeth gyrrwr tacsi drwy yrru’n beryglus yn Sir Benfro.

Roedd Mateusz Sikorski, 30 oed, yn gyrru i Benalun ar yr A4139 pan wrthdarodd yn benben â cherbyd Christopher Boyle, a oedd yn teithio i'r cyfeiriad arall. Yn anffodus, bu Mr Boyle farw o ganlyniad i’w anafiadau.

I ddechrau, dywedodd Sikorski wrth yr heddlu yn lleoliad y ddamwain fod Mr Boyle yn teithio ar ochr anghywir y ffordd. Cyfaddefodd yn ddiweddarach mai ef oedd ar ochr anghywir y ffordd, gan honni bod goleuadau’r tacsi wedi ei ddallu.

Roedd lluniau CCTV o orsaf betrol gyfagos yn dangos Sikorski yn teithio i Benalun ar ochr anghywir y ffordd, eiliadau cyn y ddamwain.

Dywedodd Craig Harding, o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd dull Sikorski o yrru yn peri risg mawr i yrwyr eraill, ac ar yr achlysur hwn fe arweiniodd hyn at ganlyniadau angheuol.

“Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad yn aros gyda theulu a ffrindiau Mr Boyle, sydd wedi dioddef colled enfawr.”

Ar 8 Tachwedd 2024, dedfrydwyd Sikorski i dwy flynedd a phedwar mis o garchar a'i anghymhwyso rhag gyrru am chwe blynedd a deufis.

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Mateusz Sikorski (Dyddiad Geni: 25/11/1993) yn byw yn ardal Arberth
  • Plediodd Mateusz Sikorski yn euog o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus
  • Bu farw Christopher Boyle ar 4 Medi 2024, yn 57 oed
  • Mae Craig Harding yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.

Further reading

Scroll to top