Dedfrydu modurwr am ladd cerddwr
Mae gyrrwr 96 oed, y cynghorwyd ef i beidio â gyrru oherwydd ei olwg gwael, wedi’i ddedfrydu am achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.
Roedd William Beer yn gyrru ar Heol Bedwas yng Nghaerffili pan drawodd gŵr 84 oed, Illtyd Morgan, a oedd yn croesi’r ffordd.
Digwyddodd y gwrthdrawiad angheuol yn fuan wedi hanner dydd ar 6 Ebrill 2021, ac er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, yn anffodus bu farw Illtyd Morgan yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Mewn archwiliad llygaid ym mis Mawrth 2019, cynghorwyd William Beer i beidio â gyrru gan fod ei olwg mor wael oherwydd bod ganddo gataract yn y ddwy lygad.
Dywedodd Anthony Clarke o’r CPS: “Mae penderfyniad William Beer i yrru, ac anwybyddu cyngor meddygol, wedi arwain at y canlyniad gwaethaf posibl; colled bywyd.
“Mae’r achos hwn yn ddigwyddiad trasig sy’n atgoffa modurwyr bod rhaid iddynt sicrhau eu bod yn ddigon iach i yrru’n ofalus, er eu diogelwch nhw a diogelwch pawb arall sy’n defnyddio’r ffyrdd.
“Mae teulu Mr Morgan wedi cael colled dorcalonus ac estynnwn ein cydymdeimlad atynt.”
Dedfrydwyd William Beer i 28 mis yn Llys y Goron, Casnewydd ar 27 Ionawr 2023.
Notes to editors
- Mae Anthony Clarke yn Uwch-erlynydd y Goron yn CPS Cymru-Wales
Plediodd William Beer (DG: 16/2/26) i un achos o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, yn groes i Adran 1 Deddf Traffig Ffyrdd, 1988
Bu farw Illtyd Morgan ar 6 Ebrill 2021 yn 84 oed.