Carchar i ddyn am ymosodiad creulon ar un o swyddogion heddlu Gwent
Mae dyn a ymosododd ar swyddog heddlu a hithau’n olau dydd gan achosi niwed corfforol difrifol iddo wedi cael ei garcharu yn Llys y Goron Casnewydd.
Siaradodd PC Nathan Attwell â Richard Nodwell, 37 oed, pan roedd ar ddyletswydd ar 20 Rhagfyr 2023. Roedd y swyddog yn ymateb i alwad 999 yn ardal Cwmbrân.
Dechreuodd Nodwell gynhyrfu mwy a mwy yn ystod y sgwrs ac ymosododd ar y swyddog, gan ddyrnu ei wyneb sawl gwaith cyn ei wthio i’r llawr.
Parhaodd Nodwell â’r ymosodiad, gan ddefnyddio’r ddau ddwrn i ddyrnu wyneb a phen y swyddog droeon, ac yna ei gicio cyn cerdded i ffwrdd.
Pan gyrhaeddodd swyddogion eraill ac arestio Nodwell, roedd yn dal yn ymosodol, gan ymosod ar un swyddog drwy boeri ar ei law a brathu esgid un arall.
Dywedodd Ryan Randall o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Dyma un o’r ymosodiadau mwyaf syfrdanol ar swyddog heddlu i mi erioed ei weld.
“Roedd Nodwell wedi cyflawni’r weithred ffiaidd hon o drais yn erbyn swyddog mewn iwnifform a oedd yn cyflawni ei ddyletswyddau cyfreithiol, gan ddiystyru ei awdurdod yn llwyr.
“Mae’r CPS yn ystyried unrhyw ymosodiad neu gam-drin yn erbyn un o weithwyr y gwasanaethau brys yn ddifrifol iawn.
“Mae gweithwyr y gwasanaethau brys yno i helpu’r cyhoedd a dylent allu gwneud hynny’n ddiogel a heb ofn.
“Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid yn y system cyfiawnder troseddol, gan ddefnyddio holl bwysau’r gyfraith, i ddiogelu gweithwyr y gwasanaethau brys.”
Cafodd Richard Nodwell ei ddedfrydu i chwe blynedd a phedwar mis o garchar gyda chyfnod trwydded estynedig o dair blynedd ar 1 Ebrill 2025 yn Llys y Goron Caerdydd.
Nodiadau i olygyddion
- Daw Richard Nodwell (Dyddiad geni: 2/11/1987) o Oakfield, Cwmbrân.
- Plediodd Nodwell yn euog i achosi niwed corfforol difrifol bwriadol; ymosod ar un o weithwyr y gwasanaethau brys (PC Gibbs); ymosod ar un o weithwyr y gwasanaethau brys (PC O’Connor).
- Roedd asgwrn boch, soced llygad a thrwyn PC Attwell wedi torri, roedd ganddo rwygiad yng nghefn ei ben lle’r oedd angen wyth pwyth, ac roedd angen pwythau arno uwchben ei lygad chwith hefyd.
- Mae Ryan Randall yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) Cymru.