Dyn yn cael ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddiaeth yng Ngwersyllt
Heddiw, yn Llys y Goron yr Wyddgrug, mae dyn a lofruddiodd ei ffrind wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes.
Roedd Matthew Hardy, 37 oed, wedi bod yn byw yn fflat Antony Derwent, a oedd yn 52 oed, am ychydig fisoedd cyn y llofruddiaeth, ar ôl adnabod ei gilydd am sawl blwyddyn.
Roedden nhw wedi bod yn yfed gyda’i gilydd ar 6 Ebrill 2024 ac roedden nhw yn y fflat yng Ngwersyllt, ger Wrecsam.
Am oddeutu 5:30am y bore canlynol, cyrhaeddodd parafeddygon y fflat a chanfod Mr Derwent yn gorwedd ar y llawr.
Roedd wedi dioddef anafiadau difrifol i’w wyneb ac i’w ben a oedd yn angheuol yn y pen draw.
Dywedodd Matthew Hardy wrth yr heddlu bod dyn arall wedi bod yno ac wedi ymosod ar Mr Derwent, gan daeru’r esboniad hwnnw yn ei dreial. Fodd bynnag, ar ôl clywed yr holl dystiolaeth yn yr achos, cafodd y rheithgor Hardy yn euog o lofruddiaeth.
Dywedodd Andrew Slight o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Lladdodd Matthew Hardy ddyn a oedd yn ymddiried ynddo mewn ymosodiad parhaus a chreulon.
“Roedd yr anafiadau a achoswyd gan Hardy yn dangos lefel eithafol o drais.
“Mae’r dystiolaeth a gyflwynwyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron, yn ogystal â’r ymchwiliad gan Heddlu Gogledd Cymru, wedi arwain at yr euogfarn hon, gan ddod â llofrudd Antony o flaen ei well.
“Rydyn ni’n cydymdeimlo â theulu a ffrindiau Antony am eu colled enfawr.”
Cafodd Matthew Hardy ei ddedfrydu ar 4 Ebrill 2025 i garchar am oes a gorchmynnwyd iddo wasanaethu o leiaf un mlynedd ar hugain cyn y gellir ei ystyried ar gyfer ei ryddhau.
Nodiadau i olygyddion
- Daw Matthew Edward Hardy (Dyddiad Geni: 18/8/1987) o Wersyllt, Wrecsam
- Bu farw Antony Derwent ar 7 Ebrill 2024 yn 52 oed
- Mae Andrew Slight yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) Cymru.