Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Dyn o Lanelli wedi’i ddedfrydu am ladd yn anghyfreithlon

|News, Violent crime

Mae dyn a laddodd gyn-gydweithiwr ar ôl noson allan gyda’i gilydd wedi cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe.

Roedd y dioddefwr, Liam Morgan-Whittle, 22 oed, wedi bod yn yfed gyda ffrindiau ar 24 Mawrth 2023 pan ymunodd Jason Thomas, 40 oed, â nhw. Roedd y ddau ddyn yn adnabod ei gilydd gan eu bod wedi gweithio i’r un cwmni adeiladu am gyfnod byr.

Aeth pob un ohonynt yn ôl i fflat ar Stryd Robinson, Llanelli, lle dechreuodd Thomas a’r dioddefwr frolio ynglŷn â phwy oedd y gorau am gymryd pwnsh, ac arweiniodd hynny at Thomas yn pwnsio’r dioddefwr ddwywaith yn syth ar ôl ei gilydd.

Cafodd Mr Morgan-Whittle ei daro’n anymwybodol gan yr ergydion, a dirywiodd ei iechyd yn gyflym gan arwain at alw’r gwasanaethau brys.

Yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw Liam Morgan-Whittle o’i anafiadau.

Dywedodd Jonathan Pritchard o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Waeth beth a ddywedwyd y noson honno, penderfynodd Jason Thomas ddefnyddio’i ddyrnau ac mae’n ysgwyddo cyfrifoldeb llawn dros ei weithredoedd.

“Achosodd anafiadau sylweddol drwy drais ac, yn drychinebus, fe gollodd unigolyn ei fywyd yn sgil hynny.

“Roedd y dystiolaeth a gyflwynwyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron yn gryf, ac fe blediodd y diffynnydd yn euog o ddynladdiad.

“Er bod Thomas wedi cael ei ddwyn gerbron y llys, ni all unrhyw beth newid yr hyn a wnaeth. Bydd yn rhaid iddo fyw gyda’r canlyniadau am weddill ei oes.

“Rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau Liam, sydd wedi dioddef colled enfawr, ac rydym yn cydymdeimlo â nhw.”  

Cafodd Jason Thomas ei ddedfrydu ar 3 Mawrth 2025 i garchar am 2 flynedd a 6 mis. 

Nodiadau i olygyddion

  • Plediodd Jason Thomas (dyddiad geni: 7/9/1984) o Heol Felinfoel, Llanelli, yn euog o ddynladdiad ar 10 Chwefror 2025

  • Bu farw Liam Morgan-Whittle ar 25 Mawrth 2023, yn 22 oed

  • Mae Jonathan Pritchard yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.

Further reading

Scroll to top