Dedfrydu dyn a lofruddiodd ei ffrind ar Noswyl Nadolig
Mae dyn 24 oed a drywanodd ei ffrind i farwolaeth yng Nghaerdydd ar noswyl Nadolig wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes yn Llys y Goron Caerdydd.
Roedd Dylan Thomas wedi bod yn rhannu eiddo yn ardal Llandaf gyda ffrind o’r ysgol. Ar 24 Rhagfyr 2023, ar ôl bod yn nhŷ ei fam-gu, daeth Thomas yn ôl i’r eiddo gyda dwy gyllell a thrywanodd ei ffrind, William Bush, sawl gwaith.
Gwadodd Thomas iddo gyflawni llofruddiaeth ond cyfaddefodd i gyflawni dynladdiad ar sail cyfrifoldeb lleiedig, gan ddibynnu ar dystiolaeth seiciatrig. Fodd bynnag, ar ôl clywed yr holl dystiolaeth yn yr achos, cafodd y rheithgor Thomas yn euog o lofruddiaeth.
Dywedodd Chris Evans o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd gweithredoedd Dylan Thomas yn arwain at yr ymosodiad yn dangos ei fod yn meddwl yn glir ac yn rhoi arwydd o’i fwriad.
“Roedd wedi chwilio ar y rhyngrwyd yn dadlennu’r anatomeg y gwddf cyn mynd i’r eiddo, ac wedi arfogi ei hun â dwy gyllell ar ol gyrhaeddodd, cyn ymosod yn wyllt ar ei ffrind.
“Roedd lefel y trais yn frawychus ac arweiniodd at farwolaeth drasig dyn ifanc.
“Rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau William, sydd wedi dioddef colled enfawr, ac rydym yn cydymdeimlo â nhw.”
Ar 24 Ionawr 2025, dedfrydwyd Dylan Thomas i garchar am oes, a gorchmynnwyd iddo aros yno am 19 blynyddoedd o leiaf.
Nodiadau i olygyddion
- Daw Dylan Thomas (dyddiad geni: 30/6/2000) o Landaf, Caerdydd, ac fe’i cafwyd yn euog o lofruddiaeth yn dilyn treial
- Bu farw William Bush ar 24 Rhagfyr 2023 yn 23 oed
- Mae Chris Evans yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) Cymru.