Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Carcharu Prifathro am ymosod ar ei Ddirprwy

|News, Violent crime

Mae prifathro a oedd wedi defnyddio tyndro i ymosod ar aelod o’i staff addysgu wedi ei garcharu yn Llys y Goron Abertawe.

Roedd Anthony John Felton, 54, yn ei waith yn Ysgol Gatholig a Chanolfan Chweched Dosbarth Sant Ioan ar 5 Mawrth 2025, pan arfogodd ei hun â thyndro a mynd i chwilio am ei gydweithiwr.

Roedd y dioddefwr, Richard Pyke, 51, yn eistedd ar gadair, pan ddaeth Felton y tu ôl iddo ac estyn ei arf cyn taro Mr Pyke ar ei ben sawl gwaith.

Fe glywodd cydweithwyr yr aflonyddwch ac fe aethant draw i helpu Mr Pyke, a galw’r gwasanaethau brys i’r safle.

Dywedodd Abul Hussain o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Ymosododd Anthony Felton ar ddyn cwbl ddiamddiffyn drwy ei daro ag arf metel sawl gwaith, mae hyn yn dangos mai ei fwriad oedd achosi niwed difrifol i’r dioddefwr.

“Roedd y lefel eithafol hwn o drais gan weithiwr proffesiynol yn y gweithle, a hynny heb reswm, yn frawychus.

“Yn rhy aml o lawer, mae ymosodiadau o'r math hwn yn arwain at anafiadau sy’n newid bywyd neu at ganlyniadau angheuol, ac rydym yn ddiolchgar nad dyna oedd y canlyniad yn yr achos hwn.”

Cafodd Anthony Felton ei ddedfrydu i ddwy flynedd a phedwar mis o garchar yn Llys y Goron Abertawe ar 25 Ebrill 2025.

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Anthony John Felton (Dyddiad Geni: 14/2/1971) yn dod o Orseinon
  • Plediodd Felton yn euog i geisio achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadon
  • Cafodd Richard Pyke anaf i'w ben a bu’n rhaid iddo gael triniaeth yn yr ysbyty
  • Mae Abul Hussain yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.

Further reading

Scroll to top