Dedfrydu dau ddyn i garchar am oes am lofruddiaeth yng nghanol dinas Abertawe
Mae dau ddyn, a barhaodd i daro dyn anymwybodol, wedi cael eu dedfrydu i garchar am oes yn Llys y Goron Abertawe am ei lofruddio.
Roedd Joseph Dix, 26 oed, a Macauley Ruddock, 28 oed, yn aros yn y Travelodge ar Ffordd y Dywysoges, ar ôl teithio i Abertawe i weithio.
Ar 16 Gorffennaf 2024, aethant i yfed yng nghanol y ddinas a chwrdd ag Andrew Main, 33 oed, a’i ffrind, a oedd hefyd yn aros yn y Travelodge.
Yn ystod oriau mân 17 Gorffennaf 2024, ar ôl iddynt ddychwelyd i’r Travelodge, buont yn dadlau ac yna dechrau ymladd.
Rhedodd Dix a Ruddock ar ôl Mr Main. Cafodd Mr Main ddwrn i’w ben o’r tu ôl gan Dix, nes ei fod yn anymwybodol.
Parhaodd Dix a Ruddock i’w ddyrnu i’w ben a’i wyneb tra’r oedd yn gorwedd yn anymwybodol ar y palmant.
Aeth Mr Main i’r ysbyty ond parhaodd i fod yn anymwybodol a bu farw lai na mis yn ddiweddarach o’i anafiadau ar 14 Awst 2024.
Dywedodd Nia Sturgess, o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Cynhaliodd Joseph Dix a Macauley Ruddock ymosodiad ofnadwy ar ddyn cwbl ddiamddiffyn.
“Cyflwynwyd tystiolaeth gref ger bron Gwasanaeth Erlyn y Goron, a dychwelwyd reithfarnau euog gan y rheithgor.
“Rhan allweddol o’r dystiolaeth honno oedd tystiolaeth gan dystion, a diolch i’r holl dystion am gefnogi’r erlyniad hwn”.
“Er bod yr achos wedi dod i ben erbyn hyn, bydd ein meddyliau’n aros gyda theulu a ffrindiau Andrew ar ôl eu colled.”
Ar 24 Ionawr 2025, dedfrydwyd Dix i garchar am oes, a gorchmynnwyd iddo aros yno am o leiaf 13 blynyddoedd a 176 diwrnodau. Dedfrydwyd Ruddock hefyd i garchar am oes, a gorchmynnwyd iddo aros yno am o leiaf 13 blynyddoedd a 176 diwrnodau.
Nodiadau i olygyddion
- Cafwyd Joseph Nigel Dix (Dyddiad Geni: 8/4/1998) o Frome, Gwlad yr Haf, yn euog o lofruddiaeth ar ôl treial.
- Cafwyd Macauley Luke Ruddock (Dyddiad Geni: 7/11/1996) o Frome, Gwlad yr Haf, yn euog o lofruddiaeth ar ôl treial.
- Bu farw Andrew Main ar 14 Awst 2024 yn 33 oed.
- Mae Nia Sturgess yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.