Dedfrydu tri dyn am herwgipio cynhyrchydd cerddoriaeth
Mae tri dyn wedi eu dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe am herwgipio cynhyrchydd cerddoriaeth o Lundain drwy ei ddenu i fwthyn yng Ngorllewin Cymru.
Fe wnaeth Faiz Shah, 23, Mohammad Comrie, 23, a Elijah Ogunnubi-Sime, 20 , gynllunio'r drosedd mewn sgwrs grŵp ar wefan negeseuo Telegram. Fe wnaeth y tri ddefnyddio’r grŵp hwn i drafod pa eitemau oedd eu hangen arnynt i gyflawni’r drosedd a sut bydden nhw’n gwyngalchu’r arian yr oedden nhw am orfodi’r dioddefwr i’w roi iddynt.
Roedden nhw wedi rhentu’r bwthyn ac wedi cynllunio ffordd o ddianc rhag ofn i’r heddlu gyrraedd.
Roedd y dioddefwr yn gynhyrchydd cerddoriaeth o Lundain, ac roedd y dynion wedi ei wahodd i weithdy cerddoriaeth ym mis Awst 2024 mewn bwthyn ger Llanybydder.
Fe drefnwyd bod tacsi yn mynd i nôl y dioddefwr o’i gartref ac yn ei gludo i'r bwthyn. Pan gyrhaeddodd y tacsi’r bwthyn ar 26 Awst 2024, fe aeth y dioddefwr a'r gyrrwr tacsi i mewn i’r adeilad ac fe wnaeth y dynion ymosod arnynt yn syth.
Llwyddodd y gyrrwr tacsi i ddianc yn ôl i’w gerbyd ond fe fethodd y dioddefwr â dianc a chafodd anafiadau helaeth i’w ben yn ogystal â chleisiau ar ei gorff.
Cafodd y dioddefwr ei gadwyno i’r rheiddiadur ond fe lwyddodd i dynnu’r gadwyn oddi ar y beipen a dianc o’r adeilad. Cuddiodd mewn coed gerllaw a ffonio ei wraig, ac fe wnaeth hithau roi gwybod i’r heddlu.
Fe gyflwynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron dystiolaeth gadarn gerbron y llys a arweiniodd at ble euog gan y tri diffynnydd.
Dywedodd Michael Cray o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd y diffynwyr wedi cynllunio’r drosedd yn fanwl, ac wedi trafod beth oedden nhw am ei wneud, sut yr oedden nhw am ei gyflawni, a sut oedden nhw am ddianc gyda’r arian.
“Yn ffodus iawn, ni wnaethant lwyddo i gyflawni’r troseddau er gwaetha’r cynllunio manwl.
“Mae’n rhaid bod hyn wedi bod yn brofiad gwirioneddol ofnus i’r ddau ddioddefwr a oedd heb syniad mai trap oedd y cyfan.
“Hoffwn ddiolch iddynt am gefnogi’r erlyniad hwn, ac rydym ni’n gobeithio y bydd y ffaith bod y troseddwyr hyn wedi cael eu dwyn gerbron y llys yn eu helpu nhw i symud ymlaen gyda’u bywydau.”
Dedfrydwyd y diffynyddion ar 14 Mawrth 2025 yn Llys y Goron Abertawe lle cafodd y tri wyth mlynedd ac un mis o garchar yr un.
Nodiadau i olygyddion
- Mae Faiz Shah (dyddiad geni: 9/12/2001) yn dod o Leeds
- Mae Mohammad Comrie (dyddiad geni: 22/9/2001) yn dod o Bradford
- Mae Elijah Adeleke Racis Ogunnubi-Sime (dyddiad geni: (4/4/2004) yn dod o Wallington
- Mae Michael Cray yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.