Llofruddiwr wedi’i ddedfrydu am lofruddiaeth ar Snapchat
Mae dyn a drywanodd ei ffrind a ffrydio’r llofruddiaeth ar Snapchat wedi’i ddedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug.
Roedd Mark Harley Jones, 20 oed, yn fflat ei ffrind ar 11 Gorffennaf 2021. Eu bwriad oedd gwylio gêm derfynol twrnamaint Ewro 2021 gyda’i gilydd. Fodd bynnag, cododd Jones gyllell a thrywanu ei ffrind, Kyle Whalley, yn ei frest gan ffrydio’r weithred ar Snapchat.
Dywedodd Andrew Warman o’r CPS: “Roedd Kyle Whalley yn bwriadu gwylio gêm bêl-droed gyda’i ffrind ond yn hytrach cafodd ei lofruddio gan unigolyn yr oedd yn ymddiried ynddo yn ei gartref.
“Mae’r ffaith bod y weithred greulon wedi’i chyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol yn destun sioc ac yn erchyll i’r rheini a welodd y digwyddiad.
“Profodd y CPS nad oedd Jones yn amddiffyn ei hun, fel yr honnodd, ac mae’r dyfarniad hwn yn creu cyfiawnder.
“Mae teulu a ffrindiau Kyle, sydd wedi dangos cryn gryfder drwy gydol yr achos Llys, yn ein meddyliau.”
Dedfrydwyd Mark Harley Jones i oes yn y carchar a gorchmynnwyd y bydd yn y carchar am o leiaf 18 mlynedd.
Nodiadau i olygyddion
- Mae Andrew Warman yn Uwch-erlynydd y Goron yn CPS Cymru-Wales.
Dyfarnwyd Mark Harley Jones (DG: 3/8/2002) yn euog o lofruddiaeth yn dilyn achos llys.
Bu farw Kyle Whalley ar 11 Gorffennaf 2021 yn 19 oed.