Llofrudd wedi’i ddedfrydu am lofruddio am yr eildro
Cafodd dyn ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe am ladd ei gymydog 71 oed, a hynny ar ôl bwrw dedfryd oes am lofruddiaeth yn y gorffennol.
Gyda’r nos ar 22 Awst 2023, aeth Brian Whitelock, 56, i fflat yr hyfforddwr marchogaeth wedi ymddeol, Wendy Buckney, yng Nghlydach, Abertawe.
Y bore canlynol, roedd cymydog arall wedi gweld Whitelock yn gadael y fflat. Pan ddaeth Whitelock wyneb yn wyneb â’r cymydog, dywedodd “Rydw i wedi lladd Wendy”.
Pan siaradodd yr heddlu â Whitelock, cyfaddefodd mai ef oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad. Ond, yn ddiweddarach, newidiodd ei esboniad gan ddweud ei fod wedi gweld rhywun arall yn agos at yr eiddo a’i fod wedi canfod corff y dioddefwr.
Yn y Llys, cyfaddefodd Whitelock ddynladdiad ar sail cyfrifoldeb lleiedig, gan ddweud bod ganddo anaf i’r ymennydd a oedd yn amharu ar ei grebwyll a’i hunanreolaeth.
Fodd bynnag, rhoddwyd tystiolaeth seiciatrig gerbron y rheithgor yn y treial, a oedd yn gwrth-ddweud ei honiad, gan ddweud mai’r rheswm mwyaf tebygol am ei ymddygiad oedd meddwdod cyffuriau.
Clywodd y rheithgor hefyd fod Whitelock wedi bwrw dedfryd oes am lofruddio a dynladdiad yn ymwneud â dwy farwolaeth ym mis Hydref 2000, a oedd wedi deillio o ddadl a oedd yn gysylltiedig â chyffuriau.
Cafodd ei garcharu yn 2001 am lofruddio Nicholas Morgan gyda chaib neu forthwyl mewn tŷ yn Abertawe ar ôl dadl a oedd yn gysylltiedig â chyffuriau.
Yna, rhoddodd gorff Mr Morgan ar dân i geisio cuddio tystiolaeth, ac arweiniodd hynny at ladd ei frawd ei hun, Glenn, a fu farw o ganlyniad i anadlu mwg ar ôl syrthio i gysgu yn y tŷ.
Treuliodd Whitelock 18 mlynedd yn y carchar cyn ei ryddhau, a chafodd ei alw’n ôl i wasanaethu am flwyddyn arall cyn cael ei ryddhau eto yn 2021.
Ar ôl clywed yr holl dystiolaeth yn yr achos yn ymwneud â marwolaeth Wendy Buckney, roedd y rheithgor wedi dyfarnu Whitelock yn euog o’i llofruddio.
Dywedodd Craig Harding, o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd lefel y trais a gafodd ei achosi gan Whitelock yn wirioneddol ddychrynllyd.
“Fe wnaeth weithred o drais eithafol heb reswm ar fenyw agored i niwed, a oedd bob amser yn garedig tuag ato.
“Roedd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn galw am dystiolaeth i wrthbrofi ei honiadau, a chyflwynodd achos cadarn i’r rheithgor a arweiniodd at yr euogfarn hon.
“Mae teulu a ffrindiau Wendy wedi dangos dewrder drwy gydol yr achos hwn, a bydd ein meddyliau’n aros gyda nhw.”
Ar 20 Rhagfyr 2024, cafodd Whitelock ddedfryd oes gyfan sy'n golygu na fydd byth yn cael ei ystyried i gael am ryddhau.
Nodiadau i olygyddion
- Daw Brian Lyndon Whitelock (Dyddiad geni: 28/2/1967) o Glydach, Abertawe.
- Bu farw Wendy Buckney ar 23 Awst 2023 yn 71 oed.
- Mae Craig Harding yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.