Llofrudd wedi’i ddedfrydu am ladd ei gyn gyfaill
Mae dyn a drywannodd gyn gyfaill a’i ladd wedi ei ddedfrydu i garchar am oes.
Roedd Jamie Mitchell, 25, yn ei gartref ar 4 Hydref 2022 pan falwyd ei ffenestr tua 10pm. Fe ymatebodd drwy gydio mewn cyllell gegin o’r tŷ ac aeth i chwilio am y rhai a oedd yn gyfrifol.
Er nad oedd Steven Wilkinson yn gyfrifol am achosi’r difrod, gwelodd Mitchell ef yn y stryd a rhedeg ar ei ôl i lawr stryd gul ger Jubilee Court ym Mwcle, a’i gornelu a’i drywannu unwaith ar ochr chwith ei frest.
Rhoddodd aelodau o’r cyhoedd gymorth cyntaf wrth ddisgwyl am y gwasanaethau brys ond bu farw Wilkinson.
Dywedodd Ceri Ellis-Jones o’r CPS: “Gadawodd Mitchell ei dŷ wedi’i gynddeiriogi ac yn cario cyllell gyda’r bwriad o ddial.
“Cyflwynodd y CPS dystiolaeth gref yn dangos ei fwriadau a arweiniodd at ei ddedfrydu.
“Mae’r achos hwn yn ein hatgoffa pa mor beryglus yw cyllyll mewn mannau cyhoeddus, a chanlyniad hynny yn aml yw trychineb.
“Collodd Steven ei fywyd mewn ffordd dreisgar, ac mae ei deulu a’i ffrindiau’n galaru’n ddwys amdano ac rydym yn parhau i feddwl amdanynt ar yr adeg hon.”
Dedfrydwyd Jamie Mitchell yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 4 Mai 2023 a’i garcharu am oes a bydd yn y carchar am o leiaf 22 mlynedd.
Nodiadau i olygyddion
- Mae Ceri Ellis-Jones yn Uwch-erlynydd y Goron yn CPS Cymru-Wales
Dyfarnwyd Jamie Mitchell (DG: 4/1/1998) yn euog o lofruddiaeth yn dilyn achos llys
Bu farw Steven Wilkinson ar 4 Hydref 2022 yn 23 oed.