Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Cwpl wedi’u dedfrydu dros farwolaeth plentyn ifanc

|News, Violent crime

Mae mam a’i chyn-gariad wedi’u carcharu am eu rhan ym marwolaeth plentyn ifanc.

Bu farw Lola James, a oedd yn ddwy oed, ar ôl ymosodiad creulon, brwnt a threisgar yn ei chartref ei hun a’i gadawodd yn anymwybodol gyda 101 o anafiadau, gan gynnwys anaf i’r ymennydd.

Yn ystod yr achos llys, cafodd yr anafiadau i ymennydd Lola eu cymharu ag anafiadau pobl mewn damweiniau car.

Bu farw Lola yn yr ysbyty ar 21 Gorffennaf 2020, ychydig ddyddiau ar ôl yr ymosodiad dan ddwylo cyn-gariad ei mam yn Hwlffordd, Sir Benfro.

Cafodd y llofruddiwr Kyle Bevan, 31 oed, ei euogfarnu o lofruddiaeth Lola ac fe’i dedfrydwyd i garchar am oes gydag o leiaf 28 o flynyddoedd dan glo yn Llys y Goron Abertawe heddiw (25 Ebrill 2023).

Dedfrydwyd ei gyn-bartner, a mam Lola, Sinead James, 30 oed, i cwech blynedd o garchar yn yr un llys, ar ôl ei chael yn euog yn yr un achos llys o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn.

Dywedodd John Griffiths o’r CPS: “Roedd Lola yn eneth fach hyfryd a llon a oedd yn llawn egni. Newydd ddechrau oedd ei bywyd pan gafodd y cwbl ei ddwyn oddi wrthi gan y diffinyddion hyn.

“Disgrifiodd Kyle Bevan ei hun fel ‘llystad’ Lola ond doedd ei weithredoedd yn ddim byd tebyg i weithredoedd tad.

“Achosodd anafiadau i Lola yn y gorffennol, ond y tro hwn bu i’w wylltineb arwain ato yn llofruddio plentyn diamddiffyn dan ei ofal.

“Dylai bod Lola wedi bod yn ddiogel yn ei chartref ac yng nghwmni pobl y gallai ymddiried ynddynt. Ond caniataodd ei mam, Sinead James, i ddyn treisgar a dinistriol ddod i’w bywydau a methodd yn ei dyletswydd i warchod Lola rhag niwed. Roedd James yn gwbl ymwybodol bod Bevan mewn perygl, ond dewisodd ei gadw yn ei bywyd.

“Roedd achos yr erlyniad yn cynnwys tystiolaeth arbenigol a rwygodd stori anobeithiol ac edifar bod Lola wedi’i lladd ar ôl cael ei thaflu i lawr y grisiau gan gi’r teulu.

“Mae’r achos hwn wedi bod yn dorcalonnus i nifer, ond heddiw caiff Lola gyfiawnder.”

Clywodd y Llys fod Lola wedi’i hymosod pan oedd Bevan ar ei phen ei hun gyda hi.

Yn ôl cofnodion ffôn, bu i Lola fynd yn anymwybodol yn fuan ar ôl yr ymosodiad, ac ymchwiliodd Bevan ar Google “my 2 year old child has just taken a bang to the head and gone all limp and snoring. What’s wrong”.

Dywedodd Bevan wrth barafeddygon, arbenigwyr meddygol a’r heddlu fod anafiadau Lola o ganlyniad iddi yn cael ei tharo gan gi’r teulu a chael ei thaflu i lawr y grisiau. Yn ystod yr achos llys, rhoddodd yr arbenigwyr meddygol dystiolaeth yn datgan na allai Lola fod wedi dioddef y fath anafiadau drwy ddisgyn i lawr y grisiau, ond ei bod wedi dioddef ymosodiad corfforol gwyllt.

Pasiodd awr cyn y ceiswyd cymorth meddygol i Lola.

Cyn arestio Bevan, ceisiodd fynd ati i roi trefn ar ei stori, ac anfon neges at ei bartner: “What are you going to say,” a “This is important” cyn i James ateb yn dweud “What you told me”. Ymatebodd Bevan: “Yeah but obviously you’ve got to get it bang on like.”

Ychwanegodd Mr Griffiths: “Er nad oes modd dod â Lola yn ôl, rwy’n gobeithio bod yr euogfarnau a’r dedfrydau a roddwyd yn y Llys heddiw yn rhyw fath o gysur i’r rheini yr oedd Lola yn annwyl iawn iddynt. Estynnwn ein cydymdeimlad atynt yn y cyfnod hwn.

“Mae’r CPS yn gwbl ymroddedig i ddod â chyfiawnder i droseddwyr treisgar a gwnânt bopeth o fewn eu gallu i sicrhau cyfiawnder.”

Nodiadau i olygyddion

  • Daw Kyle Bevan (dyddiad geni: 9/1/1992) o Aberystwyth ac fe’i cafwyd yn euog o lofruddiaeth, yn groes i gyfraith gyffredin.
  • Daw Sinead James (dyddiad geni: 3/9/1992) o Neyland ac fe’i cafwyd yn euog o ganiatáu marwolaeth plentyn, yn groes i adran 5 Deddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr, 2004.
  • Mae John Griffiths yn Uwch-erlynydd y Goron yn Uned Gwaith Achos Cymhleth CPS Cymru-Wales.

Further reading

Scroll to top