Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Main content area

Tiwtor Coleg yn cael ei ddedfrydu am greu delweddau anweddus o gyn-ddisgybl

|News

Mae tiwtor o Goleg Gwent wedi cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Casnewydd heddiw ar ôl pledio’n euog i’r drosedd o Greu Delweddau Anweddus o Blant.

Roedd Ian Powell, 60 oed, yn diwtor yng Ngholeg Gwent ym Mrynbuga pan gyfarfu â’r dioddefwr. Ar ôl i’r person ifanc adael y coleg, roeddent wedi rhannu negeseuon â’i gilydd er bod y person ifanc yn dal i fod o dan 18 oed. Datblygodd y negeseuon i fod yn rhywiol eu natur, gan gynnwys rhannu delweddau rhywiol.

Cafodd Powell ei arestio ym mis Rhagfyr 2023 a chymerwyd ei ddyfeisiau electronig oddi wrtho. Arnynt, gwelwyd bod ganddo ddau fideo categori A, pum delwedd categori A, wyth delwedd categori B, a 32 o ddelweddau categori C.

Dywedodd Monique McKevitt o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Mae’n drosedd cael delweddau anweddus o unrhyw un o dan 18 oed, oherwydd mae hyn yn cyfrannu at achosion o gam-fanteisio’n rhywiol ar blant.

“Roedd Ian Powell yn ymwybodol o oedran y dioddefwr ond parhaodd i gyfnewid negeseuon amhriodol o natur rywiol i fodloni ei ddymuniadau rhywiol ei hun. Fel tiwtor coleg, roedd yn gwybod ei fod ar fai.

“Roedd cryfder y dystiolaeth a gyflwynwyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron, gan gynnwys tystiolaeth o ffôn symudol, yn golygu nad oedd gan Powell fawr o ddewis ond pledio’n euog.

“Rwy’n gobeithio y bydd yr erlyniad hwn yn anfon neges glir y bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn parhau i weithio ochr yn ochr â’r heddlu i ddwyn gerbron y llys y rheini sy’n cam-fanteisio’n rhywiol ar bobl ifanc.”

Dedfrydwyd Ian Powell ar 3 Hydref 2024 i gyfanswm o ddeg mis o garchar a gafodd ei ohirio am ddwy flynedd ac roedd yn cynnwys Gofyniad Gweithgarwch Adsefydlu 30 diwrnod a 150 awr o waith di-dâl. Gosodwyd gorchymyn atal hefyd am saith mlynedd.


 

Notes to editors

  • Mae Ian Powell (dyddiad geni: 22/6/1964) o Fetws, Sir Fynwy. Plediodd yn euog i 3 cyhuddiadau o greu delwedd anweddus o blentyn.
  • Ni ellir enwi’r dioddefwr am resymau cyfreithiol.
  • Mae Monique McKevitt yn Uwch Erlynydd Rhanbarth y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) Cymru. 

Further reading

Scroll to top