Perchennog campfa a swyddog drysau yn cael eu dedfrydu am gynllwyn i gyflenwi steroidau
Mae perchennog campfa a swyddog drysau a ddefnyddiodd unedau hunanstorio yn y Rhyl i storio llawer iawn o steroidau wedi cael eu dedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug am gynllwyn i gyflenwi cyffuriau dosbarth C.
Cafodd Lee Ablitt, 50 oed, o ardal Warrington, ei stopio tra oedd yn gyrru ar yr M56 am ei fod yn yrrwr wedi’i wahardd. Wrth i'r heddlu chwilio’r cerbyd, daethant o hyd i nifer o focsys o gyffuriau dosbarth C.
Arweiniodd ymholiadau’r heddlu at ddau gynhwysydd storio yn y Rhyl, wedi’u cofrestru i Ablitt, lle daethpwyd o hyd i swmp sylweddol o steroidau a chyffuriau gwella perfformiad ynghyd â llawer iawn o arian.
Datgelodd data a gasglwyd o ffôn Ablitt fod Christopher Thompson, 49, o Wigan, hefyd yn ymwneud â’r fenter droseddol, gyda Thompson yn anfon rhestrau o gyffuriau yr oedd cwsmeriaid yn gofyn amdanynt at Ablitt.
Dywedodd arbenigwr cyffuriau’r heddlu fod y cyffuriau a gafodd eu hatafaelu yn werth rhwng £1.5m a £2.1m.
Dywedodd Ablitt ei fod wedi dechrau corfflunio pan oedd yn ei arddegau a’i fod wedi dechrau swmpbrynu steroidau - ar y cyd ag eraill i ledaenu’r gost - a’u bod wedyn yn cael eu cyflenwi ar gais.
Dywedodd Emmalyne Downing o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd yn amlwg o’r dystiolaeth fod y ddau ddyn wedi bod yn rhan o’r fenter droseddol hon.
“Efallai na fydd rhai’n meddwl bod y cyffuriau hyn yn beryglus, ond maen nhw’n sylweddau a reolir sy’n gallu bod yn niweidiol.
“Cyflwynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron achos cryf a arweiniodd yn y pen draw at bledio’n euog, gan ddwyn y troseddwyr gerbron y llys.”
Ar 14 Tachwedd 2024 cafodd Lee Ablitt ei ddedfrydu i bum mlynedd o garchar a chafodd Christopher Thompson ei ddedfrydu i ddwy flynedd a naw mis o garchar.
Notes to editors
- Daw Lee Ablitt (Dyddiad geni: 31/8/1973) o Newton-Le-Willows yn ardal Warrington.
- Daw Christopher Thompson (Dyddiad geni: 29/1/1975) o Wigan.
- Plediodd Lee Ablitt yn euog i Gynllwyn i gyflenwi cyffuriau dosbarth c (31/12/2017 i 8/10/2021); Caffael Eiddo Troseddol (16/1/2015 i 8/10/2021 gwerth £327,787.37) a Meddu ar Eiddo Troseddol (7/10/2021 gwerth £483,968.09).
- Plediodd Christopher Thompson yn euog i Gynllwyn i gyflenwi cyffuriau dosbarth c (31/12/2017 i 8/10/2021) a Chaffael Eiddo Troseddol (31/10/2016 i 8/10/2021 gwerth £308,286.29).
- Cyfanswm gwerth yr arian a gymerwyd oedd £483,968.09.
- Mae Emmalyne Downing yn Eiriolwr y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) Cymru.