Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Sut rydym yn penderfynu beth i’w wneud yn eich achos chi

Pan fydd yr heddlu’n credu bod ganddynt ddigon o dystiolaeth, byddant yn trosglwyddo’r achos i ni yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron. 

Ar gyfer troseddau llai difrifol, er enghraifft dwyn o siop, bydd yr heddlu eisoes wedi penderfynu cyhuddo’r unigolyn a amheuir cyn iddynt anfon yr achos atom ni. 

Yn yr achosion hyn, byddwn yn adolygu’r dystiolaeth i wneud yn siŵr ein bod yn cytuno â phenderfyniad yr heddlu cyn bwrw ymlaen ag erlyniad. Os byddwn yn penderfynu nad oes digon o dystiolaeth i erlyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw’r rheswm dros ein penderfyniad. Gallwch ddarllen mwy am hyn a’ch hawl i gael adolygiad yn ein hadran ar wneud ein penderfyniadau.

Ar gyfer troseddau mwy difrifol, er enghraifft troseddau casineb, cam-drin domestig neu unrhyw droseddau sydd â dedfryd o fwy na 6 mis yn y carchar, byddwn yn adolygu’r dystiolaeth mae’r heddlu wedi ei chasglu, ac yn penderfynu a allwn ni erlyn yr unigolyn a amheuir ai peidio. 

Mae’r adran hon yn egluro beth fydd yn digwydd pan fydd yr heddlu’n anfon yr achos atom, gan gynnwys sut rydym yn penderfynu beth i’w wneud ym mhob achos, beth fydd yn digwydd nesaf os penderfynwn gyhuddo rhywun a amheuir a beth yw eich hawliau os penderfynwn beidio â chyhuddo’r unigolyn a amheuir.

Adolygu’r dystiolaeth

Bydd y ffeil y bydd yr heddlu yn ei hanfon atom yn cynnwys ystod o dystiolaeth. Gallai hyn gynnwys pethau fel:

  • Eich datganiad(au) tyst neu recordiad fideo o’ch cyfweliad(au) gyda’r heddlu
  • Eich datganiad personol dioddefwr – os ydych wedi darparu un
  • Datganiadau gan unrhyw dystion eraill neu recordiadau fideo o gyfweliadau â hwy
  • Unrhyw adroddiad a ddarparwyd gan yr unigolyn, neu’r unigolion a amheuir yn ystod eu cyfweliad â’r heddlu
  • Tystiolaeth Teledu Cylch Cyfyng 
  • Tystiolaeth fforensig
  • Tystiolaeth feddygol
  • Tystiolaeth ddigidol a gasglwyd o ffonau clyfar, cyfrifiaduron tabled neu ddeunydd a lwythwyd i lawr o gyfrifiaduron

Bydd ffeil yr heddlu hefyd yn cynnwys rhestr o’r holl ddeunydd perthnasol y maent wedi’i gasglu fel rhan o’u hymchwiliad nad yw’n rhan o’u tystiolaeth yn erbyn yr unigolyn a amheuir. Bydd yr heddlu’n dweud wrth erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron os gallai unrhyw ran o’r deunydd hwn danseilio’r achos neu helpu achos yr amddiffyniad pe bai’r achos yn mynd i dreial. 

Pa droseddau y gellid cyhuddo’r sawl a amheuir ohonynt?

Bydd y swyddog yn eich achos yn gallu esbonio i chi pa droseddau y gallai’r unigolyn a amheuir gael ei gyhuddo ohonynt yn eich achos chi. Mae rhagor o fanylion am droseddau penodol ar dudalen canllawiau cyfreithiol ein gwefan.

Gwneud ein penderfyniad

Er mwyn penderfynu a ddylid cyhuddo’r sawl a amheuir mewn achos ai peidio, mae ein herlynwyr yn defnyddio’r prawf dau gam sydd ar gael yn ein Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron.

Y cam cyntaf yw’r ‘cam tystiolaeth’. Yn y cam hwn, bydd ein herlynydd yn adolygu’r holl dystiolaeth a ddarparwyd gan yr heddlu ac yn gofyn y cwestiwn ‘A oes digon o dystiolaeth yn erbyn yr unigolyn a amheuir i roi siawns realistig y caiff ei ddyfarnu’n euog?’ Mae hynny’n golygu, ar ôl edrych ar yr holl dystiolaeth, a yw llys yn fwy tebygol na pheidio o gael y diffynnydd yn euog?

I ateb y cwestiwn hwn, rhaid iddynt ystyried a yw’r dystiolaeth y gallant ei defnyddio yn y llys yn ddibynadwy ac yn gredadwy ac a oes unrhyw ddeunydd arall a allai danseilio’r dystiolaeth honno.

Mae’r prawf hwn yn wahanol i’r prawf y mae’r llys yn ei ddefnyddio yn y treial. Pan fydd achos yn cyrraedd treial, rhaid i’r ynadon neu’r rheithgor fod yn siŵr bod diffynnydd yn euog er mwyn ei gael yn euog. Yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron, does dim rhaid i ni fod yn siŵr bod rhywun yn euog i fwrw ymlaen â’r achos – a dweud y gwir, nid ydym yn gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch a yw rhywun yn euog ai peidio.   

Os na fydd yr achos yn pasio’r cam cyntaf hwn, ni allwn symud ymlaen i’r cam nesaf, ni waeth pa mor ddifrifol neu sensitif y gallai’r achos fod.

Yr ail gam yw’r ‘prawf budd y cyhoedd’. Ar y cam hwn, bydd erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron unwaith eto’n adolygu’r holl dystiolaeth a ddarparwyd gan yr heddlu ac yn gofyn y cwestiwn ‘A yw erlyn er budd y cyhoedd?’ i’w hun.

I ateb y cwestiwn hwn, rhaid iddynt ystyried pethau fel difrifoldeb y drosedd, y niwed a achoswyd i’r dioddefwr, yr effaith ar gymunedau ac oedran ac aeddfedrwydd yr unigolyn a amheuir adeg y drosedd. 

Bydd erlyniad yn mynd yn ei flaen oni bai fod erlynydd yn penderfynu bod ffactorau budd y cyhoedd yn erbyn erlyniad yn drech na’r rhai sydd o blaid erlyn. 

Gallwch ddarllen rhagor am ein prawf dau gam yn ein Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron.

Faint o amser mae’n ei gymryd i ni wneud ein penderfyniad?

Mae pob achos yn wahanol ac nid oes un ateb i’r cwestiwn hwn. Gall rhai achosion fod yn syml tra bydd eraill â llawer o dystiolaeth y mae angen i ni ei hadolygu neu faterion cyfreithiol y mae angen i ni eu datrys. 

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod wrth i chi aros am y penderfyniad hwn, felly byddwn bob amser yn gwneud ein gorau i adolygu’r dystiolaeth yn gyflym ac yn effeithlon fel nad ydych chi’n aros yn hwy nag sydd angen. Mae gennych yr hawl dan y Cod Dioddefwyr i gael gwybodaeth am yr ymchwiliad a’r erlyniad, felly os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am hynt eich achos, gallwch gysylltu â’ch cyswllt yn yr heddlu, a fydd yn fwy na pharod i’ch helpu.

Os byddwn yn penderfynu cyhuddo rhywun a amheuir

Os bydd ein herlynydd yn penderfynu bod ein prawf dau gam wedi’i fodloni, byddwn yn dweud wrth yr heddlu pa drosedd(au) y gallant gyhuddo’r sawl a amheuir ohonynt.

Bydd yr heddlu wedyn yn cyhuddo’r sawl a amheuir. Ar y pwynt hwn, bydd yr unigolyn a amheuir yn cael ei adnabod fel y diffynnydd. 

Mewn rhai achosion, er enghraifft, os yw’r heddlu’n credu bod risg y gallai’r diffynnydd gyflawni trosedd arall neu fethu â bod yn bresennol yn y llys, efallai y bydd y diffynnydd yn cael ei ‘remandio yn y ddalfa’. Mae hyn yn golygu y bydd yn cael ei ddal gan yr heddlu, fel arfer mewn cell heddlu, hyd nes y bydd wedi ymddangos gerbron barnwr neu ynad pryd y gall ofyn am gael mechnïaeth.

Bydd yr heddlu’n rhoi gwybod i chi bod y diffynnydd wedi cael ei gyhuddo, pa droseddau y mae wedi cael ei gyhuddo ohonynt ac a yw wedi cael ei remandio yn y ddalfa. Os nad yw’r diffynnydd wedi’i remandio yn y ddalfa, bydd yr heddlu’n ei ryddhau cyn y gwrandawiad llys cyntaf. Os bydd hynny’n digwydd, bydd yr heddlu’n rhoi gwybod i chi a oes unrhyw amodau ar waith y mae’n rhaid i’r diffynnydd eu dilyn, er enghraifft aros i ffwrdd oddi wrthych chi neu oddi wrth fan penodol. Gallwch ddarllen rhagor am hyn yn ein hadran ar fechnïaeth. Bydd yr heddlu hefyd yn rhoi gwybod i chi pryd y cynhelir y gwrandawiad llys cyntaf.

Y cam nesaf yw gwrandawiad cyntaf yr achos a fydd yn cael ei gynnal yn y llys ynadon.

Os bydd angen rhagor o dystiolaeth arnom i wneud penderfyniad

Os bydd ein herlynydd yn penderfynu nad oes digon o dystiolaeth i gyhuddo’r unigolyn a amheuir ar hyn o bryd, yna bydd yn ystyried a oes rhagor o dystiolaeth y gallai’r heddlu chwilio amdani i wneud yr achos yn gryfach. Os credwn y gallai mwy o ymchwiliadau gan yr heddlu helpu, byddwn yn gofyn i’r heddlu barhau â’u hymchwiliad a rhoi unrhyw dystiolaeth ychwanegol y gallant ddod o hyd iddi, i ni. 

Os bydd yr heddlu’n dod o hyd i ragor o dystiolaeth, gall yr achos wedyn ddod yn ôl atom a byddwn yn penderfynu o’r newydd a ddylid erlyn y sawl a amheuir ai peidio. 

Bydd yr heddlu’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn sy’n digwydd yn yr achos os bydd angen iddynt chwilio am ragor o dystiolaeth.

Os penderfynwn ni beidio â chyhuddo – a’ch hawl i gael adolygiad

Os bydd ein herlynydd yn penderfynu nad yw’r achos yn pasio ein prawf dau gam, ac nad oes unrhyw dystiolaeth bellach y gallai’r heddlu chwilio amdani a fyddai’n newid hyn, ni fydd modd iddynt gyhuddo’r sawl a amheuir. Gelwir hyn hefyd yn benderfyniad i gynghori ‘dim camau pellach’ (NFA).

Os byddwn yn penderfynu peidio ag erlyn yr achos, byddwn yn egluro’r rhesymau am hynny – fel arfer, eich cyswllt heddlu fydd yn esbonio’r penderfyniad hwn i chi, ond mewn rhai mathau o achosion bydd ein herlynydd yn anfon llythyr atoch. 

Os ydych chi’n anhapus â’r penderfyniad, mae gennych hawl i ofyn i ni edrych ar ein penderfyniad eto. Gelwir hyn yn ‘Hawl Dioddefwyr i Adolygiad’. 

Nid oes proses ffurfiol y mae angen i chi ei dilyn i ofyn am adolygiad o’ch achos – y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw rhoi gwybod i ni yr hoffech i ni edrych ar ein penderfyniad eto. 

Os hoffech chi, gallwch gynnwys gwybodaeth ynghylch pam yr hoffech i ni adolygu’r achos neu pam eich bod yn meddwl bod y penderfyniad yn anghywir, ond nid oes angen i chi wneud hyn – mae’n ddigon dweud wrthym eich bod am i ni adolygu’r penderfyniad.

Os hoffech wneud cais am adolygiad, dylech wneud hyn cyn gynted â phosibl ar ôl i ni roi gwybod i chi am ein penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â’ch achos ac, yn ddelfrydol, dim hwyrach na 10 diwrnod gwaith (pythefnos) yn ddiweddarach. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gallwn dderbyn ceisiadau a wneir dros dri mis ar ôl y penderfyniad – er enghraifft, os na ddywedwyd wrthych ar y pryd am eich hawl i gael adolygiad. 

Os byddwch yn gofyn am adolygiad, bydd erlynydd newydd o’r tu mewn i Ardal Gwasanaeth Erlyn y Goron yn adolygu’r holl dystiolaeth ac yn defnyddio ein prawf dau gam eto i ddod i’w benderfyniad ei hun yn yr achos. Efallai y bydd yn penderfynu bod y prawf cyfreithiol wedi’i fodloni a bod modd cyhuddo’r sawl a amheuir neu efallai y bydd yn cytuno â’r penderfyniad na ddylid cymryd camau pellach. 

Ar ôl iddo gwblhau’r adolygiad hwn, bydd yn ysgrifennu atoch i esbonio’i benderfyniad. Bydd hefyd yn cynnig siarad â chi dros y ffôn neu wyneb yn wyneb i drafod yr achos os byddai hynny o gymorth i chi.  Os ydych chi wedi darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’ch cais am adolygiad – er enghraifft, gwybodaeth ynghylch pam rydych chi’n meddwl bod y penderfyniad yn anghywir, bydd yr erlynydd yn mynd i’r afael ag unrhyw bwyntiau rydych chi wedi’u codi yn ei esboniad. 

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yr erlynydd yn dweud wrthych beth yw ei benderfyniad o fewn 30 diwrnod gwaith (tua chwe wythnos). Os yw’r adolygiad yn debygol o gymryd mwy o amser na hyn, er enghraifft os oes llawer o dystiolaeth i’w hystyried, byddwn yn rhoi gwybod i chi faint o amser y mae’r adolygiad yn debygol o’i gymryd ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cynnydd.

Os nad ydych chi’n hapus â phenderfyniad yr erlynydd newydd, gallwch ofyn am adolygiad pellach o’r achos. Bydd hyn yn cael ei wneud gan ein Huned Apeliadau ac Adolygu. Byddant yn adolygu’r holl dystiolaeth ac yn defnyddio ein prawf dau gam i ddod i’w penderfyniad ei hunain yn yr achos. Byddant yn ysgrifennu atoch i esbonio eu penderfyniad.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Hawl Dioddefwyr i Adolygiad.

Scroll to top