Sut rydym yn penderfynu beth i’w wneud yn eich achos chi
Pan fydd yr heddlu’n credu bod ganddynt ddigon o dystiolaeth, byddant yn trosglwyddo’r achos i Wasanaeth Erlyn y Goron. Byddwn yn adolygu’r dystiolaeth ac yn ystyried a allwn erlyn.
Os nad yw’r heddlu’n credu bod ganddynt ddigon o dystiolaeth, ni fyddant yn trosglwyddo’r achos i ni ac ni fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd yn erbyn y sawl dan amheuaeth.
Os bydd hynny’n digwydd, bydd eich cyswllt yn yr heddlu yn esbonio pam, pa gymorth sydd ar gael i’ch helpu ac a oes unrhyw gamau eraill y gallant eu cymryd yn erbyn yr unigolyn dan amheuaeth. Os bydd yr heddlu’n penderfynu peidio ag anfon eich achos atom, gallwch ofyn i’r heddlu adolygu’r penderfyniad hwnnw – gelwir hyn yn Hawl Dioddefwr i Adolygiad. Gall eich cyswllt yn yr heddlu roi gwybod i chi sut i wneud hyn.
Mae’r adran hon yn egluro beth fydd yn digwydd pan fydd yr heddlu’n anfon yr achos atom, gan gynnwys sut rydym yn penderfynu beth i’w wneud ym mhob achos, beth fydd yn digwydd nesaf os penderfynwn gyhuddo rhywun a amheuir a beth yw eich hawliau os penderfynwn beidio â chyhuddo’r unigolyn a amheuir.
Bydd y ffeil y bydd yr heddlu yn ei hanfon atom yn cynnwys ystod o dystiolaeth. Gallai hyn gynnwys pethau fel:
- Cofnod o’ch cyfweliad(au) gyda’r heddlu
- Eich datganiad personol dioddefwr – os ydych wedi darparu un
- Datganiadau gan unrhyw dystion eraill neu recordiadau fideo o gyfweliadau â hwy
- Unrhyw adroddiad a ddarparwyd gan yr unigolyn a amheuir yn ystod ei gyfweliad â’r heddlu
- Tystiolaeth Teledu Cylch Cyfyng
- Tystiolaeth feddygol - tystiolaeth gan feddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol arall yw hon
- Tystiolaeth ddigidol a gasglwyd o ffonau clyfar, cyfrifiaduron tabled neu ddeunydd a lwythwyd i lawr o gyfrifiaduron
Pan fyddwn yn adolygu’r dystiolaeth mewn achosion o dreisio neu ymosodiad rhywiol difrifol, byddwn yn canolbwyntio ar ymddygiad a gweithredoedd y sawl a amheuir. Weithiau, gelwir hyn yn ddull ‘canolbwyntio ar y sawl a amheuir’ neu’n ddull sy’n ‘canolbwyntio ar y troseddwr’.
Bydd ffeil yr heddlu hefyd yn cynnwys rhestr o’r holl ddeunydd y maent wedi’i gasglu fel rhan o’u hymchwiliad nad yw’n rhan o’u tystiolaeth yn erbyn yr unigolyn a amheuir. Bydd yr heddlu’n dweud wrth erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron os gallai unrhyw ran o’r deunydd hwn danseilio’r achos neu helpu achos yr amddiffyniad pe bai’r achos yn mynd i dreial.
Mae’r adran hon yn cynnwys dadansoddiad manwl o’r troseddau y gellir cyhuddo rhywun a amheuir ohonynt. Efallai y bydd rhai pobl yn ei chael yn anodd darllen yr adran hon. Mae gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr wedi’u rhestru yn yr adran ‘Pa gymorth sydd ar gael i’ch helpu’.
Ceir tair prif drosedd sy’n cwmpasu troseddau trais ac ymosodiad rhywiol difrifol. Nodir y rhain yn Neddf Troseddau Rhywiol 2003 a ddaeth i rym ar 1 Mai 2004.
Dyma ddiffiniadau cyfreithiol y troseddau hyn:
- Trais Rhywiol. Treiddio fagina, anws neu geg person arall gyda phidyn, heb eu cydsyniad a heb gredu’n rhesymol eu bod yn cydsynio.
- Ymosodiad Rhywiol drwy Dreiddio. Treiddio fagina neu anws rhywun arall gydag unrhyw ran o’r corff ar wahân i’r pidyn, neu gydag unrhyw wrthrych, heb eu cydsyniad a heb gredu’n rhesymol eu bod yn cydsynio.
- Ymosodiad Rhywiol. Cyffyrddiad rhywiol bwriadol â pherson arall heb eu cydsyniad a heb gredu’n rhesymol eu bod yn cydsynio.
Mae’r troseddau hyn yn golygu bod person yn cyflawni trosedd drwy gymryd rhan mewn unrhyw fath o weithgarwch rhywiol heb eich cydsyniad neu heb gredu’n rhesymol eich bod wedi rhoi cydsyniad. Rydym wedi esbonio’r hyn y mae’r gyfraith yn ei ddweud am gydsyniad yn fanylach isod.
Gall dynion a menywod fod yn ddioddefwyr troseddau rhywiol ac rydym yn cymryd pob achos o droseddau rhywiol o ddifri.
Mae’r gyfraith yn dweud bod person yn cydsynio i weithgarwch rhywiol dim ond os yw’n cytuno o ddewis a’i fod yn meddu ar:
Y rhyddid i wneud y dewis hwnnw
ac
Y gallu i wneud dewis ynghylch cymryd rhan yn y gweithgaredd rhywiol ar yr adeg dan sylw ai peidio.
Mae hyn yn golygu na allwch chi gydsynio i weithgarwch rhywiol os cewch eich gwthio neu eich gorfodi i wneud hynny mewn unrhyw ffordd. Mae hefyd yn golygu na allwch chi gydsynio os yw’r amgylchiadau’n golygu nad oes gennych y gallu i gydsynio ar y pryd. Er enghraifft, efallai na fydd gan rywun y gallu i gydsynio os ydynt wedi yfed llawer o alcohol neu wedi cymryd cyffuriau.
Fel rhan o’r achos, mae angen i ni hefyd brofi nad oedd gan y diffynnydd ‘gred resymol’ eich bod wedi cydsynio i’r gweithgaredd rhywiol. Mae cred ‘resymol’ yn golygu y byddai person rhesymol wedi credu eich bod yn cydsynio dan yr amgylchiadau. Mewn geiriau eraill, does dim ots os yw’r sawl a amheuir yn dweud ei fod yn credu eich bod yn cydsynio os gallwn ni ddangos na fyddai person rhesymol wedi credu hynny yn yr amgylchiadau.
Does dim rhaid i chi fod wedi dweud nad oeddech yn cydsynio i ni gyflwyno’r achos na fyddai person rhesymol wedi credu eich bod yn cydsynio.
Mewn rhai sefyllfaoedd, mae’r gyfraith yn caniatáu i ni dybio nad oedd person wedi cydsynio i weithgarwch rhywiol ac nad oedd y diffynnydd yn ‘credu’n rhesymol’ eu bod wedi cydsynio, oni bai fod y diffynnydd yn gallu dangos fel arall. Mae hyn yn cynnwys sefyllfaoedd lle’r oedd y dioddefwr yn anymwybodol, wedi cael ei ddrygio, ei herwgipio neu ei fygwth â thrais.
Gall y gyfraith sy’n ymwneud â chaniatâd fod yn gymhleth. Siaradwch â’ch cyswllt yn yr heddlu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Does dim terfyn amser ar ba mor hir ar ôl y drosedd y cewch chi roi gwybod am y drosedd. Y gwahaniaeth allweddol yw os cyflawnwyd y drosedd cyn 1 Mai 2004, yna mae angen i ni ddefnyddio gwahanol ddeddfwriaeth i’w herlyn – bydd hyn yn golygu bod y troseddau y gallwn gyhuddo rhywun ohonynt yn wahanol.
Deddf Troseddau Rhywiol 1956 yw’r prif ddarn o ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â throseddau rhywiol a ddigwyddodd cyn 1 Mai 2004.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am droseddau nad ydynt yn rhai diweddar, gallwch siarad â’ch cyswllt yn yr heddlu a all esbonio hyn yn fwy manwl i chi.
Mae pob achos o dreisio a throseddau rhywiol difrifol yn cael eu hadolygu gan ein herlynwyr ‘trais a throseddau rhywiol difrifol’ arbenigol (RASSO). Maent wedi’u hyfforddi’n arbennig i ddeall cymhlethdodau'r mathau hyn o achosion a’r mythau a’r stereoteipiau sydd o’u cwmpas.
Er mwyn penderfynu a ddylid cyhuddo’r sawl a amheuir mewn achos ai peidio, mae ein herlynwyr yn defnyddio'r prawf dau gam a nodir yn ein Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron.
Y cam cyntaf yw’r ‘cam tystiolaeth’. Yn y cam hwn, bydd ein herlynydd yn adolygu’r holl dystiolaeth a ddarparwyd gan yr heddlu ac yn gofyn y cwestiwn ‘A oes digon o dystiolaeth yn erbyn yr unigolyn a amheuir i roi siawns realistig y caiff ei ddyfarnu’n euog?’ Mae hynny’n golygu, ar ôl edrych ar yr holl dystiolaeth, a yw llys yn fwy tebygol na pheidio o gael y diffynnydd yn euog?
I ateb y cwestiwn hwn, rhaid iddynt ystyried a yw’r dystiolaeth y gallant ei defnyddio yn y llys yn ddibynadwy ac yn gredadwy ac a oes unrhyw ddeunydd arall a allai danseilio’r dystiolaeth honno.
Mae’r prawf hwn yn wahanol i’r prawf y mae’r llys yn ei ddefnyddio yn y treial. Pan fydd achos yn cyrraedd treial, rhaid i’r rheithgor fod yn siŵr bod diffynnydd yn euog er mwyn ei gael yn euog. Yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron, does dim rhaid i ni fod yn siŵr bod rhywun yn euog i fwrw ymlaen â’r achos – a dweud y gwir, nid ydym yn gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch a yw rhywun yn euog ai peidio.
Os na fydd yr achos yn pasio’r cam cyntaf hwn, ni allwn symud ymlaen i’r cam nesaf, ni waeth pa mor ddifrifol neu sensitif y gallai’r achos fod.
Yr ail gam yw’r ‘prawf budd y cyhoedd’. Ar y cam hwn, bydd erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron unwaith eto’n adolygu’r holl dystiolaeth a ddarparwyd gan yr heddlu ac yn gofyn y cwestiwn ‘A yw erlyn er budd y cyhoedd?’.
I ateb y cwestiwn hwn, rhaid iddynt ystyried pethau fel difrifoldeb y drosedd, y niwed a achoswyd i’r dioddefwr, yr effaith ar gymunedau, ac oedran ac aeddfedrwydd yr unigolyn a amheuir adeg y drosedd.
Bydd erlyniad yn mynd yn ei flaen oni bai fod erlynydd yn penderfynu bod ffactorau budd y cyhoedd yn erbyn erlyniad yn drech na’r rhai sydd o blaid erlyn.
Mewn achosion o dreisio neu ymosodiad rhywiol difrifol, mae difrifoldeb y drosedd yn golygu, lle ceir digon o dystiolaeth, y bydd erlyniad bron bob amser yn mynd yn ei flaen. Mae penderfyniad i beidio ag erlyn yr achosion hyn am resymau budd y cyhoedd yn anghyffredin iawn a byddai angen i’r erlynydd roi rhesymau clir yn egluro eu penderfyniad.
Gallwch ddarllen rhagor am ein prawf dau gam ar ein tudalen ar gyfer Erlynwyr y Goron.
Mae pob achos yn wahanol ac nid oes un ateb i’r cwestiwn hwn. Gall rhai achosion fod yn syml tra bydd eraill â llawer o dystiolaeth y mae angen i ni ei hadolygu neu faterion cyfreithiol y mae angen i ni eu datrys.
Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod wrth i chi aros am y penderfyniad hwn, felly byddwn bob amser yn gwneud ein gorau i adolygu’r dystiolaeth yn gyflym ac yn effeithlon fel nad ydych chi’n aros yn hwy nag sydd angen. Mae gennych hawl dan y Cod Dioddefwyr i gael gwybodaeth am yr ymchwiliad a’r erlyniad, felly os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am hynt eich achos, gallwch gysylltu â’ch cyswllt yn yr heddlu, a fydd yn fwy na pharod i’ch helpu.
Os bydd ein herlynydd yn penderfynu bod ein prawf dau gam wedi’i fodloni, byddwn yn dweud wrth yr heddlu pa drosedd(au) y gallant gyhuddo’r sawl a amheuir ohonynt.
Bydd yr heddlu wedyn yn cyhuddo’r sawl a amheuir. Ar y pwynt hwn, bydd yr unigolyn a amheuir yn cael ei adnabod fel y diffynnydd.
Mewn rhai achosion, er enghraifft, os yw’r heddlu’n credu bod risg y gallai’r diffynnydd gyflawni trosedd arall neu fethu â bod yn bresennol yn y llys, efallai y bydd y diffynnydd yn cael ei ‘remandio yn y ddalfa’. Mae hyn yn golygu y bydd yn cael ei ddal gan yr heddlu, fel arfer mewn cell heddlu, hyd nes y bydd wedi ymddangos gerbron barnwr pryd y gall ofyn am gael mechnïaeth.
Bydd yr heddlu’n rhoi gwybod i chi bod y diffynnydd wedi cael ei gyhuddo, pa droseddau y mae wedi cael ei gyhuddo ohonynt ac a yw wedi cael ei remandio yn y ddalfa. Os nad yw’r diffynnydd wedi’i remandio yn y ddalfa, bydd yr heddlu’n ei ryddhau cyn y gwrandawiad llys cyntaf. Os bydd hynny’n digwydd, bydd yr heddlu’n rhoi gwybod i chi a oes unrhyw amodau ar waith y mae’n rhaid i’r diffynnydd eu dilyn, er enghraifft aros i ffwrdd oddi wrthych chi neu oddi wrth fan penodol. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn ein hadran ar fechnïaeth. Bydd yr heddlu hefyd yn rhoi gwybod i chi pryd y cynhelir y gwrandawiad llys cyntaf.
Y cam nesaf yw gwrandawiad cyntaf yr achos a fydd yn cael ei gynnal yn y llys ynadon.
Os bydd ein herlynydd yn penderfynu nad oes digon o dystiolaeth i gyhuddo’r unigolyn a amheuir ar hyn o bryd, yna bydd yn ystyried a oes rhagor o dystiolaeth y gallai’r heddlu chwilio amdani i wneud yr achos yn gryfach. Os credwn y gallai mwy o ymchwiliadau gan yr heddlu helpu, byddwn yn gofyn i’r heddlu barhau â’u hymchwiliad a rhoi unrhyw dystiolaeth ychwanegol y gallant ddod o hyd iddi, i ni.
Os bydd yr heddlu’n dod o hyd i ragor o dystiolaeth, gall yr achos wedyn ddod yn ôl atom a byddwn yn penderfynu o’r newydd a ddylid erlyn y sawl a amheuir ai peidio.
Bydd yr heddlu’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn sy’n digwydd yn yr achos os bydd angen iddynt chwilio am ragor o dystiolaeth.
Os bydd ein herlynydd yn penderfynu nad yw’r achos yn pasio ein prawf dau gam, ac nad oes unrhyw dystiolaeth bellach y gallai’r heddlu chwilio amdani a fyddai’n newid hyn, ni fydd modd iddynt gyhuddo’r sawl a amheuir. Gelwir hyn hefyd yn benderfyniad i gynghori ‘dim camau pellach’ (NFA).
Os byddwn yn penderfynu peidio ag erlyn yr achos, byddwn yn egluro’r rhesymau dros hynny ac mae gennych chi hawl i ofyn i ni edrych ar ein penderfyniad eto. Gelwir hyn yn ‘Hawl Dioddefwyr i Adolygiad’.
Nid oes proses ffurfiol y mae angen i chi ei dilyn i ofyn am adolygiad o’ch achos – y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw rhoi gwybod i ni yr hoffech i ni edrych ar ein penderfyniad eto.
Os hoffech chi, gallwch gynnwys gwybodaeth ynghylch pam yr hoffech i ni adolygu’r achos neu pam eich bod yn meddwl bod y penderfyniad yn anghywir, ond nid oes angen i chi wneud hyn – mae’n ddigon dweud wrthym eich bod am i ni adolygu’r penderfyniad.
Os hoffech wneud cais am adolygiad, dylech wneud hyn cyn gynted â phosibl ar ôl i ni roi gwybod i chi am ein penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â’ch achos ac, yn ddelfrydol, dim hwyrach na 10 diwrnod gwaith (pythefnos) yn ddiweddarach. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gallwn dderbyn ceisiadau a wneir dros dri mis ar ôl y penderfyniad – er enghraifft, os na ddywedwyd wrthych ar y pryd am eich hawl i gael adolygiad.
Os byddwch yn gofyn am adolygiad, bydd erlynydd newydd yn adolygu’r holl dystiolaeth ac yn defnyddio ein prawf dau gam eto i ddod i’w benderfyniad ei hun yn yr achos. Efallai y bydd yn penderfynu bod y prawf cyfreithiol wedi’i fodloni a bod modd cyhuddo’r sawl a amheuir neu efallai y bydd yn cytuno â’r penderfyniad na ddylid cymryd camau pellach.
Ar ôl iddo gwblhau’r adolygiad hwn, bydd yn ysgrifennu atoch i esbonio’i benderfyniad. Bydd hefyd yn cynnig siarad â chi dros y ffôn neu wyneb yn wyneb i drafod yr achos os byddai hynny o gymorth i chi. Os ydych chi wedi darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’ch cais am adolygiad – er enghraifft, gwybodaeth ynghylch pam rydych chi’n meddwl bod y penderfyniad yn anghywir, bydd yr erlynydd yn mynd i’r afael ag unrhyw bwyntiau rydych chi wedi’u codi yn ei esboniad.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yr erlynydd yn dweud wrthych beth yw ei benderfyniad o fewn 30 diwrnod gwaith (tua chwe wythnos). Os yw’r adolygiad yn debygol o gymryd mwy o amser na hyn, er enghraifft os oes llawer o dystiolaeth i’w hystyried, byddwn yn rhoi gwybod i chi faint o amser y mae’r adolygiad yn debygol o’i gymryd ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cynnydd.
Os nad ydych chi’n hapus â phenderfyniad yr erlynydd newydd, gallwch ofyn am adolygiad pellach o’r achos. Bydd hyn yn cael ei wneud gan ein Huned Apeliadau ac Adolygu. Byddant yn adolygu’r holl dystiolaeth ac yn defnyddio ein prawf dau gam i ddod i’w penderfyniad ei hunain yn yr achos. Byddant yn ysgrifennu atoch i esbonio eu penderfyniad.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Hawl Dioddefwyr i Adolygiad.