Yn y gwrandawiad cyntaf, bydd y llys ynadon yn penderfynu a ddylid rhyddhau’r diffynnydd ar fechnïaeth.
Ystyr mechnïaeth yw pan benderfynir nad oes angen cadw’r diffynnydd yn y carchar cyn y treial. Os caiff diffynnydd ei ryddhau ar fechnïaeth, mae’n dal yn ofynnol iddo ddod i’r llys ar bob cam o’r broses ond ni fydd yn cael ei gadw yn y carchar rhwng gwrandawiadau.
Os na chaiff diffynnydd ei ryddhau ar fechnïaeth, bydd yn cael ei gadw yn y ddalfa (yn y carchar) tan y treial.
Bydd erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron a thwrnai’r amddiffyniad yn cyflwyno dadleuon i’r llys ynghylch a ddylid caniatáu mechnïaeth i’r diffynnydd. Mater i’r llys wedyn fydd gwneud y penderfyniad hwn.
Os caiff diffynnydd ei ryddhau ar fechnïaeth, bydd y llys yn aml yn nodi rhai amodau y mae’n rhaid i’r diffynnydd eu bodloni er mwyn cael caniatâd i aros ar fechnïaeth. Bydd yr heddlu’n esbonio i chi a oes unrhyw amodau y mae’n rhaid i’r diffynnydd eu dilyn a beth maen nhw’n ei olygu’n ymarferol. Gallai amodau mechnïaeth gynnwys pethau fel y diffynnydd yn ildio’i basbort neu’n cael gorchymyn i beidio â chysylltu â chi neu fynd i’r ardal lle rydych chi’n byw.
Os bydd diffynnydd yn torri unrhyw un o’r amodau hyn, efallai y caiff ei gadw yn y ddalfa (ei anfon i garchar) cyn y treial. Os oes gennych unrhyw wybodaeth sy’n awgrymu bod diffynnydd wedi torri un o’r amodau hyn neu os oes gennych unrhyw bryderon o gwbl, dylech gysylltu â’r heddlu cyn gynted ag y bo modd.
Bydd yr heddlu’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn sy’n digwydd yn y gwrandawiad hwn.
I ddiffynnydd sy’n oedolyn, y cam nesaf yw gwrandawiad cyntaf yr achos yn Llys y Goron.