Gwasanaeth Erlyn y Goron yn awdurdodi cyhuddiadau pellach yn ymwneud â therfysgoedd Trelái
Gwasanaeth Erlyn y Goron yn awdurdodi cyhuddiadau pellach yn ymwneud â therfysgoedd Trelái
Mae 11 o unigolion yn rhagor wedi’u cyhuddo o droseddau’n ymwneud â’r anrhefn gyhoeddus a welwyd yn Nhrelái, Caerdydd ym mis Mai 2023.
Dywedodd Jenny Hopkins, Prif Erlynydd y Goron ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru: “Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi awdurdodi Heddlu De Cymru i gyhuddo 11 o ddiffynyddion yn rhagor o gymryd rhan mewn terfysg.
“Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn atgoffa pawb dan sylw bod achosion troseddol yn erbyn y bobl hyn bellach yn weithredol a bod ganddynt hawl i dreial teg. Mae’n eithriadol o bwysig na ddylid adrodd, rhoi sylwadau na rhannu gwybodaeth ar-lein a allai ragfarnu’r achos hwn mewn unrhyw ffordd.”
Bydd y 10 oedolyn ac un person ifanc yn ymddangos gerbron Llys Ynadon ac Ieuenctid Caerdydd ar 22 Ionawr 2025.
Cefndir
Dyma’r diffynyddion sy’n oedolion:
• Liam Black (dyddiad geni 30/10/2004) o Drelái
• Cameron Francis Carter (dyddiad geni 10/08/2005) o Drelái
• Liam Williams (dyddiad geni 22/02/2005) o Dredelerch
• Gemma Marie Virgin (dyddiad geni 05/02/1981) o Drelái
• Lee-Martin McQuade (dyddiad geni 08/02/1996) o Drelái
• Malaki McQuade (dyddiad geni 16/09/2006) o Drelái
• Jamie Stephen Bateman (dyddiad geni 27/04/1998) o Gaerau
• James Chappell (dyddiad geni 04/04/1995) o’r Barri
• Jasmine Smith (dyddiad geni 28/05/2005) o’r Mynydd Bychan
• Tyler Stapleton (dyddiad geni 25/02/2000) o Drelái
• Ni ellir enwi’r diffynnydd ifanc (17 oed) am resymau cyfreithiol.
• Mae pob un o’r 11 diffynnydd wedi cael eu cyhuddo o gymryd rhan mewn terfysgoedd.
• Mae 31 o’r diffynyddion wedi cael eu cyhuddo o’r blaen.
Nodiadau i olygyddion
- Jenny Hopkins yw Prif Erlynydd y Goron ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.
- Cynhaliwyd adolygiad o’r dystiolaeth yn unol â’r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron.
- Nid yw unrhyw benderfyniad gan Wasanaeth Erlyn y Goron yn awgrymu unrhyw ddatrysiad sy’n ymwneud ag euogrwydd neu ymddygiad troseddol; dim ond yn unol â’r prawf a nodir yn y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron y gwneir penderfyniadau ac fe’i cymhwysir ym mhob penderfyniad ynghylch erlyn ai peidio.
- Nid swyddogaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron yw penderfynu a yw person yn euog o drosedd ai peidio, ond gwneud asesiadau teg, annibynnol a gwrthrychol ynghylch a yw’n briodol cyflwyno cyhuddiadau i’r llys troseddol eu hystyried.
- Nid yw asesiad Gwasanaeth Erlyn y Goron o unrhyw achos mewn unrhyw ffordd yn canfod, nac yn awgrymu, unrhyw euogrwydd neu ymddygiad troseddol. Nid canfyddiad ffeithiol y gellir ei wneud gan lys yn unig yw hwn, ond yn hytrach asesiad o’r hyn y gallai fod yn bosibl ei brofi i lys, yn unol â’r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron.
- Mae’r asesiad hwn yn seiliedig ar y dystiolaeth sy’n deillio o ymchwiliad yr heddlu ac nid ar y dystiolaeth sy’n debygol o gael ei chasglu gan yr amddiffyniad, ac sy’n debygol o gael ei defnyddio i brofi tystiolaeth yr erlyniad. Felly, mae penderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron ynghylch cyhuddo o reidrwydd yn asesiad ar sail y dystiolaeth sydd ar gael i Wasanaeth Erlyn y Goron ar adeg gwneud y penderfyniad.
- Rhaid i erlynwyr Gwasanaeth Erlyn y Goron hefyd adolygu pob achos, fel eu bod yn ystyried unrhyw newid mewn amgylchiadau sy’n digwydd wrth i’r achos ddatblygu, gan gynnwys yr hyn a ddaw’n hysbys am achos yr amddiffyniad. Os yw’n briodol, gall Gwasanaeth
- Erlyn y Goron newid y cyhuddiadau neu atal achos.