Deliwr cyffuriau o Gasnewydd yn cael ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddiaeth
Mae dyn a oedd yn delio cyffuriau ar strydoedd Casnewydd wedi cael ei ddedfrydu am lofruddiaeth ar ôl iddo drywanu dyn arall yn y frest.
Cyfaddefodd David Sisman, 21, yn y Llys y bu’n delio cyffuriau ar 14 Mai 2024 yn ardal y Maendy pan ddaeth Lee Crewe ato.
Estynnodd Sisman gyllell a thrywanu’r dioddefwr unwaith yn ei frest, a oedd yn angheuol.
Yn ystod y treial, honnodd Sisman ei fod wedi gweithredu er mwyn amddiffyn ei hun, ond gwrthododd y rheithgor ei honiad a’i gael yn euog o lofruddiaeth.
Dywedodd David Roberts o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd Sisman yn delio cyffuriau ar y stryd yng ngolau dydd, a phenderfynodd gario cyllell.
“Roedd yn rhaid i Wasanaeth Erlyn y Goron brofi nad oedd Sisman yn gweithredu’n gyfreithlon er mwyn amddiffyn ei hun, ac roedd y dystiolaeth a roddwyd gerbron y rheithgor wedi arwain at ei gael yn euog o lofruddiaeth.
“Mae’r achos hwn yn dangos pa mor beryglus y gall cario cyllyll yn gyhoeddus fod.
“Mae teulu a ffrindiau Lee Crewe wedi dioddef colled enfawr, a byddwn yn dal i feddwl amdanynt.”
Dedfrydwyd David Sisman i garchar am oes yn Llys y Goron Casnewydd ar 28 Tachwedd 2024, a gorchmynnwyd iddo wasanaethu am o leiaf 24 o flynyddoedd.
Nodiadau i olygyddion
- Daw David Sisman (Dyddiad geni: 8/3/2003) o Gasnewydd, ac fe’i cafwyd yn euog o lofruddiaeth yn dilyn treial.
- Bu farw Lee Crewe ar 14 Mai 2024 yn 36 oed.
- Mae David Roberts yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.