Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Dyn yn cael ei ddedfrydu am geisio treisio dwy fenyw yng nghanol dinas Abertawe

|News, Sexual offences , Violent crime

Mae dyn 20 oed a ymosododd ar ddwy fenyw yng nghanol dinas Abertawe wedi cael ei ddedfrydu i ddros 11 mlynedd o garchar yn Llys y Goron Abertawe.

Ymosododd Leo Payne ar y fenyw gyntaf yn ardal y Strand yn ystod oriau mân 23 Mehefin 2024. Llwyddodd y dioddefwr i wthio Payne i ffwrdd cyn iddo redeg i ffwrdd - gyda’i drowsus i lawr - oddi wrth ddau farsial tacsi yn yr ardal.

Tua 40 munud yn ddiweddarach, ymosododd Payne ar ail fenyw ar Orchard Street, gan ymosod yn rhywiol arni wrth geisio agor ei drowsus. Unwaith eto, gwthiodd y dioddefwr ef i ffwrdd, gan weiddi am gymorth gan ddau aelod o’r cyhoedd.

Gwelodd modurwr ar Walter Road Payne awr a hanner yn ddiweddarach, gyda’i drowsus i lawr, yn perfformio gweithred rywiol.

Yn ddiweddarach, ymosododd Payne ar ddyn ger The Wallich drwy ei daro sawl gwaith gyda photel win, gydag un ergyd yn taro’r dyn ar ei ben gan achosi anaf.

Dywedodd Iwan Jenkins, Dirprwy Brif Erlynydd y Goron ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru: “Roedd Leo Payne yn prowlan o amgylch canol y ddinas gan gyflawni ymosodiadau rhywiol dychrynllyd a throseddau treisgar.

“Fe wnaeth y dioddefwyr ymladd yn ôl, a diolch i’w hymdrechion nhw, roedden ni’n gallu gweithio gyda heddlu De Cymru i sicrhau erlyniad llwyddiannus a fydd yn golygu bod Payne yn treulio amser dan glo am ei droseddau anghynnes.”

Cafodd Leo Payne ei ddedfrydu i 11 mlynedd a thri mis o garchar a estynnwyd gyda chyfnod trwydded pedair blynedd a naw mis ar 20 Medi 2024 gan gynnwys gofyniad i gofrestru fel troseddwr rhyw am gyfnod amhenodol.

Nodiadau i olygyddion

  • Leo Payne (Dyddiad Geni: 7/6/2004) o Abertawe. Plediodd yn euog i 2 x ymgais i drais rhywiol; 1 x ymosodiad rhywiol trwy dreiddiad; 1 x amlygiad anweddus; 1 x clwyfo anghyfreithlon
  • Cyflawnwyd pob trosedd ar 23 Mehefin 2024
  • Mae Iwan Jenkins yn Ddirprwy Brif Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru-Wales.

Further reading

Scroll to top