Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Dedfrydu dyn am ladd yn Llanilltud Faerdref

|News, Violent crime

Mae dyn a aeth i mewn i dŷ yn Llanilltud Faerdref a lladd y fenyw 65 mlwydd oed a oedd yn byw yno wedi cael ei ddedfrydu.

Roedd Luke Deeley, 26, yn dioddef o sgitsoffrenia paranoiaidd ar y pryd, pan aeth i mewn i dŷ June Fox Roberts yn ystod oriau mân y bore, 21 Tachwedd 2021.

Ymosododd Deeley ar y dioddefwr yn y cyntedd, gan achosi nifer o anafiadau i’w phen, ei breichiau a’i chorff.

Dywedodd Matthew Greenish o’r CPS: “Collodd June Fox Roberts ei bywyd mewn amgylchiadau hynod drist.

“Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau June ac anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf atynt am eu colled.”

Plediodd Luke Deeley yn euog o ddynladdiad ar sail cyfrifoldeb lleiedig ac fe’i dedfrydwyd ar 28 Ebrill 2023 i orchymyn ysbyty sydd am gyfnod amhenodol.

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Matthew Greenish yn un o Uwch-erlynwyr y Goron yn CPS Cymru-Wales.
    Plediodd Luke Deeley (dyddiad geni: 19/9/1996) yn euog o ddynladdiad.
    Dim ond gan yr Ysgrifennydd Gwladol y gellir tynnu neu newid gorchymyn yr ysbyty a osodwyd gan y Llys.
    Bu farw June Fox Roberts ar 21 Tachwedd 2021 yn 65 mlwydd oed.

Further reading

Scroll to top