Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Pennaeth yn euog o droseddau rhywiol

|News, Sexual offences

Daeth troseddau Foden i’r amlwg ym mis Medi 2023 ar ôl i ddioddefwr wneud cwyn yn ei erbyn. Daeth pedwar dioddefwr arall ymlaen wrth i’r ymchwiliad fynd rhagddo.

Roedd adroddiadau’r dioddefwyr yn rhan o’r dystiolaeth a gyflwynwyd. Cafodd yr adroddiadau hyn eu hategu gan y dystiolaeth a gasglwyd gan yr heddlu, a oedd yn cynnwys tystiolaeth o ddyfeisiau symudol a chyfrifiaduron, tystiolaeth fforensig ac ymholiadau ariannol. Roedd galwadau ffôn a negeseuon testun yn cysylltu Foden â’r dioddefwyr.

Roedd Foden wedi gwadu pob cyhuddiad yn ei erbyn ac wedi dewis peidio ag ateb unrhyw gwestiynau yn ystod ei gyfweliadau â’r heddlu.

Dechreuodd y treial ar 22 Ebrill 2024 a chyflwynodd y rheithgor ei ddyfarniad ar 15 Mai 2024.

Dywedodd Ceri Ellis-Jones o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd y troseddau hyn yn frawychus o ystyried bod Foden yn unigolyn uchel ei barch yr oedd pobl yn ymddiried ynddo. Manteisiodd ar hynny. Fe wnaeth gamddefnyddio ei sefyllfa o ymddiriedaeth a thargedu’r merched mwyaf agored i niwed yr oedd pobl yn ymddiried ynddo i’w diogelu.

“Rwy’n ddiolchgar i’r dioddefwyr am eu dewrder yn dod ymlaen a rhoi tystiolaeth. Fyddai Foden ddim wedi wynebu cyfiawnder heb eu cymorth i’r erlyniad hwn.

“Hoffwn ddiolch hefyd i’r tîm arbenigol yn Heddlu Gogledd Cymru. Rydym wedi gweithio’n agos gyda nhw o’r cychwyn cyntaf. Roeddem wedi llwyddo i gyflwyno achos cadarn i’r rheithgor, gan arwain at yr euogfarnau hyn”.

Bydd Foden yn cael ei ddedfrydu ar 1 Gorffennaf 2024.

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Ceri Ellis-Jones yn Uwch Erlynydd y Goron sy’n arbenigo mewn trais rhywiol a throseddau rhywiol difrifol yn uned Trais Rhywiol a Throseddau Rhywiol Difrifol (RASSO) Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.
  • Daw Neil Frederick Foden (dyddiad geni: 23/08/1957) o Hen Golwyn ym Mae Colwyn.
  • Cafwyd Neil Frederick Foden yn euog o:
    • Gweithgarwch rhywiol gyda phlentyn x12
    • Achosi neu gymell plentyn i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol
    • Gwneud trefniadau ar gyfer cyflawni trosedd rhyw gyda phlentyn
    • Cyfathrebu rhywiol gyda phlentyn
    • Gweithgarwch rhywiol gyda phlentyn gan berson mewn sefyllfa o ymddiriedaeth x2
    • Meddu ar luniau anweddus o blentyn i’w dangos
    • Ymosodiad rhywiol ar blentyn dan 13 oed
  • Mae’r Ganolfan Gymorth ar gyfer Trais Rhywiol a Cham-drin Rhywiol (RASASC) yng Ngogledd Cymru yn cynnig cymorth arbenigol i blant, pobl ifanc ac oedolion.
  • Mae Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) Amethyst Gogledd Cymru yn cynnig cymorth gan Gynghorwyr Annibynnol ar Drais Rhywiol a Chynghorwyr i Bobl Ifanc ar Drais Rhywiol.

Further reading

Scroll to top