Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Gwasanaeth Erlyn y Goron yn awdurdodi cyhuddiadau’n ymwneud â therfysgoedd Trelái

|News

Mae 31 o unigolion wedi’u cyhuddo o droseddau’n ymwneud â’r anrhefn gyhoeddus a welwyd yn Nhrelái, Caerdydd ym mis Mai'r llynedd.

Dywedodd Jenny Hopkins, Prif Erlynydd y Goron o Wasanaeth Erlyn y Goron Cymru: “Rydym wedi awdurdodi Heddlu De Cymru i gyhuddo 27 o ddiffynyddion o drosedd terfysgol.

“Mae pedwar diffynnydd arall wedi’u cyhuddo o achosi, neu fygwth achosi, difrod troseddol.

“Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn atgoffa pawb dan sylw bod achosion troseddol yn erbyn y bobl hyn bellach yn weithredol a bod ganddynt hawl i dreial teg. Mae’n eithriadol o bwysig na ddylid adrodd, rhoi sylwadau na rhannu gwybodaeth ar-lein a allai ragfarnu’r achos hwn mewn unrhyw ffordd.”

Cefndir

Dyma’r diffynyddion sy’n oedolion:

  • Ryan Knight (Dyddiad Geni: 19.10.2004) o Sblot, Caerdydd - terfysg
  • Kyle Telemaque (Dyddiad Geni: 17.10.2005) o Drelái, Caerdydd - terfysg
  • Connor O’Sullivan (Dyddiad Geni: 3.4.1999) o Gaerau, Caerdydd - terfysg
  • Callum O’Sullivan (Dyddiad Geni: 25.10.2000) o Drelái, Caerdydd - terfysg
  • Jayden Westcott (Dyddiad Geni: 19.8.2004) o Drelái, Caerdydd - terfysg
  • Jordan Webster (Dyddiad Geni: 6.12.1995) o Drelái, Caerdydd - terfysg
  • Zayne Farrugia (Dyddiad Geni: 7.5.2000) o Gaerau, Caerdydd - terfysg
  • Harvey James (Dyddiad Geni: 20.11.2005) o’r Tyllgoed, Caerdydd - terfysg a meddu ar ganabis ar 17.7.23
  • Lianna Tucker (Dyddiad Geni: 2.2.2006) o Drelái, Caerdydd - terfysg
  • Jumana Fouad (Dyddiad Geni: 17.7.2006) o Drelái, Caerdydd - terfysg
  • Jamie Martin (Dyddiad Geni: 22.12.2000) o Lanrhymni, Caerdydd - terfysg
  • Jayden Baston (Dyddiad Geni: 29.7.2004) o Gaerau, Caerdydd - terfysg
  • Jordan Bratcher (Dyddiad Geni: 1.7.1998) o Lanisien, Caerdydd - terfysg a meddu ar ganabis ar 20.9.23
  • Kieron Beccano (Dyddiad Geni: 1.11.1998) o Drelái, Caerdydd - terfysg
  • McKenzie Pring (Dyddiad Geni: 2.12.2004) o Gaerau, Caerdydd - terfysg
  • Michalea Gonzales (Dyddiad Geni: 5.7.1998) o Drelái, Caerdydd - terfysg
  • McKenzie Danks (Dyddiad Geni: 27.4.2003) o Gaerau, Caerdydd - terfysg a 2 x ymosod ar weithiwr brys
  • Ashdon O’Dare (Dyddiad Geni: 13.11.1997) o Drelái, Caerdydd - terfysg
  • Lee Robinson (Dyddiad Geni: 2.11.1996) – terfysg
  • Luke Williams (Dyddiad Geni: 2.10.1993) o Gaerau, Caerdydd - terfysg
  • Janine Reffell (Dyddiad Geni: 29.06.1971) o Drelái, Caerdydd - difrod troseddol
  • Morgan Williams (Dyddiad Geni: 3.5.2006) o Bentwyn, Caerdydd - bygwth achosi difrod troseddol
  • Jayden Williams (Dyddiad Geni: 3.5.2006) o Grangetown, Caerdydd - bygwth achosi difrod troseddol
  • Ni ellir enwi’r wyth diffynnydd ifanc (15 i 17 oed) am resymau cyfreithiol.
  • Mae saith person ifanc wedi’u cyhuddo o derfysg ac mae un person ifanc yn cael ei gyhuddo o fygwth achosi difrod troseddol.

Bydd y diffynyddion yn cael eu rhestru ar gyfer gwrandawiad cyntaf yn Llys Ynadon Caerdydd ar 19-20 Medi 2024.
 

Nodiadau i olygyddion

  • Jenny Hopkins yw Prif Erlynydd y Goron Cymru.
  • Cynhaliwyd adolygiad o’r dystiolaeth yn unol â’r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron.
  • Nid yw unrhyw benderfyniad gan Wasanaeth Erlyn y Goron yn awgrymu unrhyw ddyfarniad sy’n ymwneud ag euogrwydd neu ymddygiad troseddol; dim ond yn unol â’r prawf a nodir yn y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron y gwneir penderfyniadau ac fe’i cymhwysir ym mhob penderfyniad ynghylch erlyn ai peidio.
  • Nid swyddogaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron yw penderfynu a yw person yn euog o drosedd ai peidio, ond gwneud asesiadau teg, annibynnol a gwrthrychol ynghylch a yw’n briodol cyflwyno cyhuddiadau i’r llys troseddol eu hystyried.
  • Nid yw asesiad Gwasanaeth Erlyn y Goron o unrhyw achos mewn unrhyw ffordd yn canfod, nac yn awgrymu, unrhyw euogrwydd neu ymddygiad troseddol. Nid canfyddiad ffeithiol y gellir ei wneud gan lys yn unig yw hwn, ond yn hytrach asesiad o’r hyn y gallai fod yn bosibl ei brofi i lys, yn unol â’r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron.
  • Mae’r asesiad hwn yn seiliedig ar y dystiolaeth sy’n deillio o ymchwiliad yr heddlu ac nid ar y dystiolaeth sy’n debygol o gael ei chasglu gan yr amddiffyniad, ac sy’n debygol o gael ei defnyddio i brofi tystiolaeth yr erlyniad. Felly, mae penderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron ynghylch cyhuddo o reidrwydd yn asesiad ar sail y dystiolaeth sydd ar gael i Wasanaeth Erlyn y Goron ar adeg gwneud y penderfyniad.
  • Rhaid i erlynwyr Gwasanaeth Erlyn y Goron hefyd adolygu pob achos, fel eu bod yn ystyried unrhyw newid mewn amgylchiadau sy’n digwydd wrth i’r achos ddatblygu, gan gynnwys yr hyn a ddaw’n hysbys am achos yr amddiffyniad. Os yw’n briodol, gall Gwasanaeth Erlyn y Goron newid y cyhuddiadau neu atal achos.

Further reading

Scroll to top