Sut mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn deall ac yn mynd i’r afael ag anghymesuredd hiliol yn ein gwaith
Saif Gwasanaeth Erlyn y Goron wrth galon y system cyfiawnder troseddol. Mae ein herlynwyr yn penderfynu a ddylid cyhuddo rhywun o’r troseddau mwyaf difrifol. Mae’r penderfyniadau a wnawn yn cael effaith ddofn ar fywydau dioddefwyr a diffynyddion ac mae’n hanfodol ein bod yn glynu wrth y safonau atebolrwydd a thryloywder uchaf.
Dyna pam y gwnaethom gynnal rhaglen ymchwil gynhwysfawr i graffu ar ein gwaith ein hunain a sicrhau ein bod yn cyrraedd y safonau uchaf.
Drwy gyfrwng yr ymchwil hwn, rydym wedi canfod tystiolaeth o anghymesuredd yn ein penderfyniadau. Rydym hefyd wedi nodi ffyrdd y gallwn roi sylw i wraidd y broblem hon - fel a nodir yn ein cynllun gweithredu manwl. Mae canfyddiadau ein hymchwil wedi bod wrth wraidd y gwaith o greu’r cynllun gweithredu - gan sicrhau ein bod yn gallu gwneud newid ystyrlon a fydd yn targedu unrhyw anghymesuredd yn effeithiol ac yn gadarn.
Cam Un
Yn 2021, fe wnaethom gomisiynu ymchwil annibynnol gan Brifysgol Leeds i archwilio canlyniadau ein penderfyniadau yn ôl rhyw, oedran ac ethnigrwydd.
Edrychodd yr astudiaeth ar oddeutu 195,000 o achosion rhwng mis Ionawr 2018 a mis Rhagfyr 2021. Canfu’r astudiaeth fod diffynyddion o gefndiroedd ethnig leiafrifol yn llawer mwy tebygol o gael eu cyhuddo o drosedd tebyg na diffynyddion Gwyn Prydeinig. Pobl Wyn Prydeinig a oedd dan amheuaeth oedd â’r gyfradd gyhuddo isaf gyda 69.9% o achosion yn arwain at gyhuddo. Ar y llaw arall, pobl o ethnigrwydd cymysg oedd â'r gyfradd uchaf o rhwng 77.3% ac 81.3%. Dywedai’r ymchwil wrthym fod y gwahaniaethau hyn yn bodoli ond ni ddywedodd wrthym pam.
Cam Dau
Er mwyn deall yn well beth oedd yn sbarduno’r gwahaniaeth hwn a pha gamau y gallem eu cymryd i’w ddileu, roeddem am edrych yn fanylach ar ein hachosion a’n prosesau.
Yn 2023, fe wnaethom ddechrau arni drwy drefnu gwaith craffu gan Grŵp Cynghori annibynnol ar Anghymesuredd a oedd yn cynnwys academyddion, gweithwyr cyfreithiol proffesiynol, a phartneriaid o’r trydydd sector.
Edrychai’r cam hwn ar sut gallai pethau fel hanes troseddu blaenorol, yr iaith a ddefnyddir mewn ffeiliau tystiolaeth a’r prosesau rydyn ni’n eu dilyn wrth eu hadolygu fod yn effeithio ar ein penderfyniadau.
Fe wnaethom ddefnyddio amrywiol ddulliau ymchwil yn ystod y cam hwn. Fe wnaethom edrych ar sampl o 400 o achosion tebyg gyda phobl Wyn Prydeinig a phobl o ethnigrwydd cymysg dan amheuaeth (gan mai rhwng y grwpiau hyn y gwelwyd y gwahaniaeth mwyaf yn ein hymchwil gwreiddiol.) Fe wnaethom hefyd gynnal cyfweliadau ac arolwg gyda’n staff.
Drwyddi draw, canfu'r ymchwil fod yr achosion sylfaenol yn gymhleth, ond fe wnaeth hefyd atgyfnerthu’r ffaith bod anghymesuredd yn bodoli.
Roedd ein hymchwil yn cynnwys cyfres o gwestiynau - pob un yn ceisio profi rheswm posibl am anghymesuredd. Nodir y canfyddiadau isod:
Nodweddion y sawl oedd dan amheuaeth a'r achos
A allai nodweddion penodol yr achos neu’r sawl oedd dan amheuaeth esbonio’r anghymesuredd? Er enghraifft ai euogfarnau blaenorol neu statws economaidd-gymdeithasol, yn hytrach na hil, wnaeth achosi’r anghymesuredd?
Ni chanfu’r ymchwil ddim gwahaniaethau sylweddol mewn nodweddion a allai fod wedi esbonio’r gwahaniaeth. Roedd hyn yn cynnwys y ffaith nad oedd euogfarnau blaenorol na statws economaidd-gymdeithasol yn ffactor.
Gwelsom wahaniaethau mewn oedran, gyda'r bobl o ethnigrwydd cymysg a oedd dan amheuaeth yn iau na’r bobl Wyn Prydeinig a oedd dan amheuaeth. Gwelsom hefyd fod disgwyl i’r bobl wyn oedd dan amheuaeth bledio’n euog yn amlach na’r bobl o ethnigrwydd cymysg a oedd dan amheuaeth.
Gwybodaeth a geid mewn ffeiliau achosion
A yw faint o wybodaeth a thystiolaeth y mae’r heddlu ac erlynwyr yn eu cynnwys yn amrywio yn dibynnu ar ethnigrwydd y sawl sydd dan amheuaeth? Oherwydd fe allai hyn fod yn dylanwadu ar y penderfyniad terfynol.
Fe wnaethom edrych ar nifer y geiriau mewn dogfennau a ddarparwyd gan yr heddlu i Wasanaeth Erlyn y Goron yn ogystal â nifer y ffeiliau tystiolaeth a basiwyd ymlaen inni - nid oedd dim gwahaniaeth o ran faint o wybodaeth a ddarparwyd.
Edrychom hefyd ar nifer geiriau ein penderfyniadau cyhuddo, sef y wybodaeth y mae erlynwyr Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ei chyflwyno wrth adolygu’r achos. Ar gyfartaledd, roedd mwy o eiriau’n cael eu darparu ar gyfer pobl o ethnigrwydd cymysg a oedd dan amheuaeth nac ar gyfer pobl wyn Prydeinig.
Iaith a ddefnyddir mewn ffeiliau achosion
A yw’r iaith a ddefnyddir i ddisgrifio achosion a’r bobl sydd dan amheuaeth yn wahanol ar gyfer pobl wyn a phobl o ethnigrwydd cymysg? Oherwydd fe allai hyn fod yn dylanwadu ar y penderfyniad cyhuddo terfynol.
Fe wnaethom gomisiynu Prifysgol Aston i gynnal y darn ymchwil hwn. Fe wnaethon nhw ddadansoddi samplau mawr o destun i ddatgelu patrymau ymhlyg yn yr iaith a ddefnyddiwyd. Buont yn cymharu achosion tebyg gyda throseddau o’r un fath ac â lefelau tebyg o niwed.
Canfu’r astudiaeth wahaniaeth amlwg yn yr iaith a ddefnyddiai'r heddlu a’r erlynwyr. Ni welsom hiliaeth na rhagfarnau amlwg yn y testunau, fodd bynnag, defnyddiwyd iaith fwy uniongyrchol a diffiniol o safbwynt pobl o ethnigrwydd cymysg oedd dan amheuaeth, disgrifiwyd eu gweithredoedd mewn termau mwy negyddol a cheid mwy o gyfeiriadau at natur dreisgar eu troseddau.
Demograffeg y gweithlu
A yw demograffeg gweithlu Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cyfrannu at anghymesuredd wrth wneud penderfyniadau?
Fe wnaethom edrych ar ddata ar ddemograffig gweithlu Gwasanaeth Erlyn y Goron o’i gymharu â phoblogaeth oedran gweithio gyffredinol Cymru a Lloegr - edrychom ar ethnigrwydd, oedran a rhyw. Fe wnaethom rannu ein hymchwil yn ôl Ardaloedd unigol Gwasanaeth Erlyn y Goron.
- Roedd Ardaloedd lleol Gwasanaeth Erlyn y Goron a oedd â phoblogaethau oedran gweithio cyffredinol mwy amrywiol o ran ethnigrwydd yn dangos llai o anghymesuredd. Gwelwyd yr un patrwm ar gyfer Ardaloedd gyda gweithluoedd mwy amrywiol o ran ethnigrwydd, er bod hynny i raddau llai
- Ni welwyd perthynas arwyddocaol rhwng yr oedran cymedrig a lefelau anghymesuredd
- Felly hefyd, ni welwyd perthynas arwyddocaol wrth edrych ar y rhaniad rhwng dynion a menywod a lefelau anghymesuredd.
Arferion gweithio
A yw arferion a phrosesau Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cyfrannu at anghymesuredd wrth wneud penderfyniadau?
Ar gyfer y rhan hon o’r ymchwil, fe wnaethom gynnal cyfres o arolygon a chyfweliadau gyda staff am gynlluniau cydraddoldeb ac amrywiaeth, hyfforddiant cyfreithiol a sut caiff y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron ei ddefnyddio.
Dyma beth ddaeth i’r amlwg drwy’r ymchwil gyda staff:
- Ystyriwyd bod llwythi gwaith yn rhwystro staff rhag rhoi blaenoriaeth i gynlluniau cydraddoldeb ac amrywiaeth neu i herio rhagfarn ddiarwybod
- Mae hyfforddiant cyfreithiol Gwasanaeth Erlyn y Goron yn helpu erlynwyr i wneud penderfyniadau teg, fodd bynnag, gellid gwneud mwy i rybuddio yn erbyn gwneud penderfyniadau anghymesur
- Mae ymchwil ar sut mae’r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron yn cael ei ddefnyddio yn datgelu’r potensial i ragfarn ddiarwybod gael effaith.
Ein cynllun gweithredu
Bydd ein cynllun gweithredu - a grëwyd ar y cyd â chydweithwyr a phartneriaid allanol - yn ein galluogi i feithrin diwylliant ac arferion gwrth-hiliol, gan ddileu rhagfarn hiliol yn ein penderfyniadau a gweithio gyda phartneriaid cyfiawnder troseddol eraill i roi sylw i anghymesuredd hiliol ar draws y system.
Byddwn yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron - yr arweiniad y mae erlynwyr yn ei ddilyn wrth wneud penderfyniadau - ac yn ei ddiwygio i sicrhau bod erlynwyr yn rhoi ystyriaeth i adnabod a rhoi sylw i ragfarn yn eu holl benderfyniadau ar waith achosion.
Byddwn yn creu adnoddau dysgu a datblygu, hyfforddiant ac offer digidol newydd i’n staff, ac i erlynwyr yn benodol, ar gyfer adnabod unrhyw ragfarn mewn tystiolaeth a’u hadolygiadau a rhoi sylw i hynny.
Byddwn hefyd yn rhoi blaenoriaeth i weithio’n agos gyda’n partneriaid ar draws y system cyfiawnder troseddol. Mae hyn yn cynnwys sefydlu Gweithgor Anghymesuredd Hiliol ar y Cyd rhwng Gwasanaeth Erlyn y Goron a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, sy’n caniatáu archwilio a herio parhaus rhwng erlynwyr a’r heddlu er mwyn dileu rhagfarn hiliol yn y broses cyfiawnder troseddol.
Byddwn yn chwilio am ffyrdd o gryfhau ein sianeli ar gyfer cysylltu â rhanddeiliaid a'r gymuned, ac fel rhan o hynny, byddwn yn cynnwys arbenigwyr i roi sylw i anghymesuredd.
Amrywiaeth ein gweithlu – un o’r rhai mwyaf amrywiol yn y Gwasanaeth Sifil a'r system cyfiawnder troseddol - yw un o’n cryfderau a bydd y cynllun yn ein helpu i adeiladu ar hyn ymhellach. Byddwn yn canolbwyntio ar wella’r broses o recriwtio, cadw a datblygu staff ethnig leiafrifol er mwyn sicrhau bod y cymunedau a wasanaethwn yn cael eu cynrychioli’n well.