Cyflwyniad i’r Cynllun Gweithredu
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wrth galon y system cyfiawnder troseddol, ein rôl ni yw penderfynu a ddylid cyhuddo rhywun o’r troseddau mwyaf difrifol. Mae’r penderfyniadau a wnawn yn cael effaith ddofn ar fywydau dioddefwyr a diffynyddion, ac felly mae’n hanfodol bod tegwch ac annibyniaeth yn gonglfeini i bwy ydym ni a sut rydym ni’n gwneud y penderfyniadau hyn.
Cydnabyddir yn eang y ceir cynrychiolaeth anghymesur o leiafrifoedd ethnig ar draws y system cyfiawnder troseddol gyfan. Mae ymchwil cynhwysfawr wedi dweud wrthym fod y gwahaniaeth hwn yn cael ei adlewyrchu yn ein cyfraddau cyhuddo - gyda phobl o leiafrifoedd ethnig sydd dan amheuaeth yn fwy tebygol o gael eu cyhuddo o drosedd tebyg na phobl wyn Prydeinig sydd dan amheuaeth.
Rhaid inni wneud yn well. Rhaid inni beidio â bod yn hunanfodlon – byddwn yn cymryd camau pendant i fynd i’r afael ag anghymesuredd a sicrhau newid.
Felly, rydym wedi creu cynllun gweithredu sy’n cyflwyno rhaglen waith gynhwysfawr i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol anghymesuredd a gwreiddio newid ystyrlon ar draws Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Cafodd y cynllun gweithredu hwn ei greu ar y cyd â chydweithwyr a phartneriaid allanol. At hynny, mae’r camau rydym yn eu cymryd wedi cael eu llywio gan ymchwil cynhwysfawr a gwaith craffu annibynnol. Drwy weithredu ar sail y dystiolaeth, gallwn fod yn hyderus y bydd ein gwaith yn arwain at newid cynaliadwy.
Mae gan bob un rhan o Wasanaeth Erlyn y Goron rôl i’w chwarae, ac mae’r cynllun gweithredu yn disgrifio dull sy’n cael ei ddefnyddio ar draws y sefydliad. Bydd y cynllun hwn yn ein galluogi i feithrin diwylliant ac arferion gwrth-hiliol, gan ddileu rhagfarn hiliol yn ein penderfyniadau a gweithio gyda phartneriaid cyfiawnder troseddol eraill i roi sylw i anghymesuredd hiliol ar draws y system.
Dim ond dechrau ein siwrnai yw’r cynllun gweithredu hwn. Byddwn yn dal ati i weithio gyda’n staff, ein cymunedau a’n partneriaid i adeiladu ar ein cynnydd, ac i ddal i graffu arnom ein hunain o safbwynt y mater pwysig hwn.
Yr hyn yr ydym am ei gyflawni
Nod 1: Rydym yn deall y gall rhagfarn fod yn bresennol yn ein holl waith ac awn ati’n fwriadol i roi sylw i hynny
Toggle accordion
Outcomes
- Rydym yn deall ac yn sylweddoli sut gall rhagfarn ddod i’r amlwg yn ein holl waith.
- Mae ein pobl yn deall profiad bywyd ac effaith anghymesuredd hiliol wrth wneud penderfyniadau ar ein cymunedau.
- Mae ein pobl yn ddiwylliannol ymwybodol ac yn sensitif, gan adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ar bob lefel ac ym mhob man.
- Mae ein harweinwyr a’n rheolwyr yn rôl-fodelau ac yn eiriolwyr atebol i’n gwaith ar anghymesuredd.
Nod 2: Mae Gweithredu’r Cod yn Deg yn arwain at benderfyniadau cyhuddo cymesur
Toggle accordion
Outcomes
- Mae ein Cod, ein prosesau a’n canllawiau yn sicrhau tegwch drwy weithredu yn erbyn rhagfarn.
- Caiff ein gwaith i roi sylw i anghymesuredd ei lywio drwy ddadansoddi a deddfwriaeth gydraddoldeb.
- Mae ein penderfyniadau’n dryloyw ac yn agored i graffu arnynt.
- Mae ein Harweinwyr a’n Rheolwyr yn cefnogi erlynwyr i wneud penderfyniadau cyhuddo cymesur a theg.
Nod 3: Rydym yn herio rhagfarn hiliol wrth wneud penderfyniadau ar draws y system cyfiawnder troseddol
Toggle accordion
Outcomes
- Mae gennym yr hyder a’r gallu i herio rhagfarn yn fewnol a gyda phartneriaid allanol.
- Rydym yn adnabod rhagfarn hiliol bosibl yn y deunyddiau a ddaw i law ac yn ein penderfyniadau cyhuddo, drwy ein harfer o ddefnyddio data ac offer digidol.
- Rydym yn mynd ati i ymgysylltu â’n partneriaid er mwyn herio a dileu rhagfarn hiliol.
- Gyda’n gilydd, rydym yn adfer hyder y cyhoedd yn y system cyfiawnder troseddol, yn enwedig gyda’r cymunedau hynny y mae anghymesuredd yn fwy tebygol o effeithio arnynt.
Sut y byddwn yn cyflawni'r nodau hyn
Nod 1: Rydym yn deall y gall rhagfarn fod yn bresennol yn ein holl waith ac awn ati’n fwriadol i roi sylw i hynny
Toggle accordion
Canlyniad | Cam gweithredu |
---|
1: Rydym yn deall ac yn sylweddoli sut gall rhagfarn ddod i’r amlwg yn ein holl waith. | - Darparu pecyn dysgu i gefnogi’r gwaith o ganfod rhagfarn bosibl mewn gwaith achosion a meithrin sgiliau ein herlynwyr i roi sylw iddo. Ch4 2024/25 i Ch3 2025/26
- Creu astudiaethau achos newydd a datblygu’r rhai presennol gydag enghreifftiau ymarferol o sut gall rhagfarn ddod i’r amlwg ar wahanol gamau o waith achosion, i’w cynnwys mewn cynhyrchion dysgu perthnasol, i helpu ein staff i gysyniadu’r gwaith hanfodol hwn. Ch4 2024/25 ac ymlaen
- Lleihau’r posibilrwydd bod rhagfarn yn ymddangos yn ein gwaith achosion drwy adolygu a dadansoddi ymchwil ar ffyrdd effeithiol o weithio i leihau rhagfarnau pobl, er mwyn llywio’r gwaith o greu cynhyrchion dysgu mewnol.
Ch3 2024/25 - Ch2 2025/26 - Creu cyfres o gynhyrchion sy’n crynhoi’r ymchwil i anghymesuredd er mwyn i’n holl staff ddeall a dysgu oddi wrthynt, gan sicrhau eu bod yn gallu defnyddio’r elfennau allweddol y maent wedi’u dysgu wrth eu gwaith. Ch3 2024/25 - Ch4 2026/27
|
2: Mae ein pobl yn deall profiad bywyd ac effaith anghymesuredd hiliol wrth wneud penderfyniadau ar ein cymunedau. | - Creu cynlluniau cyfathrebu mewnol cynhwysol i rannu profiad bywyd pobl o fudiadau cymunedol ethnig leiafrifol gyda’r staff. Ch3 2024/25 - Ch4 2024/25
|
3: Mae ein pobl yn ddiwylliannol ymwybodol ac yn sensitif, gan adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ar bob lefel ac ym mhob man. | - Gwella cynrychiolaeth staff o leiafrifoedd ethnig mewn rolau uwch reolwyr, lle mae’r dystiolaeth yn dangos tangynrychiolaeth, drwy weithgareddau recriwtio, cadw a datblygu wedi’u targedu.
- Gweithgaredd parhaol, parhaus
|
4: Mae ein harweinwyr a’n rheolwyr yn rôl-fodelau ac yn eiriolwyr atebol i’n gwaith ar anghymesuredd. | - Sefydlu amcan anghymesuredd ar gyfer yr holluwch arweinwyr, gan greu amgylchedd yn ein sefydliad lle mae arweinwyr cynhwysol ar y rheng flaen yn rhoi blaenoriaeth i roi sylw i ragfarn hiliol ac yn hyrwyddo hynny. Ch3 2024/25 - Ch4 2024/25
- Cwmpasu, dewis a sefydlu mesurau ar gyfer monitro anghymesuredd yn Ardaloedd Gwasanaeth Erlyn y Goron. Ch1 2025/26 - Ch4 2025/26
- Llunio a hyrwyddo datganiad gwrth-hiliol sefydliadol, wedi’i gymeradwyo gan ein Grŵp Gweithredol, gan ein hymrwymo i fynd i’r afael â gwahaniaethu. Ch3 2024/25 - Ch4 2024/25
|
Nod 2: Mae Gweithredu’r Cod yn deg yn arwain at benderfyniadau cyhuddo cymesur.
Toggle accordion
Canlyniad | Cam gweithredu |
---|
Mae ein Cod, ein prosesau a’n canllawiau yn sicrhau tegwch drwy weithredu yn erbyn rhagfarn. | - Diwygio’r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron er mwyn sicrhau bod pob erlynydd yn mynd ati i adnabod a rhoi sylw i ragfarn wrth iddynt wneud penderfyniadau gyda’u holl waith achosion. Sefyllfa interim erbyn Ch1 2025/26, gwerthuso ac adolygu erbyn Ch4 2025/26
- Sefydlu dulliau ar gyfer adnabod a rhoi sylw i ragfarn yn egwyddorion ein strategaeth achosion. Ch3 2024/25 - Ch3 2025/26
|
Caiff ein gwaith i roi sylw i anghymesuredd ei lywio drwy ddadansoddi a deddfwriaeth gydraddoldeb. | - Gweithio gyda phartneriaid yn yr heddlu ac ym maes cyfiawnder troseddol i wella’r trefniadau ar gyfer cofnodi data ar ddemograffeg ac ethnigrwydd er mwyn gallu dadansoddi data’n gadarn, fel drwy gyd-ymrwymiad data. Ch4 2024/25 - Ch4 2025/26
- Adolygu a diweddaru ein hyfforddiant ar Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng ngoleuni canlyniadau’r ymchwil i anghymesuredd. Q4 2024/25 - Q3 2025/26
|
Mae ein penderfyniadau’n dryloyw ac yn agored i graffu arnynt. | - Fel rhan o broses Sicrhau Ansawdd Unigol erlynwyr sy’n helpu i ysgogi gwelliannau mewn gwaith achosion, cynnwys cwestiynau ynghylch sut maen nhw’n herio ac yn rhoi sylw i ragfarn bosibl mewn gwaith achosion. Ch1 2025/26 - Ch1 2026/27
- Bydd pob achos o ladd ac ymgais i ladd fel cyd-fenter yn destun paneli rheoli achosion a chynllun monitro cenedlaethol a fydd yn adrodd ar ddata’n flynyddol. Ch1 2024/25 ac ymlaen
- Bydd holl Ardaloedd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cynnull Paneli Craffu a Chynnwys Lleol ar y Cyd bob blwyddyn ac yn galluogi cynrychiolwyr cymunedol i graffu ar ein gwaith yn y maes hwn. Ch3 2024/25 ac ymlaen
|
Mae ein Harweinwyr a’n Rheolwyr yn cefnogi erlynwyr i wneud penderfyniadau cyhuddo cymesur a theg. | - Cynnwys gwaith yr Ardal ar anghymesuredd fel rhan o Adolygiadau Perfformiad yr Ardal i fonitro cynnydd a sicrhau gwelliant parhaus. Ch1 2025/26 - Ch4 2025/26
- Adolygu ein prosesau presennol i sicrhau bod ein herlynwyr yn teimlo eu bod yn gallu bod yn hyderus i godi pryderon ynghylch penderfyniadau am waith achosion y gallent fod yn anghymesur. Ch4 2024/25 - Ch2 2025/26
|
Nod 3: Rydym yn herio rhagfarn hiliol wrth wneud penderfyniadau ar draws y system cyfiawnder troseddol.
Toggle accordion
Canlyniad | Cam gweithredu |
---|
Mae gennym yr hyder a’r gallu i herio rhagfarn yn fewnol a gyda phartneriaid allanol. | - Gwneud rhagor o ymchwil i ddiwylliant ein sefydliad er mwyn deall sut i fynd i’r afael â rhagfarn hiliol yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron, gan arwain at staff sydd â’r hyder a’r gallu i herio a thrafod rhagfarn ac anghymesuredd. Ch4 2024/25 - Ch4 2025/26
- Pwyso a mesur a datblygu adnoddau i gefnogi erlynwyr i gael sgyrsiau am hil, er mwyn lleihau’r potensial am anghymesuredd wrth wneud penderfyniadau. Ch4 2024/25 - Ch4 2025/26
|
Rydym yn adnabod rhagfarn hiliol bosibl yn y deunyddiau a ddaw i law ac yn ein penderfyniadau cyhuddo, drwy ein harfer o ddefnyddio data ac offer digidol. | - Pwyso a mesur y defnydd o adnoddau digidol i ganfod tueddiadau y gallent fod yn niweidiol ar draws achosion. Ch1 2025/26 - Ch4 2025/26
- Defnyddio offer digidol i gefnogi erlynwyr i ganfod rhagfarn bosibl mewn tystiolaeth, a’u hadolygiadau eu hunain. Ch1 2026/27 - Ch4 2026/27
|
Rydym yn mynd ati i ymgysylltu â’n partneriaid er mwyn herio a dileu rhagfarn hiliol. | - Sefydlu proses glir er mwyn i erlynwyr allu codi pryderon ynghylch rhagfarn hiliol bosibl mewn gwaith achosion, yn fewnol a gyda phartneriaid cyfiawnder troseddol. Ch2 2025/26 - Ch3 2025/26
- Sefydlu Bwrdd Anghymesuredd Hiliol ar y cyd rhwng yr NPCC a Gwasanaeth Erlyn y Goron i sicrhau cydweithio agos â Chynllun Gweithredu ar Hil yr Heddlu. Ch1 2024/25 ac ymlaen
- Byddwn yn monitro amrywiaeth eiriolwyr erlyn allanol, gan gymryd rhan mewn cynlluniau a gweithgareddau sydd â’r nod o wella cynrychiolaeth ethnig ar Banel Eiriolwyr Gwasanaeth Erlyn y Goron. Bydd hyn yn cynnwys monitro sut caiff gwaith ei ddyrannu a’r ffioedd a delir. Ch4 2024/25 - Ch4 2025/26
|
Gyda’n gilydd, rydym yn adfer hyder y cyhoedd yn y system cyfiawnder troseddol, yn enwedig gyda’r cymunedau hynny y mae anghymesuredd yn fwy tebygol o effeithio arnynt. | - Cysylltu â chymunedau i godi ymwybyddiaeth o sut mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn mynd i’r afael ag anghymesuredd. Ch3 2024/25 ac ymlaen
- Adolygu ac ymgynghori’n gyhoeddus ar ein polisi ar ‘gangiau’ a defnyddio ‘dril’ fel tystiolaeth. Ch4 2024/25 - Ch3 2025/26
- Sefydlu strategaeth gyfathrebu i hybu gwaith y cynllun gweithredu a meithrin hyder y cyhoedd yn ein gwaith i fynd i’r afael ag anghymesuredd. Ch3 2024/25 - Ch4 2024/25
- Cymryd rhan yn rhaglen 10,000 o Interniaid Du Cyngor y Bar, drwy gynnig cyfleoedd profiad gwaith i raddedigion ac Israddedigion Du nad oes ganddynt gynrychiolaeth deg yn y Bar ar hyn o bryd. Ch1 2025/26 - Ch4 2025/26
|
Cynllun Gweithredu - llwytho i lawr
Gallwch lawrlwytho copi PDF o'n Cynllun Gweithredu yma. Efallai na fydd y ddogfen hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Lawrlwythwch PDF