Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Sut mae gwasanaeth Erlyn y Goron (cps) yn cyhuddo ac yn erlyn achosion o dreisio

Rhagarweiniad

Mae treisio ymysg y gweithredoedd mwyaf dychrynllyd y gall un person ei achosi i rywun arall a gall arwain at drawma dinistriol sy’n newid bywydau. Rydym yn gwybod pa mor bwysig y gall euogfarn fod i roi rhyw fath o derfyn a gwneud iawn i ddioddefwyr; fodd bynnag, ychydig iawn o ddioddefwyr treisio sy’n gweld cyfiawnder. Rhaid i bob rhan o’r system cyfiawnder troseddol roi ffocws gwirioneddol a pharhaus i’w hymateb i’r trosedd hwn. 

Mae gan Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) bwrpas clir iawn – i sicrhau bod y person cywir yn cael ei erlyn am y trosedd cywir. Mae’r wybodaeth ar y tudalennau hyn yn nodi sut rydym yn cyhuddo ac yn erlyn achosion treisio. Rydym yn gobeithio y bydd y wybodaeth hon yn magu hyder ein bod yn gwneud penderfyniadau teg ac y bydd dioddefwyr yn cael eu cefnogi os byddant yn dod ymlaen i roi gwybod am dreisio, ac y caiff eu hachos ei drosglwyddo i ni gan yr heddlu. 

Rydym wedi cyhoeddi ein hymrwymiad i ddioddefwyr o drais rhywiol, sydd ar gael yma. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma hefyd am ble i gael help os ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, wedi dioddef camdriniaeth.

Er bod y Datganiad Polisi hwn yn canolbwyntio ar ein gwaith yn y CPS, rydym wedi ceisio rhoi rhagor o wybodaeth am y broses cyfiawnder troseddol, a allai fod yn ddefnyddiol i chi hefyd. Efallai nad yw rhai geiriau neu ymadroddion sy’n cael eu defnyddio yn gyfarwydd i bawb. Rydym felly wedi rhoi geirfa i roi esboniad. 

Wrth ddarllen y wybodaeth hon, mae ‘dioddefwr’ yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywun y cyflawnwyd trosedd yn ei erbyn. Pan fydd dioddefwr yn gysylltiedig ag achos, mae’n bwysig nodi mai nhw yw’r ‘achwynydd’ neu’r ‘tyst’ a dyma sut rydym yn cyfeirio atyn nhw yn ein gwaith; efallai y bydd y term ‘goroeswr’ yn cael ei ddefnyddio hefyd – ond yn y ddogfen hon, er hwylustod, rydym yn cyfeirio atyn nhw fel y dioddefwr. Ystyr ‘un a amheuir’ yw rhywun y mae’r CPS yn ystyried cyhuddo. Mae ‘diffynnydd’ yn rhywun sydd wedi’i gyhuddo gan y CPS. Ystyr ‘troseddwr’ yw rhywun sydd wedi cyflawni trosedd neu sydd wedi cyfaddef, neu wedi’i gael yn euog.

Mae’r wybodaeth hon yn disodli Polisi’r CPS ar gyfer Erlyn Achosion o Dreisio a gyhoeddwyd yn 2012. Mae’r wybodaeth yma yn berthnasol i dreisio ac ymgais i dreisio, ond byddwn yn defnyddio arferion a gweithdrefnau gorau gyda phob math arall o droseddu rhywiol ac yn sicrhau bod pob achos o gam-drin rhywiol yn cael ei drin yn ddifrifol ac yn sensitif. 

Adran anweinidogol yw’r CPS sy’n gyfrifol am sicrhau bod y person cywir yn cael ei erlyn am y trosedd cywir. Rydym yn rhan o’r system cyfiawnder troseddol ac yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau a phobl eraill o’i mewn, gan gynnwys yr heddlu, y llysoedd, cyfreithwyr yr amddiffyniad, y Gwasanaeth Tystion a gwasanaethau carchardai. Er ein bod yn gweithio’n agos gyda’r heddlu, rydym yn annibynnol ar ein gilydd. Rydym yn atebol i’r Senedd drwy’r Twrnai Cyffredinol. Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi rhagor o wybodaeth am y Twrnai Cyffredinol, sydd ar gael yn: gov.uk/government/ministers/attorney-general.

Ni yw’r gwasanaeth erlyn cyhoeddus ar gyfer Cymru a Lloegr. Y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus sy’n ein harwain ac mae gennym 14 tîm rhanbarthol sy’n erlyn achosion yn lleol. Pennaeth pob un o’r 14 Ardal CPS hyn yw Prif Erlynydd y Goron, sy’n gweithio’n agos gyda heddluoedd lleol a sefydliadau cyfiawnder troseddol eraill. Yn ogystal, mae gennym dair Is-adran Gwaith Achos Canolog, gan gynnwys un sydd â’n Huned Apeliadau ac Adolygu sy’n ymwneud â cham adolygu ffurfiol ein Cynllun Hawl Dioddefwr i Adolygiad.

Gwasanaeth Erlyn y Goron sy’n:

  • Penderfynu pa achosion sy’n cael eu herlyn
  • Penderfynu ar y cyhuddiadau priodol
  • Rhoi cyngor i’r heddlu yng nghamau cynnar ymchwiliadau mewn achosion mwy difrifol, fel treisio
  • Paratoi achosion a’u cyflwyno yn y llys
  • Darparu gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth i ddioddefwyr a thystion dros yr erlyniad

Rydym yn gweithio’n agos gyda’r heddlu i adeiladu’r achosion gorau posibl cyn gynted â phosibl. Yr heddlu sy’n gyfrifol am ymchwilio i adroddiadau am dreisio ac am gasglu tystiolaeth. Nid yw’r heddlu’n anfon pob cwyn am drosedd atom. Os yw’r heddlu’n credu bod digon o dystiolaeth i gefnogi honiad, dylent gyfeirio’r achos o dreisio at un o’n herlynwyr a hyfforddwyd yn arbennig, a fydd yn penderfynu a ddylid cyhuddo achos ai peidio. Gall yr heddlu hefyd ymgynghori a cheisio ‘cyngor cynnar’ gennym o ddechrau ymchwiliad, i adeiladu a chryfhau achos.


Mae rhagor o wybodaeth am Ardaloedd CPS lleol i’w gweld ar wefan y CPS drwy ddewis ‘eich ardal chi’ yn y cwympflwch ar frig ochr dde ein hafan: www.cps.gov.uk

 

3.1 Y COD AR GYFER ERLYNWYR Y GORON

Wrth benderfynu a ddylid cyhuddo mewn achos troseddol, rhaid i’n herlynwyr ddilyn y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron wrth gymhwyso’r gyfraith, sydd ar gael ar wefan Gwasanaeth Erlyn y Goron yma: cps.gov.uk/publication/code-crown-prosecutors.

Y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron yw’r man cychwyn ar gyfer pob penderfyniad a wnawn. Rydym yn edrych ar bob achos a anfonir atom ni, ac mae pob penderfyniad a wnawn yn seiliedig ar y prawf dau gam canlynol sydd yn y Cod hwn:

Cam 1 – Y cam tystiolaethol

A yw’r dystiolaeth yn darparu ‘gobaith realistig o gael euogfarn’? Mae hynny’n golygu, ar ôl edrych ar yr holl dystiolaeth, ein bod yn credu bod llys yn fwy tebygol na pheidio o gael y diffynnydd yn euog.

Dylai ein holl benderfyniadau fod yn deg, yn wrthrychol ac yn annibynnol, ar sail ffeithiau a rhinweddau pob achos unigol. Wrth asesu a oes gobaith realistig o gael person yn euog, rhaid i ni dybio y bydd y rheithgor sy’n gwrando ar yr achos yn wrthrychol, yn ddiduedd, yn rhesymol, wedi’i gyfeirio’n briodol ac yn gweithredu’n unol â’r gyfraith.

Mae’r safon a ddefnyddiwn i benderfynu a ddylid cyhuddo yn wahanol i’r safon y mae’n rhaid i’r llysoedd troseddol eu hunain ei defnyddio. Dim ond os yw’n sicr bod y diffynnydd yn euog y gall llys ei ddyfarnu’n euog. Os bydd y llys yn penderfynu nad yw diffynnydd yn euog o dreisio (neu’n cael ei ryddfarnu), nid yw hynny’n golygu bod y CPS yn anghywir i erlyn nac ychwaith yn golygu na chredwyd y dioddefwr neu nad oedd ei drawma’n wir. Yn syml, mae’n golygu na allai rheithgor fod yn siŵr bod y diffynnydd yn euog.

Os nad yw achos yr ymchwiliwyd iddo’n llawn yn pasio cam tystiolaethol ein prawf, ni ellir ei gyhuddo, ni waeth pa mor ddifrifol y gallai fod.

Cam 2 – Cam budd y cyhoedd

Os bydd yr achos yn pasio’r cam tystiolaeth, rhaid i ni benderfynu a yw er budd y cyhoedd i gyhuddo. Mae hynny’n golygu gofyn cwestiynau, gan gynnwys pa mor ddifrifol oedd y trosedd, y niwed a achoswyd, yr effaith ar gymunedau ac ai erlyn yw’r ymateb cywir.

Mae treisio mor ddifrifol fel y bydd erlyn bron bob amser er budd y cyhoedd, lle mae digon o dystiolaeth i wneud hynny. Mae unrhyw benderfyniad i beidio ag erlyn oherwydd rhesymau budd y cyhoedd yn anghyffredin, a byddai’n rhaid iddo gael ei gefnogi gan resymau clir.

Er mai ein lle ni yw penderfynu a ydym am erlyn ai peidio, byddwn yn ystyried barn y dioddefwr ar effaith y trosedd. Mewn achosion priodol, gall hyn hefyd gynnwys barn eu teulu. Mae gan ddioddefwyr hefyd hawl i ofyn am adolygiad o’n penderfyniadau drwy ein cynllun Hawl Dioddefwr i Adolygiad.

3.2 GOFYNION CYFREITHIOL A THYSTIOLAETHOL WRTH ERLYN ACHOSION O DREISIO

Bydd ymchwilydd yn ceisio casglu tystiolaeth i helpu i brofi bod trosedd wedi’i gyflawni a bod person penodol wedi cyflawni’r trosedd hwnnw. Mae angen i ni wneud penderfyniadau gofalus a chytbwys mewn achosion o dreisio, ar ôl edrych ar yr holl dystiolaeth berthnasol a gasglwyd gan ymchwilydd.

Gallai’r dystiolaeth mewn achos fod yn adroddiadau a roddir gan y bobl dan sylw, yn ogystal â thystiolaeth o archwiliadau fforensig a meddygol. Mae ein herlynwyr wedi’u hyfforddi i edrych yn fanwl ar weithgarwch yr un a amheuir cyn, yn ystod ac ar ôl y trosedd honedig. Mae hyn yn helpu i greu darlun llawn o amgylchiadau’r digwyddiad a gall gryfhau’r achos yn aml.

Gan ddibynnu ar ffeithiau ac amgylchiadau’r trosedd, gellid cael deunydd ychwanegol (a elwir hefyd yn drydydd parti) fel tystiolaeth hefyd. Gall hyn gynnwys gwybodaeth o gofnodion awdurdodau lleol, cofnodion meddygol, cofnodion addysgol neu deledu cylch cyfyng preifat.

Dim ond os oes ei angen fel rhan o ymchwiliad y dylid cael deunydd, a fydd yn dibynnu ar gyd-destun yr achos. Mae rhwymedigaeth gyfreithiol i fynd ar drywydd ymholiadau rhesymol sy’n pwyntio tuag at yr un a amheuir, neu oddi wrtho. Mae’n bwysig nad yw ymholiadau damcaniaethol (ar sail dyfalu yn hytrach na gwybodaeth) yn cael eu cynnal.

Mae’r cynnydd yn y defnydd o dechnoleg ddigidol yn ein bywydau o ddydd i ddydd yn golygu bod angen tystiolaeth o gyfathrebu digidol yn aml. Efallai y bydd angen edrych ar wybodaeth, a allai fod yn sensitif, o ffôn clyfar neu gyfrifiadur, fel negeseuon testun, negeseuon e-bost, cofnodion digidol neu negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol. Ni ddylai’r penderfyniad i gael ac adolygu deunydd ar ddyfais ddigidol gael ei wneud yn ddifeddwl. Byddwn yn rhoi cyngor i’n cydweithwyr yn yr heddlu ynghylch a oes angen edrych ar ddyfeisiau, i sicrhau mai dim ond pan fydd hynny’n angenrheidiol yn ôl y gyfraith y gwneir hynny.1

3.3 DATGELIAD A’R HAWL I BREIFATRWYDD

Beth yw datgeliad?

Ar ôl cyhuddo unigolyn a amheuir o drosedd, mae gan y CPS ddyletswydd gyfreithiol i ddangos (datgelu) mathau penodol o ddeunydd i’r amddiffyniad. Rhaid i'r CPS ddangos unrhyw ddeunydd a allai danseilio achos yr erlyniad i’r amddiffyniad, ac unrhyw ddeunydd a allai fod o gymorth i achos yr amddiffyniad. Byddwn yn penderfynu pa ddeunydd sy’n bodloni’r prawf hwn a gan fod pob mater yn wahanol, bydd y penderfyniad yn dibynnu ar y ffeithiau unigryw yn yr achos.

Gall methu â chyflawni dyletswyddau datgelu arwain at ganlyniadau difrifol iawn i gyfiawnder cyhoeddus a hawliau dioddefwyr a diffynyddion. Gall canlyniadau posibl gynnwys diystyru tystiolaeth mewn treial neu'r diffynnydd yn gallu cyflwyno dadl gyfreithiol dros atal achos. Ni allwn barhau ag achos os na allwn gyflawni ein rhwymedigaethau datgelu.

Rôl y CPS

Mae'r CPS yn argymell bod yr heddlu’n cael cyngor buan gennym ym mhob achos o dreisio. Wrth roi cyngor cynnar, bydd yr heddlu a'r CPS yn trafod a oes angen edrych ar ddyfeisiau digidol a/neu gael gafael ar unrhyw ddeunydd trydydd parti. Os ystyrir bod angen edrych ar ddyfeisiau, deuir i gytundeb ynghylch beth fydd yn cael ei ystyried.

Er bod cyngor cynnar yn cael ei argymell yn gryf, nid yw’n ofynnol. Hyd yn oed pan fydd yn cael ei roi, ni all y CPS roi cyfarwyddyd i’r heddlu, dim ond rhoi cyngor. Yr heddlu sy’n gyfrifol am yr ymchwiliad a nhw sy’n gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch pa gamau ymchwilio sy’n cael eu cwblhau. Os oes gan ddioddefwr unrhyw gwestiynau am yr ymchwiliad, dylai eu cyfeirio at y swyddog sy’n gyfrifol am yr achos.

Defnyddio tystiolaeth ddigidol o ddyfeisiau 

Os deuir o hyd i wybodaeth berthnasol ar ddyfais, bydd yn cael ei thrin fel yr holl ddeunydd arall yn yr achos. Os oes unrhyw wybodaeth bersonol nad yw’n berthnasol i’r ymchwiliad yn y deunydd – yn ddigidol neu fel arall – bydd yn cael ei golygu (ei golygu i guddio neu i ddileu gwybodaeth) os yw’n bosibl cyn ei darparu i’r amddiffyniad. Os oes gan ddioddefwr unrhyw bryderon ynghylch sut y gellid defnyddio ei ddata digidol, dylai siarad â’r swyddog heddlu sy’n gyfrifol am yr achos.

Pam mae angen i’r heddlu weld deunydd trydydd parti?

Gall trydydd partïon ddal deunydd a all helpu i gryfhau’r achos yn erbyn un a amheuir, er enghraifft gallai lluniau teledu cylch cyfyng preifat helpu i adnabod un a amheuir neu brofi beth ddigwyddodd. Gall trydydd partïon hefyd ddal deunydd perthnasol lle trafodir y digwyddiad a gallant gadw cofnodion, er enghraifft cofnodion meddygol, os yw dioddefwr wedi siarad â’i feddyg.

Gellir defnyddio’r cofnodion hyn i gryfhau’r dystiolaeth a helpu i lunio achos yn erbyn un a amheuir. Gall trydydd partïon hefyd gadw cofnodion sy’n tanseilio achos yr erlyniad neu a allai helpu achos yr amddiffyniad ac mae dyletswydd gyfreithiol i adolygu a datgelu’r deunydd hwn o bosibl.

Ni fydd angen deunydd trydydd parti ym mhob achos. Dim ond os yw’n drywydd ymholi rhesymol y gwneir ymholiadau gyda’r rheini sy’n dal deunydd trydydd parti. Ni ddylid byth chwilio drwy ddeunydd trydydd parti yn sbeciannol.

Rhaid i drydydd partïon a’r heddlu gofio eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf Diogelu Data 2018, a bydd gwybodaeth bersonol nad yw’n berthnasol i ymchwiliad yn cael ei dileu gan yr heddlu. Dim ond deunydd sy’n bodloni’r prawf datgelu fydd yn cael ei ddangos i’r amddiffyniad.

Therapi neu gwnsela cyn treial

Gall dioddefwr fod yn cael, neu feddwl am gael, therapi neu gwnsela i’w helpu i wella ar ôl eu profiadau. Rydym yn glir y dylai dioddefwr dderbyn triniaeth effeithiol a chymorth therapiwtig i’w helpu i wella, cyn gynted ag y bo modd. Ni ddylid oedi gyda therapi am unrhyw reswm sy’n gysylltiedig ag ymchwiliad troseddol neu erlyniad.

Os yw dioddefwr yn cael therapi cyn treial, dim ond os yw’n drywydd ymholi rhesymol y dylai’r heddlu gasglu nodiadau gan therapydd neu ddarparwr therapi’r dioddefwr. Dim ond os oes rhyw reswm dros gredu y bydd y nodiadau’n cynnwys deunydd sy’n berthnasol i’r achos y bydd yn drywydd ymholi rhesymol. Mae’r dull hwn yn bwysig er mwyn sicrhau bod preifatrwydd dioddefwr yn cael ei ddiogelu, gan sicrhau bod proses deg ar gyfer treial. Gallai hefyd ein helpu i adeiladu’r achos neu fod mewn sefyllfa well i ymateb i faterion a godir gan yr amddiffyniad. Er enghraifft, efallai fod gan yr heddlu wybodaeth bod rhywun wedi rhannu ei brofiad am gam-drin gyda therapydd am y tro cyntaf nifer o flynyddoedd cyn i’r heddlu gael gwybod am y cam-drin.

Dim ond deunydd gan therapyddion neu ddarparwyr therapi y gall yr heddlu ei gasglu – ac felly gall y wybodaeth hon fod yn rhan o’r achos – dim ond:

  • os yw’n gwbl hanfodol fel rhan o drywydd ymholi rhesymol sy’n pwyntio tuag at yr un a amheuir, neu oddi wrtho;
  • os ydynt yn gallu esbonio i’r darparwr therapi pam fod angen yr wybodaeth, ac yn gallu bod yn benodol ynghylch yr hyn sydd ei angen; a
  • bod y cais am y swm lleiaf o wybodaeth sy’n ddigon i ddelio â’r trywydd ymholi.

Ni ellir cael gafael ar nodiadau therapi neu gwnsela ar sail sbeciannol (yn seiliedig ar waith dyfalu).


-Mae’r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron hefyd ar gael i’w lwytho i lawr mewn nifer o ieithoedd ar wefan y CPS yma cps.gov.uk/publication/code-crown-prosecutors-2018-downloadable-version-and-translations.

-I gael gwybodaeth fanwl am sut mae ein herlynwyr yn defnyddio prawf Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron neu’n defnyddio tystiolaeth fforensig mewn achosion o dreisio, rydym wedi cyhoeddi’r canllawiau a roddwn i’n herlynwyr sydd ar gael i’w llwytho i lawr yma: cps.gov.uk/legal-guidance/rape-and-sexual-offences-overview-and-index-2021-updated-guidance.

-Mae trin cwynion yn rhan bwysig o’r gwasanaeth cyhoeddus a ddarparwn. Rydyn ni eisiau gwybod pan nad yw ein gwasanaeth yn bodloni’r hyn a ddisgwylir er mwyn i ni allu cywiro pethau, gwneud gwelliannau a dysgu o brofiadau. Mae rhagor o wybodaeth am adborth a chwynion ar gael ar ein gwefan yma: cps.gov.uk/feedback-and-complaints.

-Dylai pob dioddefwr trosedd gael cynnig cyfle gan yr heddlu i wneud Datganiad Personol y Dioddefwr. Yn y datganiad hwn, gall y dioddefwr egluro’r effaith y mae’r trosedd wedi’i chael arnyn nhw, yn ogystal â chynnwys gwybodaeth am eu dymuniadau a’u hanghenion yn ystod yr achos. Rydym yn defnyddio Datganiadau Personol y Dioddefwr i helpu i wneud penderfyniadau am achosion a’u dwyn i sylw’r llys.


1 I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar y canllawiau ar dystiolaeth gyfathrebu sydd ar gael ar ein gwefan yma cps.gov.uk/legal-guidance/disclosure-guidelines-communications-evidence

Gall gymryd misoedd rhwng yr adeg y gwneir adroddiad i’r heddlu a gwneud penderfyniad ynghylch p’un ai i gyhuddo ai peidio. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd yr heddlu’n ymchwilio, a bydd y CPS yn adeiladu’r achos. Mewn rhai achosion, fodd bynnag, gellir gwneud penderfyniad cyflymach i gyhuddo (o dan y Prawf Trothw1), gyda’r diffynnydd yn cael ei gadw yn nalfa’r heddlu i ymddangos yn y llys ynadon o fewn dyddiau.

4.1 OS YW’R UN A AMHEUIR YN CAEL EI GYHUDDO

Dylai’r heddlu ddweud wrth ddioddefwr o fewn un diwrnod gwaith am ein penderfyniad i gyhuddo’r un a amheuir o dreisio. Unwaith y bydd rhywun wedi’i gyhuddo o dreisio, gwneir penderfyniad i ryddhau’r diffynnydd ar fechnïaeth, i fynychu gwrandawiad llys neu i’w cadw yn y ddalfa (cadw yn y carchar) fel y gallant ymddangos yn y gwrandawiad llys nesaf sydd ar gael.

Os yw’r diffynnydd yn 18 oed neu’n hŷn, bydd y gwrandawiad cyntaf yn y llys ynadon; bydd achosion mwy difrifol, gan gynnwys treisio, wedyn yn symud i Lys y Goron. Os yw’r diffynnydd o dan 18 oed, cynhelir y gwrandawiad yn y llys ieuenctid. Gweler yr adran – ‘Mynd i’r llys’ am ragor o wybodaeth.

4.2 OS NAD YW’R UN A AMHEUIR YN CAEL EI GYHUDDO

Mae penderfyniad i beidio â chyhuddo un a amheuir, neu i atal achos ar ôl cyhuddiad, yn golygu nad oedd tystiolaeth neu amgylchiadau’r achos yn pasio dau gam prawf Cod Erlynwyr y Goron. Dylai dioddefwyr gael gwybod am hyn o fewn un diwrnod gwaith.

Rydyn ni’n gwybod bod penderfyniad i beidio â chyhuddo un a amheuir, neu i atal achos, yn gallu bod yn anodd iawn i’r dioddefwr. Nid yw penderfyniad o’r fath yn golygu na chredwyd y dioddefwr.

Bydd yr un sy’n gyfrifol am ddweud wrth y dioddefwr am y penderfyniad hwn yn dibynnu ar bwy sy’n ei wneud. Os gwneir penderfyniad gan yr heddlu, yr heddlu fydd yn gyfrifol; os caiff ei wneud gan y CPS, y CPS sy’n gyfrifol.

Pan fydd y CPS yn dweud wrth ddioddefwr am benderfyniad (naill ai’n ysgrifenedig neu’n bersonol) i beidio â chyhuddo achos o dreisio, byddwn yn rhoi esboniad o’r penderfyniad, yn cynnig cyfarfod i egluro’r penderfyniad ac yn rhoi gwybodaeth am ein Cynllun Hawl Dioddefwr i Adolygiad. Os nad yw cyfarfod yn briodol, bydd hyn hefyd yn cael ei egluro i’r dioddefwr.

Os bydd yr heddlu neu'r CPS yn penderfynu peidio â chyhuddo rhywun o drosedd, ni chymerir unrhyw gamau pellach yn eu herbyn. Bydd yr achos yn cael ei gau ond cedwir gwybodaeth sy’n ymwneud â’r ymchwiliad rhag ofn y cesglir tystiolaeth bellach, neu fod yr un a amheuir yn cael ei gyhuddo o droseddau eraill yn y dyfodol.

Mewn achosion prin, gan gynnwys y rhai y mae plant neu bobl ifanc yn gysylltiedig â nhw, gellir cynnig rhybuddiad neu rybudd amodol. Dim ond ar ôl gofyn am farn y dioddefwr, ei deulu ac asiantaethau eraill sy’n ymwneud â’r achos y byddai hyn yn cael ei wneud.

4.3 HAWL Y DIODDEFWR I ADOLYGIAD

Mae gan ddioddefwyr yr hawl i gael adolygiad o’n penderfyniad i beidio â chychwyn erlyniad neu i atal erlyniad.

Dim ond i benderfyniadau CPS a wnaed 5 Mehefin 2013 neu ar ôl hynny y mae ein cynllun Hawl Dioddefwr i Adolygiad yn berthnasol. Fel arfer, dylid gwneud cais am adolygiad o fewn 10 diwrnod gwaith i ddyddiad y llythyr penderfyniad. Nid oes yn rhaid i ddioddefwr geisio cyngor na chynrychiolaeth gyfreithiol, na rhoi rhesymau dros ofyn am adolygiad. Yr unig beth y mae angen i ddioddefwr ei wneud yw rhoi gwybod i’r CPS am ei gais am adolygiad o fewn yr amserlen y cytunwyd arni.

I gael rhagor o wybodaeth am ein cynllun Hawl Dioddefwr i Adolygiad, gan gynnwys gwybodaeth am benderfyniadau cymhwyso ac amserlenni, ewch i’r dudalen ganlynol ar ein gwefan: cps.gov.uk/legal-guidance/victims-right-review-scheme.

Os bydd yr heddlu’n penderfynu peidio ag ymchwilio i achos, neu ymchwilio ymhellach i achos, ac na ofynnwyd i ni wneud penderfyniad ynghylch cyhuddo, dylid anfon ceisiadau i adolygu penderfyniad o’r fath at yr heddlu perthnasol.

4.4 BETH SY’N DIGWYDD OS NAD YW DIODDEFWR YN CEFNOGI ERLYNIAD MWYACH, EISIAU TYNNU’R GŴYN YN ÔL, NEU NID YN DYMUNO RHOI TYSTIOLAETH?

Gall effaith ymchwiliad, neu amgylchiadau personol eraill, olygu bod y dioddefwr yn dewis peidio â chefnogi erlyniad. Os bydd y dioddefwr yn dewis tynnu’r gefnogaeth yn ôl, gallai olygu nad oes gennym ddigon o dystiolaeth i barhau â’r achos yn erbyn y diffynnydd a bydd angen iddo ddod i ben. Bydd y penderfyniad ynghylch a all achos fynd yn ei flaen yn dibynnu ar ei ffeithiau unigryw ei hun.

Gall dioddefwyr gysylltu â swyddog yr heddlu sy’n delio â’r achos i drafod hyn, a gall Cynghorydd Trais Rhywiol Annibynnol helpu hefyd. Byddwn yn gofyn i’r heddlu wneud datganiad ysgrifenedig i ddeall y rhesymau pam fod y dioddefwr yn dymuno tynnu’r gefnogaeth yn ôl, gan gynnwys a ydynt wedi cael eu rhoi o dan unrhyw bwysau i wneud y penderfyniad hwn. Bydd yr heddlu hefyd yn gofyn i’r dioddefwr gadarnhau a oedd y gŵyn wreiddiol yn wir.

  • Os yw’r dioddefwr yn dweud bod y datganiad gwreiddiol yn wir, byddwn yn edrych ar y posibilrwydd o fwrw ymlaen â’r erlyniad heb eu tystiolaeth. Os rhoddwyd pwysau arnyn nhw i dynnu cefnogaeth yn ôl, efallai y byddwn yn gofyn i’r heddlu ymchwilio ymhellach, a allai ddangos troseddau newydd, fel bygwth tystion;

  • Os bydd y dioddefwr yn dweud nad oedd y gŵyn wreiddiol yn wir, rydym yn disgwyl i’r heddlu ofyn am esboniad ynghylch pam fod yr adroddiad wedi newid. Bydd hynny’n ein helpu i ddeall amgylchiadau’r hyn a ddigwyddodd, a ddylid cynnal ymchwiliad i weld pam y newidiodd rhywun eu cwyn ac a ddylid bwrw ymlaen â’r erlyniad gwreiddiol.

Byddwn hefyd yn gofyn i’r heddlu roi eu barn ar y dystiolaeth yn yr achos ac esbonio i’r dioddefwr beth yw goblygiadau ‘gŵys’ (gorchymyn) i ddod i’r llys. Mae gwŷs tyst yn orchymyn llys sy’n gosod gofyniad cyfreithiol ar rywun i ddod i’r llys a rhoi tystiolaeth. Gall peidio â gwneud hynny arwain at arestio. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y byddem yn galw ar ddioddefwr, neu’n rhoi gwŷs iddo, i roi tystiolaeth yn groes i’w ddymuniad, a dim ond ar ôl siarad â’r heddlu.

Diogelwch y dioddefwr yw un o’n prif ystyriaethau. Mae’n bwysig i ni fod dioddefwyr a thystion yn barod i roi tystiolaeth a byddwn yn cymryd pa gamau bynnag a allwn i’w helpu i oresgyn eu hofnau a rhoi eu tystiolaeth orau, gan gynnwys drwy geisiadau am fesurau arbennig.

Unedau Cyswllt Dioddefwyr (VLU) y CPS sy’n gyfrifol am roi gwybod i ddioddefwyr am benderfyniadau i atal achos neu newid cyhuddiadau’n sylweddol. Maent yn bwynt cyswllt penodol i gael rhagor o wybodaeth am ein penderfyniadau. Gall yr VLU hefyd gynghori dioddefwr ynghylch sut i geisio adolygiad o benderfyniad, gwneud cwyn neu roi adborth.


1 Mae rhagor o wybodaeth am y Prawf Trothwy ar gael ar wefan Gwasanaeth Erlyn y Goron yma: cps.gov.uk/publication/code-crown-prosecutors#section5.

Gall gymryd misoedd i achos gael ei glywed yn y llys a mynd i dreial. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd yr heddlu a’r CPS yn adeiladu ac yn paratoi’r achos fel ei fod yn barod. Y llysoedd sy’n gyfrifol am benderfynu pa bryd y gwrandewir ar achosion.

Mae pob achos yn dechrau yn y llys ynadon – dyma’r tro cyntaf i’r diffynnydd ymddangos yn y llys (fel arfer ni fydd y dioddefwr yn bresennol) a gofynnir iddynt a ydynt yn euog neu’n ddieuog o’r trosedd neu’r troseddau. Os yw’r diffynnydd yn datgan ei fod yn ddieuog (neu nad yw’n pledio), yna bydd y llys yn trosglwyddo’r achos i Lys y Goron uwch ar gyfer treial. Os yw’r diffynnydd yn datgan ei fod yn euog, yna ni fydd yr achos yn mynd i dreial ac mae’n debygol na fydd y dioddefwr yn cael ei alw i roi tystiolaeth.

Bydd y llys yn trefnu gwrandawiad arall yn Llys y Goron ar ddyddiad arall i benderfynu pa ddedfryd y dylid ei rhoi. Os yw’r diffynnydd dan 18 oed, y llys ieuenctid fydd yn ystyried achosion yn gyntaf.

5.1 MATERION MECHNÏAETH

Os yw unigolyn a amheuir sydd wedi’i ryddhau ar fechnïaeth neu wedi’i ryddhau dan ymchwiliad yn cael ei gyhuddo, gellir ei gadw yn y ddalfa neu, yn fwy tebygol, ei ryddhau ar fechnïaeth i ymddangos yn y llys yn y dyfodol.

Byddwn yn ffurfio barn ar fechnïaeth a gallwn gyflwyno sylwadau i’r llys ar sail gwybodaeth gan yr heddlu. Yn dibynnu ar yr achos, gallai hyn gynnwys gwybodaeth am bryderon diogelwch sy’n ymwneud â dioddefwyr neu dystion, nifer ac oedran plant, lleoliad ac agosrwydd cyfeiriadau’r dioddefwr a’r diffynnydd, unrhyw orchmynion sifil a wneir (er enghraifft, gan y llys teulu) ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall fel Datganiad Personol y Dioddefwr (lle ceir un). Os oes risg sylweddol o berygl, bygythiadau neu bwysau, efallai y byddwn yn gofyn i’r diffynnydd gael ei gadw yn y ddalfa.

Bydd y llys yn ystyried y wybodaeth hon a gall wrthod mechnïaeth os oes, er enghraifft, sail sylweddol dros gredu y bydd y diffynnydd yn cyflawni rhagor o droseddau neu’n ymyrryd â’r dioddefwr neu unrhyw dystion drwy geisio cysylltu â nhw neu eu bygwth. Ceir eithriad hefyd i’r hawl i fechnïaeth ar gyfer rhai troseddwyr mynych difrifol, gan gynnwys rhai a gafwyd yn euog o dreisio yn y gorffennol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau i erlynwyr ar Fechnïaeth sydd ar gael ar ein gwefan yma: cps.gov.uk/legal-guidance/bail.

Os rhoddir mechnïaeth i’r diffynnydd, gall y llys osod amodau y mae’n penderfynu sy’n angenrheidiol. Bydd yr amodau hyn yn amrywio yn dibynnu ar yr achos, ond gallant gynnwys:

  • Peidio â chysylltu â phobl a enwir – yn uniongyrchol (wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy gyfryngau cymdeithasol) neu’n anuniongyrchol (drwy ffrindiau)
  • Aros mewn ardaloedd penodol neu y tu allan iddynt
  • Cyrffyw
  • Rhoi gwybod i orsaf yr heddlu ar amseroedd neu gyfnodau penodol

Os yw’r dioddefwr yn poeni y gallai diffynnydd gael mechnïaeth, dylai siarad â’r heddlu fel y gellir trosglwyddo hyn i’r CPS fel y gallwn gyflwyno sylwadau i’r llys.

Bydd y dioddefwr yn cael gwybod am ganlyniad y gwrandawiad, gan gynnwys unrhyw amodau mechnïaeth, gan yr Uned Gofal Tystion neu’r heddlu o fewn un diwrnod gwaith i’r gwrandawiad. Os bydd y diffynnydd yn torri unrhyw amodau mechnïaeth, neu os bydd y dioddefwr yn cael ei fygwth neu ei harasio mewn unrhyw ffordd, dylid dweud wrth yr heddlu ar unwaith. Gallai fod yn ddefnyddiol cadw cofnod o unrhyw ymddygiad o’r fath er mwyn dweud wrth yr heddlu. Bydd hyn yn helpu i benderfynu a yw’r diffynnydd wedi torri amodau ei fechnïaeth ac a gyflawnwyd trosedd arall. Gellir ei ddefnyddio hefyd fel tystiolaeth yn eu herbyn yn y llys.

5.2 Y GWRANDAWIAD CYNTAF YN LLYS Y GORON

Fel arfer, y gwrandawiad cyntaf yn Llys y Goron yw’r ‘Gwrandawiad Paratoi ar gyfer Treial a Phledio’ (PTPH). Darllenir rhestr o gyhuddiadau (y ‘ditiad’) yn gyntaf i’r diffynnydd a gofynnir iddo’n ffurfiol bledio’n ‘euog’ neu’n ‘ddieuog’. Os bydd y diffynnydd yn pledio’n euog, gellir eu dedfrydu ar unwaith neu trefnir dyddiad i benderfynu pa ddedfryd y dylid ei rhoi. Os yw’r diffynnydd yn pledio’n ddieuog i bob trosedd neu’n pledio’n euog i rai o’r troseddau’n unig (a elwir hefyd yn ‘ble cymysg’), bydd y Barnwr yn pennu dyddiad ar gyfer treial.

Bydd y Barnwr yn gwneud gorchmynion yn nodi beth sydd angen ei wneud cyn y treial ac erbyn pryd. Yn y gwrandawiad hwn, gallwn wneud ceisiadau am ‘fesurau arbennig’. Mae rhagor o wybodaeth am fesurau arbennig ar gael yma.

Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn ystyried derbyn ple euog diffynnydd i rai o’r cyhuddiadau ond ple dieuog i eraill, gan gynnwys cyhuddiad o dreisio. Gallai hyn ddigwydd os nad yw’r dioddefwr yn dymuno bwrw ymlaen neu oherwydd bod tystiolaeth neu wybodaeth newydd yn dod i’r amlwg. Wrth wneud y penderfyniad hwn, byddwn yn cyfeirio at Ganllawiau’r Twrnai Cyffredinol ar Dderbyn Pledion1 a’n prawf dau gam yn y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron.

Byddwn bob amser yn rhoi ystyriaeth briodol i fuddiannau’r dioddefwr, ac ni fyddwn yn derbyn ple ar sail cyfres o ffeithiau nad ydynt yn cael eu hategu gan y dystiolaeth. Byddwn hefyd yn sicrhau bod y sefyllfa hon yn cael ei thrafod gyda’r dioddefwr neu ei deulu pryd bynnag y bo modd er mwyn egluro’r penderfyniad, unrhyw oblygiadau a chael barn i’n helpu i wneud y penderfyniad cywir. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ddioddefwyr ac yn egluro ein penderfyniadau ar ôl iddynt gael eu gwneud yn y llys.

Efallai y bydd y llys yn penderfynu cynnal ‘gwrandawiad Newton’, lle mae’r diffynnydd yn pledio’n euog, ond bod yr amddiffyniad a’r erlyniad yn anghytuno â ffeithiau pwysig y mae’r llys yn mynd i seilio ei ddedfryd arnynt. Pwrpas y gwrandawiad yw clywed barn yr erlyniad a’r amddiffyniad er mwyn sefydlu’r sail ffeithiol ar gyfer y ddedfryd sydd i’w phennu. Efallai y bydd yn rhaid i ddioddefwr roi tystiolaeth mewn gwrandawiad Newton ac os bydd y sefyllfa hon yn codi, bydd yn cael ei thrafod a’i hegluro i’r dioddefwr.

5.3 TREIAL LLYS Y GORON

Rhwng y gwrandawiad cyntaf a’r treial, efallai y byddwn yn cymryd rhan mewn gwrandawiadau pellach i ddelio â materion cyfreithiol a materion eraill. Gallai hyn gynnwys clywed dadleuon ynghylch pa dystiolaeth a ganiateir yn y treial.

Bydd y rhai y gelwir arnynt i fynd i’r llys yn cael gwybod am leoliad, dyddiad ac amser y treial a phryd y bydd angen iddynt fod yn bresennol. Yn y llys, bydd y cyfreithiwr sy’n erlyn yr achos (adfocad yr erlyniad) yn cyflwyno’i hun i’r dioddefwr ac i unrhyw dystion eraill cyn iddynt roi tystiolaeth.

Rydym yn cydnabod bod proses y treial yn gallu bod yn frawychus ac yn ddryslyd. Rydym wedi rhoi esboniad yn y tabl isod o rai o’r camau mewn treial Llys y Goron a allai fod yn ddefnyddiol.

Y Rheithgor yn tyngu llw

  • Gofynnir i reithwyr dyngu llw’r rheithwyr. Rhaid i reithwyr fod yn wrthrychol, yn ddiduedd ac yn rhesymol wrth asesu'r dystiolaeth.

  • Rôl y Barnwr yw cynghori’r rheithgor ar y gyfraith. Er enghraifft, mae nifer o gyfarwyddiadau cyfreithiol y gall y Barnwr eu rhannu â’r rheithgor i’w gwneud yn glir nad oes unrhyw dreisio, treisiwr, dioddefwr nac ymateb nodweddiadol i dreisio.

Areithiau agoriadol

  • Mae adfocad yr erlyniad yn dechrau’r achos gydag araith, a fydd yn ymdrin â’r cyhuddiadau a wynebir gan y diffynnydd; pwy fydd yn rhoi tystiolaeth a pham; ‘baich’ a ‘safon’ y profi – mai mater i’r erlyniad yw profi’r achos fel bod y rheithgor yn sicr o euogrwydd y diffynnydd yn erbyn y cyhuddiadau.

  • Gall yr amddiffyniad wneud araith agoriadol hefyd, i helpu’r llys i ddeall y materion y mae anghydfod yn eu cylch.

Tystiolaeth yr erlyniad

  • Mae’r erlyniad yn cyflwyno ei dystiolaeth. Gallai hyn gynnwys tystion yn rhoi tystiolaeth yn y llys neu fod eu cyfweliad a recordiwyd ar fideo’n cael ei chwarae neu ddatganiadau’n cael eu darllen i’r rheithgor. Fel arfer, y dioddefwr yw’r tyst cyntaf i roi tystiolaeth.

  • Bydd pob tyst yn cael ei holi gan yr erlyniad (blaen holiad) ac yna’r amddiffyniad (croesholi). Efallai y bydd adfocad yr erlyniad yn gofyn cwestiynau pellach i’r tyst (gelwir hyn yn ail-holiad). Gall y Barnwr hefyd ofyn cwestiynau. Os oes mwy nag un diffynnydd mewn achos, yna gall pob cynrychiolydd o’r amddiffyniad ofyn cwestiynau.

  • Mewn achosion treisio, ni all y diffynnydd groesholi dioddefwr yn bersonol (gofyn cwestiynau iddo).

Achos yr amddiffyniad

  • Mae’r amddiffyniad yn cyflwyno ei dystiolaeth. Os bydd y diffynnydd yn rhoi tystiolaeth, bydd yn cael ei holi yn gyntaf gan yr amddiffyniad (blaen holiad) ac wedyn gan adfocad yr erlyniad (croesholi). Yna, gall cynrychiolwyr cyfreithiol y diffynnydd ofyn cwestiynau pellach (ail-holiad). Gall y Barnwr hefyd ofyn cwestiynau.

  • Gall achos yr amddiffyniad wedyn gynnwys tystiolaeth arall fel tystion sy’n cefnogi achos yr amddiffyniad.

Areithiau cloi

  • Gall yr erlyniad wneud araith gloi ar ôl cyflwyno’r holl dystiolaeth. Gall yr amddiffyniad hefyd wneud araith gloi a bydd yn gwneud hynny fel arfer.

Crynhoi

  • Mae’r Barnwr yn crynhoi ffeithiau perthnasol yr achos i’r rheithgor ac yn darparu unrhyw wybodaeth bellach y gallai fod ei hangen arnynt i ddod i benderfyniad, fel cyfarwyddiadau cyfreithiol.

Rheithgor yn ymneilltuo ac yn dychwelyd gyda’i ddyfarniad

  • Mae’r Barnwr yn gofyn i’r rheithgor ddod i reithfarn y mae pob un ohonynt yn cytuno arni.

  • Mae rheithwyr yn mynd i ystafell breifat i ystyried a thrafod y dystiolaeth a gyflwynwyd iddynt gan yr erlyniad a’r amddiffyniad. Byddant wedyn yn dwyn rheithfarn er mwyn penderfynu a yw’r diffynnydd yn euog neu’n ddieuog o bob cyhuddiad y maent yn ei wynebu. Gall yr amser a gymerir ganddynt i ddwyn rheithfarn amrywio.

  • Efallai y bydd y rheithgor yn canfod y diffynnydd yn euog o bob cyhuddiad a byddant yn cael eu dedfrydu.

  • Efallai y bydd y rheithgor yn canfod bod y diffynnydd yn euog o rai cyhuddiadau ac yn ddieuog o eraill; gelwir hyn yn ‘rheithfarn gymysg’.

  • Gall y rheithgor ganfod bod y diffynnydd yn ddieuog. Rhaid i’r erlyniad brofi bod trosedd wedi digwydd a rhaid i’r rheithgor fod yn sicr, ar sail yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd, bod y diffynnydd yn euog cyn y gellir ei ganfod yn euog. Nid yw rheithfarn ddieuog (neu benderfyniad i ryddfarnu) yn golygu na chredwyd y dioddefwr neu fod y rheithgor yn credu eu bod yn dweud celwydd – mae’n golygu na ellid bodloni’r safon prawf sydd ei hangen i gael rhywun yn euog yn yr achos.

  • Ar ôl peth amser, gall Barnwr dderbyn penderfyniad gan y mwyafrif.2

  • Os na all y rheithgor ddod i benderfyniad ar gyhuddiad penodol, mae hyn yn arwain at ‘reithgor crog’. Efallai y bydd yr erlyniad yn penderfynu cynnal ail dreial.

Dedfryd

  • Os bydd rheithgor yn canfod y diffynnydd yn euog, bydd y Barnwr yn penderfynu ar ddedfryd. Gellir dedfrydu’r diffynnydd ar unwaith neu ar ôl adroddiadau cyn-dedfrydu.

  • Ceir canllawiau i Farnwyr wrth ddedfrydu diffynyddion a gafwyd yn euog o dreisio. Nid oes gan yr erlyniad unrhyw bŵer i ofyn am ddedfryd benodol. Fodd bynnag, byddwn yn sicrhau bod gan y llys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arno i ddedfrydu’n briodol, gan gynnwys drwy roi manylion Datganiad Personol y Dioddefwr (lle bo un) i helpu’r llys i ddeall effaith trosedd.

  • Mae gan y dioddefwr hawl i ddarllen ei Ddatganiad Personol Dioddefwr yn uchel yn y llys, gofyn i’r Barnwr ei ddarllen yn uchel neu ofyn i rywun arall – adfocad yr erlyniad er enghraifft – ei ddarllen ar ei ran. Mae gan y dioddefwr hefyd hawl i ofyn i’r Barnwr ddarllen y datganiad yn breifat.

  • Os bydd y dioddefwr yn dewis darllen y datganiad yn uchel yn y llys, gall yr erlyniad holi yn ei gylch, a’r amddiffyniad o bosibl.

Ar ôl dedfrydu ac apeliadau

  • Os ceir y diffynnydd yn euog, gallant, mewn rhai amgylchiadau, apelio yn erbyn y penderfyniad. Os bydd hyn yn digwydd, dylid rhoi gwybod i’r dioddefwr am unrhyw ddatblygiadau gan yr Uned Gofal Tystion, yr heddlu neu Gynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol.

  • Gall yr erlyniad apelio yn erbyn dedfryd y diffynnydd os yw’n credu, yn ôl canllawiau a bennwyd gan y Twrnai Cyffredinol, fod y ddedfryd yn rhy isel (’rhy drugarog’).3 Mae’r penderfyniad i ganiatáu apêl yn erbyn dedfryd y diffynnydd yn nwylo’r Twrnai Cyffredinol.

  • Os yw’r dioddefwr neu aelod arall o’r cyhoedd yn teimlo bod y ddedfryd yn rhy isel neu’n ‘rhy drugarog’, gallant hefyd ofyn i’r Twrnai Cyffredinol ei hystyried; rhaid gwneud cais o’r fath o fewn 28 diwrnod.

  • Ni all yr erlyniad apelio yn erbyn dedfryd ‘dieuog’.

5.4 ANHYSBYSRWYDD

Mae gan ddioddefwyr trais yr hawl i gael anhysbysrwydd gydol oes yn y cyfryngau. Mae hyn yn golygu, os byddant yn penderfynu gwneud adroddiad am drosedd, na ellir cyhoeddi unrhyw fanylion personol neu ffotograffau yn ystod eu hoes, hyd yn oed os rhoddir eu henw yn y llys. Os cyhoeddir manylion personol y gellir eu hadnabod – er enghraifft, yn y cyfryngau neu ar-lein – gellir ymchwilio i’r person sy’n ei gyhoeddi a’i erlyn. Mae hyn yn dal yn wir hyd yn oed os bydd dioddefwr yn tynnu ei gefnogaeth am erlyniad yn ôl, neu os ceir y diffynnydd yn ddieuog.

Gall dioddefwr ildio neu ganslo ei hawl i anhysbysrwydd heb ganiatâd y llys cyn belled â’i fod dros 16 oed. Ni all dioddefwyr dan 16 oed ildio’u hawl i anhysbysrwydd.

Nid oes gan ddiffynyddion mewn achosion o dreisio hawl gyfreithiol i anhysbysrwydd, ond mae rheolau yn erbyn rhoi gwybod am fanylion diffynnydd os ydynt dan 18 oed neu os gallai arwain at adnabod y dioddefwr.

5.5 CWESTIYNAU AM HANES RHYWIOL

Mae’r gyfraith yn atal yr amddiffyniad rhag defnyddio tystiolaeth hanes rhywiol yn annetholus er mwyn bwrw amheuaeth ar dystiolaeth achwynwyr mewn achosion o droseddau rhywiol, ac mae’n gosod cyfyngiadau penodol ar allu’r amddiffyniad i ofyn cwestiynau am y pwnc. Ni chaiff yr amddiffyniad holi dioddefwr am unrhyw brofiad rhywiol blaenorol y mae wedi’i gael gyda’r diffynnydd neu unrhyw un arall, heb ganiatâd y Barnwr.

Os yw’r amddiffyniad yn dymuno gofyn cwestiynau am hanes rhywiol dioddefwr, rhaid iddynt wneud cais ysgrifenedig i’r llys cyn y treial i roi rhesymau pam eu bod yn dweud bod yr ymddygiad yn berthnasol, a rhaid iddynt roi manylion penodol am y dystiolaeth neu’r cwestiynau maent am eu gofyn. Byddwn bob amser yn herio ceisiadau lle bo’n briodol o dan y gyfraith i wneud hynny. Y Barnwr sy’n gwneud y penderfyniad terfynol, a dim ond os bydd amodau cyfreithiol caeth yn cael eu bodloni y gall roi caniatâd.4

Mae’r gyfraith wedi’i chynllunio i amddiffyn dioddefwyr wrth sicrhau hefyd fod y diffynnydd yn cael treial teg. Cynhelir y gwrandawiad i benderfynu a ellir caniatáu’r dystiolaeth mewn treial yn breifat (ni all y dioddefwr fod yn bresennol), ond rhaid i’r Barnwr roi rhesymau dros ei benderfyniad mewn llys agored. Os rhoddir caniatâd gan y llys i ganiatáu tystiolaeth am hanes rhywiol, bydd y Barnwr yn nodi i ba raddau y gellir gofyn cwestiynau. Pan fydd y llys wedi caniatáu cais am amddiffyniad, byddwn yn rhoi gwybod i’r dioddefwr cyn gynted ag sy’n rhesymol bosibl.

5.6 TYSTIOLAETH CYMERIAD DRWG

Os ydym am ddefnyddio tystiolaeth bod gan y diffynnydd hanes o ymddygiad perthnasol (cymeriad drwg), a’i fod yn uniongyrchol gysylltiedig ac yn berthnasol i’r achos, mae angen i ni ofyn i’r llys am ganiatâd i wneud hyn.


Mae gan y dioddefwr hawl i gael gwybod am amser, dyddiad a lleoliad unrhyw wrandawiad a chanlyniad y gwrandawiadau hynny mewn da bryd, os bydd ei achos yn mynd i’r llys. Os gofynnir i ddioddefwyr roi tystiolaeth, mae ganddynt hawl i gael cynnig cymorth priodol cyn y treial a lle bo hynny’n bosibl, os yw’r llys yn caniatáu, i gwrdd â’r erlynydd cyn rhoi tystiolaeth.

Mae gan y dioddefwr hawl i gael gwybod am ganlyniad yr achos ac, os ceir y diffynnydd yn euog, i gael esboniad o’r ddedfryd. Os oes apêl yn erbyn yr euogfarn neu’r ddedfryd, mae gan y dioddefwr hawl i gael gwybod am yr apêl a’r canlyniad.

Os cafwyd y diffynnydd yn euog o dreisio a’i ddedfrydu i 12 mis neu fwy yn y carchar, mae gan y dioddefwr hawl i gael ei gyfeirio’n awtomatig at y Cynllun Cysylltu â Dioddefwyr ac i gael Swyddog Cyswllt Dioddefwyr. Byddant yn cael gwybodaeth am y troseddwr a’i gynnydd yn y carchar ac os/pan fyddant yn gymwys i gael parôl neu ei ryddhau. Efallai y gallant hefyd wneud Datganiad Personol Dioddefwr newydd, lle gallant ddweud sut mae’r trosedd yn parhau i effeithio arnynt. Gall y Swyddog Cyswllt Dioddefwyr roi mwy o wybodaeth am hyn.

Lle bo’n gymwys, mae gan y dioddefwr hawl i gael gwybod sut i hawlio iawndal am unrhyw golled, difrod neu anaf a achoswyd gan drosedd.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi darparu rhagor o wybodaeth am hawliau dioddefwyr o dan y ‘Cod Dioddefwyr’ sydd ar gael yma: gov.uk/government/publications/the-code-of-practice-for-victims-of-crime.


1 Canllawiau’r Twrnai Cyffredinol ar dderbyn pleon a gyhoeddwyd gan Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol ac sydd ar gael yma: gov.uk/guidance/the-acceptance-of-pleas-and-the-prosecutors-role-in-the-sentencing-exercise

2 Ar gyfer rheithgor llawn o 12 o bobl, bydd hyn yn golygu y bydd angen i o leiaf 10 ohonynt gytuno.

3 Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun dedfryd rhy drugarog ar gael ar ein gwefan yma: cps.gov.uk/legal-guidance/unduly-lenient-sentences.

4 I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys pryd y gellid caniatáu’r cwestiynau hyn, edrychwch ar yr adran berthnasol yn ein canllawiau cyfreithiol i erlynwyr, sydd ar gael ar ein gwefan yma: cps.gov.uk/legal-guidance/rape-and-sexual-offences-chapter-10-sexual-history-complainants-section-41-yjcea.

6.1 MESURAU ARBENNIG

Gall rhoi tystiolaeth yn y llys fod yn brofiad arbennig o drawmatig i ddioddefwyr o dreisio. Efallai y bydd rhai dioddefwyr yn ei chael yn anodd rhoi tystiolaeth yng ngolwg y diffynnydd. Gallwn wneud cais i’r llys am ffyrdd eraill i ddioddefwyr roi tystiolaeth, a elwir yn ‘fesurau arbennig’. Caiff y mesurau arbennig hyn eu hesbonio’n llawn, a cheisir dewisiadau’r dioddefwr – hawl y dioddefwr yw penderfynu a allai mesurau arbennig eu helpu i roi tystiolaeth. Mae canllawiau manwl ar fesurau arbennig ar gael ar ein gwefan yma: cps.gov.uk/legal-guidance/special-measures.

Dyma enghreifftiau o’r mesurau arbennig y gallwn wneud cais amdanynt:

  • Rhoi tystiolaeth drwy gyswllt teledu byw mewn ystafell y tu allan i ystafell y llys
  • Tystiolaeth wedi’i recordio ar fideo sy’n cael ei chwarae i’r llys
  • Sgriniau o amgylch y blwch tystion i atal y dioddefwr neu’r tystion rhag gweld a chael eu gweld gan y diffynnydd
  • Barnwyr a chyfreithwyr yn tynnu wigiau a gynau fel bod y llys yn teimlo’n llai ffurfiol (ar gyfer pobl ifanc fel arfer)
  • Clirio’r oriel gyhoeddus fel na chaniateir i aelodau o’r cyhoedd fynd i ystafell y llys yn ystod tystiolaeth y dioddefwr
  • Defnyddio cymhorthion cyfathrebu. Yn dibynnu ar amgylchiadau ac anghenion y dioddefwr, gallai hyn gynnwys, er enghraifft, unrhyw beth o gyfrifiaduron, syntheseiddwyr llais neu fyrddau symbolau i deganau, llyfrau neu fwrdd yr wyddor
  • Defnyddio cyfryngwr a gymeradwyir gan y llys i ddarparu gwasanaeth sy’n galluogi dioddefwyr / tystion a’r llys i gyfathrebu’n glir â’i gilydd

Mesur arbennig arall sydd ar gael yn Llysoedd y Goron i blant dan 18 oed, neu i rai oedolion ag anabledd meddyliol neu gorfforol, yw bod y croesholi wedi’i recordio cyn y treial. Mae hyn yn golygu bod cyfweliad y dioddefwr a recordiwyd ar fideo gan yr heddlu a recordiad o’r croesholi yn cael eu chwarae i’r llys. Ni fyddai angen i’r dioddefwr fynychu’r treial ei hun. Gelwir y mesur arbennig hwn yn aml yn ‘adran 28’.1

Mae adran 28 hefyd ar gael mewn rhai rhanbarthau i ddioddefwyr trais rhywiol lle mae’r llys yn fodlon bod ansawdd eu tystiolaeth yn debygol o gael ei leihau oherwydd ofn neu drallod, pe baent yn gwneud hynny mewn amser real. Ar hyn o bryd mae ar gael yn Llys y Goron yn y llysoedd canlynol: Kingston upon Thames, Leeds, Lerpwl, Wood Green, Harrow, Isleworth a Durham. Efallai y byddir yn ymestyn y peilot ymhellach, ac mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan yma: cps.gov.uk/support-give-your-evidence-special-measures.

Rydym yn gyfrifol am wneud cais i’r llys am unrhyw fesurau arbennig ar ran dioddefwr yn dilyn trafodaeth gyda’r heddlu. Mewn achosion o dreisio, ceir ‘rhagdybiaeth awtomatig’ y gall dioddefwyr troseddau rhywiol ofyn am unrhyw rai o’r mesurau arbennig sy’n berthnasol ac a fydd yn eu helpu i roi eu tystiolaeth orau; ond mater i’r llys yw penderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais hwn. Byddwn yn gofyn i’r dioddefwr a fyddai’n hoffi cyfarfod â ni i drafod unrhyw gais am fesurau arbennig.

Mewn rhai achosion, efallai y bydd dioddefwr yn dweud ar y dechrau nad yw eisiau mesurau arbennig ond yn newid ei feddwl yn ddiweddarach. Mae hyn yn ddealladwy ac yn gwbl normal. Dylai dioddefwr sy’n newid ei feddwl ar fesurau arbennig roi gwybod i’r swyddog yn yr achos neu ei weithiwr cefnogi cyn gynted ag y bo modd, fel y gellir trosglwyddo’r wybodaeth hon i ni i wneud y ceisiadau angenrheidiol i’r llys.

6.2 CYFIEITHWYR AR Y PRYD

Os nad yw rhywun sy’n ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol – naill ai fel dioddefwr neu fel tyst i ddiffynnydd – yn siarad Saesneg, darperir cyfieithydd ar y pryd. Gallant hefyd ofyn am gyfieithydd ar y pryd os ydynt yn siarad rhywfaint o Saesneg ond ddim yn ddigon i ddeall y gyfraith neu achosion cyfreithiol yn llawn. Gellir darparu dehonglydd iaith arwyddion hefyd. Ein cyfrifoldeb ni yw trefnu cyfieithwyr ar y pryd ar gyfer tystion dros yr erlyniad yn y llys; yn yr un modd, mater i’r llys yw gwneud trefniadau o’r fath ar gyfer eu tystion.

Os oes gan rywun bryderon am y cyfieithydd a ddefnyddiwyd, gallant wneud cwyn ffurfiol i’r Gofrestr Genedlaethol o Gyfieithwyr Gwasanaeth Cyhoeddus. Gellir cwyno am eu gallu i gyfieithu neu am ymddygiad amhroffesiynol neu amhriodol. Dylai dioddefwr hefyd roi gwybod i swyddog heddlu'r achos, neu i’n herlynydd, os oes ganddynt bryderon am y cyfieithydd ar y pryd.

6.3 ADFOCAD YR ERLYNIAD

Gelwir y cyfreithiwr sy’n erlyn yr achos yn adfocad yr erlyniad. Mae ganddynt gymwysterau cyfreithiol ac maent wedi cael hyfforddiant pwrpasol i ddatblygu eu sgiliau arbenigol i ddelio gydag achosion trais rhywiol. Byddant yn cwrdd â’r dioddefwr yn y llys ac yn gallu rhoi’r canlynol iddo:

  • Gwybodaeth am y broses holi yn y llys a pha fesurau arbennig sydd ar waith
  • Gwybodaeth am y croesholi gan yr amddiffyniad
  • Gwybodaeth am yr achos, gan gynnwys yr amddiffyniad
  • Gwybodaeth am y prosesau cyfreithiol

Fodd bynnag, ni allant ddweud unrhyw beth y gellid ei ystyried yn ‘hyfforddi’’r dioddefwr – hynny yw, dylanwadu ar yr hyn y gallent ei ddweud am y ffeithiau yn y llys.

6.4 TREULIAU A LWFANSAU TYSTION

Rydym yn gyfrifol am dalu lwfansau a threuliau i ddioddefwyr a thystion sy’n cael eu galw i ddod i’r llys yn ein herlyniadau, hyd yn oed os nad oedd yn rhaid iddynt roi tystiolaeth. Ein nod yw talu pob hawliad am dreuliau tystion a gwblheir yn gywir, o fewn 10 diwrnod gwaith i’w derbyn.

Gall dioddefwyr a thystion hefyd dderbyn ad-daliad tuag at gostau teithio; arian a wariwyd ar luniaeth a phrydau; cynhaliaeth dros nos; colli enillion a chostau gofal plant. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau ar hyn. I gael rhagor o wybodaeth am ein polisi treuliau a lwfansau i dystion, ewch i’n gwefan yma: cps.gov.uk/legal-guidance/witness-expenses-and-allowances.


Y Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Troseddau (y Cod Dioddefwyr) yw’r cod statudol sy’n nodi lefel sylfaenol y gwasanaeth y dylai dioddefwyr ei gael gan y system gyfiawnder troseddol. Fe’i cyhoeddir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac mae ar gael yma: gov.uk/government/publications/the-code-of-practice-for-victims-of-crime.

Efallai y bydd rhoi tystiolaeth yn y llys yn teimlo’n frawychus, yn enwedig gan y bydd yn brofiad cwbl anghyfarwydd i lawer o bobl. Er mwyn helpu i baratoi dioddefwyr a thystion ar gyfer rhoi tystiolaeth, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cynhyrchu taflen ‘cyngor i dystion’ sydd ar gael yma: cps.gov.uk/sites/default/files/documents/publications/CPS-advice-for-witnesses-leaflet.pdf

Mae’r Gwasanaeth Tystion yn darparu cymorth annibynnol am ddim i dystion yr erlyniad a thystion yr amddiffyniad ym mhob llys troseddol yng Nghymru a Lloegr. I gael rhagor o wybodaeth am eu gwaith, ewch i: citizensadvice.org.uk/witness/

Mae Unedau Gofal i Dystion yn cael eu rhedeg gan yr heddlu ac maent yn cefnogi unrhyw un sy’n rhoi tystiolaeth dros yr erlyniad mewn achos troseddol. Maent yn gysylltiedig o’r adeg y mae diffynnydd wedi pledio’n ‘ddieuog’ hyd at ddiwedd achos troseddol.


1 Adran 28 Deddf Cyfiawnder Ieuenctid a Thystiolaeth Droseddol 1999.

Mae'r adran hon yn cynnwys dadansoddiad manwl o sut mae trais rhywiol yn cael ei ddiffinio yn y gyfraith. Efallai y bydd hyn yn sbarduno rhai pobl. Rhestrir gwasanaethau cymorth yn yr adran ‘Ble i gael help’.


Yn ôl y gyfraith, ers 1 Mai 2004, diffinnir treisio fel ‘treiddio fagina, anws neu geg person arall gyda phidyn, heb eu caniatâd a heb gred resymol mewn caniatâd’.1

Mae treiddio fagina neu anws rhywun arall gydag unrhyw ran o’r corff ar wahân i’r pidyn, neu gydag unrhyw wrthrych, heb eu caniatâd a heb gred resymol mewn cydsyniad, yn ‘ymosodiad rhywiol drwy dreiddio’. Mae cyffyrddiad rhywiol bwriadol arall sydd heb gydsyniad a heb gred resymol mewn cydsyniad yn ‘ymosodiad rhywiol’.

Ni all plant dan 13 oed roi cydsyniad cyfreithiol. Mae treiddio fagina, anws neu geg person o dan 13 oed â phidyn yn achos o dreisio plentyn. Hefyd, ni all plant dros 13 oed a dan 16 oed roi caniatâd cyfreithiol ac mae treiddio’r fagina neu’r anws gydag unrhyw ran o’r corff a threiddiad o’r geg gyda phidyn yn cael ei ddiffinio fel gweithgarwch rhywiol gyda phlentyn. Hefyd, rhaid i’r erlyniad brofi nad oedd y diffynnydd yn credu’n rhesymol fod y dioddefwr yn 16 oed neu’n hŷn.

Ceir rhagor o wybodaeth am ddeddfwriaeth allweddol a throseddau sy’n ymwneud â threisio a throseddau rhywiol ar ein gwefan yma: cps.gov.uk/legal-guidance/rape-and-sexual-offences-chapter-7-key-legislation-and-offences.

7.1 BETH YW CYDSYNIAD?

Bydd unigolyn yn cydsynio i weithgaredd rhywiol dim ond os yw’n cytuno drwy ddewis a:

  • Gyda’r rhyddid i wneud y dewis hwnnw – mae hyn yn golygu eu bod mewn sefyllfa i wneud y dewis hwnnw’n rhydd ac nad oeddent dan bwysau nac yn cael eu gorfodi.
  • Gyda’r gallu i wneud dewis ynghylch cymryd rhan yn y gweithgarwch rhywiol ar yr adeg dan sylw, er enghraifft, gan feddwl am eu hoedran neu eu dealltwriaeth o sefyllfa.

Mae pob achlysur yn benodol, ac mae angen rhoi caniatâd ar gyfer pob gweithred rywiol. Gellir rhoi cydsyniad dan rai amodau (er enghraifft gyda’r amod bod condom yn cael ei wisgo) neu ei dynnu’n ôl yn llwyr yn ystod gweithred a ddechreuodd fel un gydsyniol.

Mae hyn yn golygu nad yw cydsynio i un math o weithgarwch rhywiol yn golygu cydsynio i fathau eraill neu i bob math o weithgarwch rhywiol. Mae hyn hefyd yn golygu na ellir awgrymu cydsyniad ar gyfer rhyw yn y dyfodol, dim ond oherwydd bod pobl wedi cael rhyw cydsyniol yn y gorffennol. Yn ogystal, ni ellir tybio cydsyniad yn ôl nifer y bobl mae rhywun wedi cysgu gyda nhw cyn, neu ar ôl, y gweithgarwch rhywiol penodol dan sylw.2

Ni ellir tybio cydsyniad i weithgarwch rhywiol drwy:

  • Y ffordd mae pobl yn cwrdd – er enghraifft drwy ap detio / cyfarfod neu ar noson allan.
  • Beth maen nhw’n ei wisgo.
  • Ymddygiad fflyrtiog, boed hynny wyneb yn wyneb neu drwy negeseuon testun neu drwy anfon delweddau rhywiol.
  • Cytuno i fynd yn ôl i dŷ rhywun.

Gallai sefyllfaoedd lle nad oes gan rywun y rhyddid i wneud dewis ynghylch gweithgarwch rhywiol gynnwys:

  • Os defnyddiwyd trais neu fygwth yn union cyn neu yn ystod y weithred.
  • Lle bo’r person arall mewn sefyllfa o rym ac yn gallu camddefnyddio’r ymddiriedaeth a roddir ynddynt, er enghraifft, athro, cyflogwr, aelod o gang, aelod o’r teulu neu arweinydd crefyddol.
  • Os ydyn nhw’n agored i niwed ac wedi cael eu hudo a’u hecsbloetio, er enghraifft fel y gwelir mewn achosion o gamfanteisio’n rhywiol ar blant.

Gallai sefyllfaoedd lle nad oes gan rywun y gallu i wneud dewis ynghylch gweithgarwch rhywiol gynnwys:

  • Lle’r oedd y person yn feddw iawn neu’n drwm dan ddylanwad cyffuriau.
  • Lle’r oedd y person yn dioddef o anabledd neu gyflwr meddygol a oedd yn cyfyngu ar ei allu i gydsynio neu i gyfathrebu cydsyniad.
  • Lle’r oedd y person yn cysgu neu’n anymwybodol.

Yn ôl y gyfraith, rhaid i ni hefyd brofi nad oedd gan y diffynnydd ‘gred resymol’ bod y dioddefwr yn cydsynio i’r gweithgaredd rhywiol. I ddelio â’r mater hwn, bydd erlynydd yn gofyn dau gwestiwn:

  • Yn gyntaf, a oedd y diffynnydd yn credu bod y dioddefwr wedi cydsynio?
  • Yn ail, os gwnaethon nhw, a oedd y gred hon yn rhesymol?

Pan aiff achos i’r llys, rhaid i ni brofi nad oedd y gred yn rhesymol dan yr amgylchiadau, gan gynnwys ystyried unrhyw gamau a gymerwyd gan y diffynnydd i sicrhau bod y person arall yn cydsynio ar y pryd.

Mewn rhai sefyllfaoedd, mae tybiaeth gyfreithiol nad oedd person wedi cydsynio i weithgarwch rhywiol ac nad oedd y diffynnydd yn ‘credu’n rhesymol’ eu bod wedi cydsynio, oni bai fod y diffynnydd yn gallu dangos fel arall. Mae enghreifftiau o sefyllfaoedd lle mae hyn yn berthnasol yn cynnwys lle’r oedd y person yn anymwybodol, wedi cael eu drygio, wedi’u herwgydio neu wedi wynebu bygythiadau o drais.

Un o rannau anoddaf erlyniad am dreisio yn aml yw profi nad oedd gan y diffynnydd gred resymol mewn cydsyniad. Mae hyn yn gofyn i ni brofi beth oedd y diffynnydd yn ei feddwl ar adeg y digwyddiad ac a oedd y gred a ffurfiwyd yn rhesymol.

Mae ein herlynwyr wedi’u hyfforddi i edrych yn fanwl ar weithredoedd yr un a amheuir cyn, yn ystod ac ar ôl yr ymosodiad honedig. Drwy edrych yn ofalus ar weithredoedd diffynnydd, gallwn ddeall amgylchiadau a chyd-destun y gweithgarwch yn llawn. Byddwn yn gweithio gydag ymchwilwyr i adeiladu achosion a byddwn yn cyhuddo achosion sy’n pasio’r prawf o fewn y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron.

7.2 ACHOSION O DREISIO CYN 1 MAI 2004

Gall dioddefwyr ddewis pryd i roi gwybod am eu profiadau. I rai, gall gymryd nifer o flynyddoedd. Ni waeth pryd y digwyddodd, nid oes terfyn amser ar gyfer ymchwilio ac erlyn achosion o dreisio, sy’n golygu y gall dioddefwyr roi gwybod i’r heddlu ar unrhyw adeg. Efallai y bydd heriau o ran casglu tystiolaeth, ac efallai y bydd dioddefwyr am ofyn am gymorth gan Gynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol neu wasanaeth arall yn ystod y broses hon, ond rydym wedi erlyn a sicrhau euogfarnau am dreisio a throseddau rhywiol a ddigwyddodd ddegawdau cyn iddynt gael eu hadrodd.

Deddf Troseddau Rhywiol 1956 yw’r prif ddarn o ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â throseddau rhywiol a ddigwyddodd cyn 1 Mai 2004. Datblygodd y gyfraith ar dreisio’n sylweddol rhwng 1956 a 2004 a bydd penderfynu ar y trosedd y gellir ei gyhuddo yn dibynnu ar amgylchiadau a dyddiad y digwyddiad(au). Er enghraifft, nid oedd y diffiniad o dreisio dan Ddeddf 1956 yn cynnwys treiddio drwy’r geg ac felly mae’r honiadau hyn yn debygol o gael eu cyhuddo fel ‘ymosodiad anweddus’.

Nid oedd Deddf 1956 yn cynnwys y gofyniad bod cred y diffynnydd mewn cydsyniad yn rhesymol. Felly, os digwyddodd y trosedd cyn 1 Mai 2004, mae’n amddiffyniad os oedd y diffynnydd yn credu bod y person yn cydsynio, hyd yn oed os oedd y gred hon yn afresymol. Mae hyn yn fater o ffaith i’r rheithgor benderfynu arno. Er bod hyn yn amddiffyniad, bydd rheithgor yn cael ei gyfarwyddo, po fwyaf afresymol yw’r gred, y mwyaf tebygol ydyw nad oedd yn ddilys. Gallwn geisio adeiladu’r achos drwy edrych ar weithredoedd y diffynnydd cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad i geisio profi nad oedd y diffynnydd yn credu bod y person yn cydsynio.


I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn cymhwyso Deddf Troseddau Rhywiol 2003, gweler Pennod 6 o’n canllawiau cyfreithiol ar gyfer erlynwyr ar drais a throseddau rhywiol sydd ar gael ar ein gwefan yma: cps.gov.uk/legal-guidance/rape-and-sexual-offences-chapter-6-consent.

I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn ymdrin ag achosion nad ydynt yn rhai diweddar, edrychwch ar yr adran ‘Deddf Troseddau Rhywiol 1956’ ym Mhennod 7 o’n canllawiau cyfreithiol i erlynwyr ar drais a throseddau rhywiol sydd ar gael ar ein gwefan yma: cps.gov.uk/legal-guidance/rape-and-sexual-offences-chapter-7-key-legislation-and-offences#a34.


1 Deddf Troseddau Rhywiol 2003.

2 I gael rhagor o wybodaeth am y fframwaith gyfreithiol yng nghyswllt hanes rhywiol achwynwyr, gweler y canllawiau cyfreithiol i erlynwyr sydd ar gael ar ein gwefan yma: cps.gov.uk/legal-guidance/rape-and-sexual-offences-chapter-10-sexual-history-complainants-section-41-yjcea.

Yn aml, rhaid i ni wneud penderfyniadau cytbwys iawn mewn achosion o dreisio, ac maent yn cael eu rheoli’n briodol gan erlynwyr sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig sy’n gweithio yn ein Hunedau Treisio a Throseddau Rhywiol Difrifol.

8.1 GEIRIAU UN PERSON YN ERBYN PERSON ARALL

Efallai mai ychydig iawn o dystiolaeth ategol sydd gan lawer o achosion o dreisio (hynny yw, unrhyw dystiolaeth arall i gefnogi cwyn y dioddefwr), yn enwedig gan fod llawer o achosion o dreisio’n cael eu cyflawni lle nad oes neb yn bresennol ar wahân i’r dioddefwr a’r troseddwr. Yn aml, mae achosion yr erlyniad a’r amddiffyniad yn yr amgylchiadau hyn yn seiliedig ar air un person yn erbyn un arall.

Gall gair un person yn erbyn rhywun arall fod yn ddigon i erlyn a sicrhau euogfarn mewn achos, ac mae hyn yn digwydd yn aml – nid oes angen ategu atynt. Mae ein herlynwyr yn ceisio adeiladu achosion yn seiliedig ar weithredoedd ac ymddygiad yr un a amheuir, a dylent ddiystyru ffactorau sy’n amherthnasol neu’n seiliedig ar fythau neu stereoteipiau.

Gellir bodloni cam tystiolaethol y prawf yn y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron mewn achosion o air un person yn erbyn un arall, gan ddibynnu ar ffeithiau ac amgylchiadau’r achos.

8.2 EFFAITH TRAWMA

Yn y CPS, rydym yn deall bod y profiad trawmatig o dreisio yn gallu effeithio ar y ffordd mae dioddefwr yn ymddwyn ac y gallai’r ymddygiad hwnnw ymddangos yn annisgwyl. Mae effaith trawma ar yr ymennydd yn golygu y gallai dioddefwr, er enghraifft, rewi yn hytrach na gweithredu.

Nid yw bod yn ymostyngol neu’n oddefol pan fydd troseddwr yn cyflawni gweithredoedd rhywiol treisgar yr un fath â chydsyniad. Rydym hefyd yn cydnabod y gall trawma effeithio ar y ffordd y mae dioddefwr yn cofio manylion yr ymosodiad ac y gall atgofion newid dros amser. Gall effaith hyn, ynghyd â theimladau o gywilydd, euogrwydd, anghrediniaeth a diymadferthedd, ei gwneud yn anodd i ddioddefwr siarad am yr ymosodiad.

Mae ein herlynwyr yn cael hyfforddiant a chyngor i ddeall y materion hyn, a hefyd sut y gall troseddwyr gamfanteisio ar wendidau er mwyn osgoi cael eu canfod. Mae’r arbenigedd hwn yn ein helpu i adeiladu a chyflwyno achosion.

8.3 DOES DIM ACHOS NODWEDDIADOL O DREISIO, DIM TREISIWR NODWEDDIADOL, DIM DIODDEFWR NODWEDDIADOL A DIM YMATEB NODWEDDIADOL I ACHOSION O DREISIO

Gall treisio ddigwydd i unrhyw un. Mae pobl sy’n cael eu treisio yn ymateb mewn ffyrdd gwahanol.

Nid yw penderfyniad gan y CPS i beidio â chyhuddo, i atal achos neu newid cyhuddiad – neu os bydd rheithgor yn penderfynu bod rhywun yn ddieuog – yn golygu bod y dioddefwr yn dweud celwydd am gael ei dreisio. Mae’r canlyniadau hyn yn golygu na chafodd profion yn ein Cod neu safon y prawf sy’n ofynnol gan y llys eu bodloni.

Bydd ein herlynwyr sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig yn herio unrhyw gamsyniadau am dreisio er mwyn gwneud penderfyniadau teg a diduedd fesul achos. Rydym wedi darparu arweiniad a chefnogaeth gynhwysfawr i’n herlynwyr i fynd i’r afael â’r mythau a’r stereoteipiau sy’n gysylltiedig â threisio. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau cyfreithiol i erlynwyr sydd ar gael ar ein gwefan yma: cps.gov.uk/legal-guidance/rape-and-sexual-offences-chapter-4-tackling-rape-myths-and-stereotypes.

Byddwn hefyd yn edrych ar weithredoedd ac ymddygiad un a amheuir i ystyried a oedd, er enghraifft, unrhyw elfen o gynllunio, neu dargedu neu ecsbloetio’r dioddefwr ar adeg pan oedd yn agored i niwed.

8.4 MATERION SY’N BERTHNASOL I GRWPIAU PENODOL O BOBL

Rydym yn dod â throseddwyr treisio o flaen eu gwell lle bynnag y bo modd. Mae’r rhan fwyaf o achosion dreisio, er nad pob un, yn cael ei gyflawni gan ddynion yn erbyn menywod. Rydym felly’n adnabod treisio a cham-drin rhywiol fel math o ‘drais yn erbyn menywod a merched’, ynghyd â throseddau eraill sy’n ymwneud â cham-drin domestig, cam-drin ar sail anrhydedd, priodas dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu menywod. Rydym yn cydnabod bod dynion, bechgyn, pobl drawsryweddol ac anneuaidd hefyd yn cael eu treisio. Mae pob dioddefwr yn cael yr un mynediad at amddiffyniad a chefnogaeth gennym ni. Nid yw rhyw’r dioddefwr neu’r un a amheuir yn gwneud unrhyw wahaniaeth i’n dull gweithredu.

Fel rhan o’u harbenigedd, mae ein herlynwyr yn cael arweiniad a chymorth i ddeall effaith cam-drin rhywiol ar bobl o amrywiaeth o gymunedau a grwpiau. Mae ein canllawiau cyfreithiol yn rhoi rhagor o wybodaeth am faterion sy’n berthnasol i grwpiau penodol.

Er nad yw’n rhestr gynhwysfawr, mae ein canllawiau’n nodi’r materion canlynol sy’n berthnasol i ddioddefwyr a rhai sy’n cael eu hamau: treisio gan bartner; materion sy’n berthnasol i gymunedau ethnig lleiafrifol; pobl ifanc yn eu harddegau mewn perthnasoedd camdriniol â chyfoedion; dioddefwyr cam-drin plant yn rhywiol a chamfanteisio’n rhywiol ar blant; mewnfudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches; unigolion ag anableddau; trais rhywiol unigolion o’r un rhyw; dioddefwyr o drais rhywiol o'r gymuned LGBT+, traws ac anneuaidd; dioddefwyr hŷn ac unigolion sy’n ymwneud â phuteindra.


I gael gwybodaeth fanwl am waith ein herlynwyr, rydym wedi cyhoeddi ein canllawiau cyfreithiol ar drais a throseddau rhywiol difrifol i gefnogi eu gwaith. Mae hyn yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y pynciau sy’n cael sylw yn yr adran hon ac mae ar gael ar ein gwefan yma: cps.gov.uk/legal-guidance/rape-and-sexual-offences-overview-and-index-2021-updated-guidance.

Apêl: Cais i lys uwch newid penderfyniad a wneir gan lys is.

Mechnïaeth: Rhyddhau person sy’n cael ei gadw yn y ddalfa wrth aros am dreial neu’n apelio yn erbyn euogfarn droseddol.

Cyhuddiad: Pan gaiff un a amheuir ei gyhuddo’n ffurfiol o gyflawni trosedd.

Cod Erlynwyr y Goron: Mae’r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron yn ddogfen gyhoeddus, a gyhoeddir gan Gyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, sy’n nodi’r egwyddorion cyffredinol y dylai Erlynwyr y Goron eu dilyn wrth wneud penderfyniadau. Mae hwn ar gael ar wefan Gwasanaeth Erlyn y Goron yma: cps.gov.uk/publication/code-crown-prosecutors.

Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Troseddau (a elwir hefyd yn God Dioddefwyr): Mae’r Cod Dioddefwyr yn canolbwyntio ar hawliau dioddefwyr ac yn nodi’r safon sylfaenol y mae’n rhaid i sefydliadau ei darparu i ddioddefwyr troseddau. Mae ar gael hefyd ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yma: gov.uk/government/publications/the-code-of-practice-for-victims-of-crime.

Euogfarn: Penderfyniad gan ynadon neu reithgor fod y diffynnydd yn euog.

Croesholi: Gofyn cwestiynau manwl i dyst yn y llys i brofi hygrededd a manylder eu tystiolaeth.

Llys y Goron: Llys lle ymdrinnir ag achosion troseddol gan Farnwr a rheithgor o ddeuddeg aelod o’r cyhoedd. Yr achosion a glywir yn Llys y Goron yw’r rhai sy’n debygol o ddenu dedfrydau uwch (er enghraifft, treisio, niwed corfforol difrifol a llofruddiaeth). Mae Llys y Goron hefyd yn delio gydag apeliadau am achosion yr ymdrinnir â nhw gan y llysoedd ynadon a’r llysoedd ieuenctid.

Diffynnydd: Unigolyn sydd wedi'i gyhuddo o gyflawni trosedd ac sydd wedi'i gyhuddo o drosedd.

Cyfryngwr: Mae cyfryngwr yn berson sydd wedi’i hyfforddi’n benodol i helpu plant ac oedolion yr ystyrir eu bod yn agored i niwed, i allu cyfathrebu yng ngorsaf yr heddlu ac yn y llys.

Ditiad: Y ddogfen sy’n rhestru’r cyhuddiadau yn erbyn diffynnydd am dreial yn Llys y Goron.

Llys Ynadon: Llys lle ymdrinnir ag achosion troseddol gan farnwyr rhanbarth neu ynadon. Mae llysoedd ynadon yn tueddu i ddelio ag achosion llai difrifol sy’n denu dedfryd is; dyma hefyd lle cynhelir gwrandawiad cyntaf achos o dreisio cyn symud i Lys y Goron.

Gwrandawiad Newton: Efallai y bydd y llys yn penderfynu cynnal ‘gwrandawiad Newton’, lle mae’r diffynnydd yn pledio’n euog, ond bod yr amddiffyniad a’r erlyniad yn anghytuno â ffeithiau y mae’r llys yn mynd i seilio ei ddedfryd arnynt. Pwrpas y gwrandawiad yw sefydlu’r sail ffeithiol ar gyfer y ddedfryd i’w rhoi.

Trosedd: Trosedd neu weithred anghyfreithlon.

Troseddwr: Rhywun sydd wedi cyflawni trosedd, sydd wedi cyfaddef, neu wedi’i gael yn euog.

Ple: Pan fydd diffynnydd yn dweud ei fod yn euog neu’n ddieuog.

Erlynydd: Yr un sy’n cyflwyno’r achos yn erbyn un neu fwy o ddiffynyddion. Mae erlynwyr yn cyflwyno achosion ar ran y Goron (mewn geiriau eraill, y wladwriaeth).

Ail-holi: Mae hyn yn golygu holi tyst yn y llys gan yr un a’i galwodd ef neu hi yn wreiddiol i roi tystiolaeth. Mae’n dilyn croesholi.

Dedfryd: Cosb a roddir i’r diffynnydd gan Farnwr mewn llys.

Mesurau arbennig: Mae mesurau arbennig yn fesurau y gellir eu rhoi ar waith i helpu dioddefwyr troseddau difrifol, a dioddefwyr a thystion sy’n agored i niwed ac yn cael eu bygwth, i roi eu tystiolaeth orau bosibl yn y llys.

Un a amheuir: Rhywun y mae’r CPS yn ystyried cyhuddo.

Treial: Mae hyn yn digwydd ar ôl i ddiffynnydd bledio’n ddieuog neu’n gwrthod pledio. Mae’r ynadon neu’r rheithgor yn clywed yr hyn a ddigwyddodd gan yr erlyniad a’r amddiffyniad, fel y gallant benderfynu a yw’r diffynnydd yn euog ai peidio.

Dioddefwr (neu Oroeswr): Rhywun y cyflawnwyd trosedd yn ei erbyn. Cyfeirir at y dioddefwr fel ‘yr achwynydd’ neu’r ‘tyst’ pan fydd yn ymwneud ag achos.

Unedau Cyswllt Dioddefwyr: Unedau Cyswllt Dioddefwyr, neu VLU, sy’n gyfrifol am roi gwybod i ddioddefwyr am benderfyniadau i atal achos neu newid cyhuddiadau’n sylweddol. Maent yn bwynt cyswllt penodol i ddioddefwyr sydd eisiau rhagor o wybodaeth am ein penderfyniadau. Gall y VLU hefyd gynghori dioddefwyr ynghylch sut y gallant geisio adolygiad.

Tyst: Rhywun sy’n gallu rhoi tystiolaeth berthnasol mewn achos troseddol. Bydd hyn fel arfer yn cynnwys dioddefwr trosedd.

Uned Gofal i Dystion: Mae Unedau Gofal i Dystion yn cael eu rhedeg gan yr heddlu ac maent yn cefnogi unrhyw un sy’n rhoi tystiolaeth dros yr erlyniad mewn achos troseddol.

Gwasanaeth Tystion: Os bydd achos yn mynd i’r llys, bydd yr heddlu’n rhoi manylion y dioddefwr i’r Gwasanaeth Tystion. Mae’r gwasanaeth yn cael ei redeg gan Gyngor ar Bopeth ac maent wedi’u lleoli yn y llys i helpu dioddefwyr drwy roi gwybodaeth a chefnogaeth iddynt drwy gydol y treial.

Os ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, wedi dioddef camdriniaeth rywiol ar unrhyw adeg ac yn dymuno gofyn am gymorth, mae gwasanaethau ar gael sy’n cynnig cymorth cyfrinachol, annibynnol ac am ddim.  Does dim rhaid i chi roi gwybod i’r heddlu er mwyn cael cymorth.

Gweler y dudalen ganlynol am wybodaeth: gov.uk/government/publications/coronavirus-covid-19-support-for-victims-of-sexual-violence-and-abuse/coronavirus-covid-19-support-for-victims-of-sexual-violence-and-abuse#where-to-get-help   

Os ydych chi wedi dioddef achos o dreisio neu ymosodiad rhywiol neu'n adnabod rhywun sydd wedi bod yn ddioddefwr ac am roi gwybod amdano, mae gwahanol ffyrdd y gallwch gysylltu â'r heddlu.  

  • Os ydych chi mewn perygl uniongyrchol, neu os ydych chi’n gweld rhywun mewn perygl uniongyrchol, dylech chi ffonio 999.
  • Os ydych chi'n fyddar neu'n drwm eich clyw, gallwch ddefnyddio gwasanaeth ffôn testun yr heddlu 18000. Mae’r galwadau hyn am ddim, felly does dim ots a oes gennych chi gredyd ar eich ffôn ai peidio.
  • Os ydych chi mewn perygl ond nad ydych chi’n gallu siarad ar y ffôn, gallwch barhau i wneud galwad ‘ddistaw 999’ a dilyn y cyfarwyddiadau, a fydd yn dibynnu ar ddefnyddio ffôn symudol neu linell dir. 
  • Gallwch hefyd ffonio 101 ar gyfer ymholiadau nad ydynt yn rhai brys. Os ydych chi'n fyddar neu'n drwm eich clyw, gallwch ddefnyddio gwasanaeth ffôn testun yr heddlu 18001 101. Codir tâl am alwadau i’r ddau rif.  
  • Os ydych chi’n meddwl bod rhywun rydych chi’n ei adnabod – fel cymydog neu aelod o’r teulu – wedi dioddef cam-drin rhywiol, gallwch roi gwybod i’r heddlu am hynny.

Gall dioddefwyr gael eu cefnogi gan Gynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol (a elwir hefyd yn ISVA), sy’n darparu cymorth, cyngor a help proffesiynol i ddioddefwyr trais rhywiol – p’un ai a ydynt yn rhoi gwybod i’r heddlu ai peidio. Mae rhai gwasanaethau ISVA yn darparu cefnogaeth wedi’i theilwra i blant yn ogystal â chymunedau lleiafrifol. Rydym yn cydnabod cyfraniad aruthrol ISVA, a byddwn yn gweithio ochr yn ochr â nhw i gefnogi dioddefwyr sy’n mynd drwy’r broses erlyn. 

Dan y Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Troseddau, a elwir hefyd yn God Dioddefwyr, mae dioddefwyr troseddau rhywiol gan gynnwys treisio yn gymwys i gael ‘hawliau estynedig’ oherwydd difrifoldeb y trosedd. Mae gan ddioddefwyr treisio yr hawl i: 

  • Gael gwybodaeth mewn ffordd hawdd ei deall a chael cymorth i’w deall gan gynnwys, lle bo angen, fynediad at wasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd. 
  • Cofnodi manylion y trosedd gan yr heddlu cyn gynted â phosib ar ôl y digwyddiad.  
  • Cefnogaeth i helpu dioddefwyr drwy’r broses os gofynnir iddynt ddarparu datganiad tyst neu gael eu cyfweld. Mae ganddynt yr hawl i’r swyddog sy’n cymryd eu cyfweliad fod o ryw o’u dewis. 
  • Cael cadarnhad ysgrifenedig wrth roi gwybod am drosedd.  
  • Cael gwybodaeth am y broses cyfiawnder troseddol a chael gwybod am raglenni neu wasanaethau i ddioddefwyr. 
  • Cael eu cyfeirio at wasanaethau cefnogi arbenigol a chael gwybod am y gefnogaeth ychwanegol sydd ar gael yn y llys, er enghraifft mesurau arbennig. 

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cyhoeddi rhagor o wybodaeth am hawliau dioddefwyr o dan y ‘Cod Dioddefwyr’ sydd ar gael yma: gov.uk/government/publications/the-code-of-practice-for-victims-of-crime.

 

 

Scroll to top