Ein hymrwymiad i ddioddefwyr trais rhywiol
Helpwch ni i wella sut rydym yn egluro ein gwaith ar achosion o drais ac ymosodiadau rhywiol difrifol – ymgynghoriad cyhoeddus
Rhowch adborth i niOs ydych chi wedi bod yn dioddefwr trais rhywiol a bod yr achos yn cael ei ystyried ar gyfer erlyniad, mae'n debygol y bydd gennych gwestiynau ynghylch beth i'w ddisgwyl. Mae rhoi gwybod am achos o dreisio neu gam-drin rhywiol yn gofyn am ddewrder aruthrol. Rydym yn sylweddoli y bydd hwn yn gyfnod anodd i chi, felly rydym wedi darparu’r wybodaeth hon i egluro sut rydym yn addo delio â’r achos, beth yw eich hawliau a sut gallwch chi gael rhagor o gymorth.
Gwasanaeth Erlyn y Goron – ein rôl
Rydym yn gyfrifol am erlyn achosion troseddol yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r heddlu a sefydliadau eraill yn y system cyfiawnder troseddol – fodd bynnag, rydym yn gwbl annibynnol. Ein rôl yw sicrhau bod y person cywir yn cael ei erlyn am y drosedd gywir.
Os ydych chi wedi rhoi gwybod am achos o dreisio neu drosedd rhywiol ddifrifol, bydd yr heddlu’n ymchwilio ac yn casglu tystiolaeth. Pan fyddant yn credu bod ganddynt ddigon o dystiolaeth, byddant yn cysylltu â Gwasanaeth Erlyn y Goron er mwyn i ni ystyried a ddylid erlyn yr achos.
Sut rydym yn adolygu’r dystiolaeth a gwneud penderfyniadau
Os caiff yr achos ei gyfeirio atom gan yr heddlu, byddwn yn ei adolygu. Byddwn yn sicrhau bod un o’n erlynwyr trais rhywiol arbenigol a throseddau rhywiol difrifol yn ymchwilio i’r achos.
Byddwn yn awdurdodi cyhuddiadau yn erbyn yr unigolyn a amheuir os bodlonir y prawf cyfreithiol y mae’n rhaid i ni ei ddilyn (‘Prawf Cod Llawn’) – hynny yw, os oes digon o dystiolaeth a bod erlyniad er budd y cyhoedd. Byddwn yn ystyried yr effaith y mae’r trosedd wedi’i chael arnoch wrth wneud ein penderfyniad. Os cawsoch eich treisio, mae’r achos yn debygol iawn o gael ei erlyn os oes digon o dystiolaeth. Ceir rhagor o wybodaeth am y prawf hwn yn y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron, y gellir ei lwytho ei lawr mewn ieithoedd eraill yma.
Beth sy’n digwydd os nad oes digon o dystiolaeth i gyhuddo rhywun a amheuir?
Os nad oes digon o dystiolaeth i ddwyn cyhuddiad yn yr achos, byddwn yn rhoi gwybod i’r heddlu pa dystiolaeth bellach y gallent ei chasglu i gryfhau’r achos gyda golwg ar erlyn. Os, ar ôl hynny, nad oes digon o dystiolaeth i fodloni ein prawf cyfreithiol, byddwn yn ysgrifennu atoch i esbonio ein penderfyniad – neu gallwn siarad â chi’n uniongyrchol os yw’n well gennych.
Mae gennych hawl i ofyn i ni edrych ar ein penderfyniad eto. Mae gennym gynllun Hawl Dioddefwyr i Adolygiad, a gallwch gael rhagor o wybodaeth amdano ar ein tudalen Hawl Dioddefwyr i Adolygiad.
Beth sy’n digwydd ar ôl cyhuddo’r sawl a amheuir?
Os caiff yr achos ei erlyn, caiff ei gyfeirio at Lys y Goron (oni bai, er enghraifft, fod y diffynnydd o dan 18 oed). Gall gymryd amser hir rhwng achos lle cyhuddir rhywun ac iddo fynd i dreial. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn ei baratoi i’w gyflwyno i’r llys. Nid ni sy’n penderfynu pa bryd y gwrandewir ar achosion – penderfyniad i’r llysoedd yw hynny.
Beth sy’n digwydd pan fydd diffynnydd yn pledio’n euog / euog i rai cyhuddiadau / dieuog?
Pledio’n euog
Os bydd diffynnydd yn pledio’n euog, bydd y Barnwr naill ai’n ei ddedfrydu ar unwaith neu’n gohirio’r dedfrydu i wrandawiad arall. Byddwn yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael cyfle i ddarparu ‘datganiad personol dioddefwr’ i egluro sut mae’r drosedd wedi effeithio arnoch chi. Bydd y Barnwr yn ystyried amgylchiadau’r drosedd a’r canllawiau i benderfynu pa ddedfryd i’w rhoi i’r diffynnydd.
Pleidio’n euog i rai cyhuddiadau
Os bydd y diffynnydd yn pledio’n euog i rai o’r cyhuddiadau ond yn ddieuog i rai eraill, byddwn yn penderfynu a ddylid parhau â’r troseddau sy’n weddill. Cyn gwneud y penderfyniad hwn, byddwn yn siarad â chi ac yn ystyried eich barn lle bo hynny’n bosibl. Byddwn yn ystyried ein penderfyniad yn ofalus yn erbyn y Prawf Cod Llawn a chanllawiau eraill (h.y. canllawiau’r Twrnai Cyffredinol ar dderbyn pledion).
Pledio'n ddieuog
Os yw’r diffynnydd yn pledio’n ‘ddieuog’ i’r holl gyhuddiadau, bydd yr achos yn mynd i dreial. Bydd y Barnwr yn pennu dyddiad y treial, ac efallai y gofynnir i chi a thystion eraill ddod i'r llys i roi tystiolaeth.
Adeiladu achos yr erlyniad
Tystiolaeth ddigidol
Mae gan y rhan fwyaf o oedolion yng Nghymru a Lloegr ddyfeisiau digidol fel ffonau clyfar, gliniaduron neu gyfrifiaduron tabled. Gall y dyfeisiau hyn ddal llawer iawn o ddata, gan gynnwys gwybodaeth bersonol a sensitif. Fel rhan o’r ymchwiliad ar ein cyngor ni, gall yr heddlu wneud cais i edrych ar eich dyfeisiau digidol. Efallai y bydd hyn yn eich gwneud yn bryderus ond nid yw’n benderfyniad sy’n cael ei wneud yn ysgafn – dim ond os yw’n drywydd ymholiad rhesymol y gofynnir amdano.
Bydd yr heddlu fel arfer yn gofyn am eich caniatâd (cydsyniad) cyn cymryd dyfais gennych chi. Mewn amgylchiadau prin gall yr heddlu gymryd dyfais heb ganiatâd. Mae canlyniadau posibl os na ddarperir dyfeisiau, sy’n cynnwys:
Efallai na fydd yn bosibl mynd ar drywydd yr ymchwiliad na bwrw ymlaen ag erlyniad
Gellir cyhoeddi gwŷs tyst – dogfen a gyhoeddir gan y llys yw hon a fydd yn mynnu bod rhywun yn rhoi tystiolaeth yn y llys neu’n rhoi ei ddyfais i’r llys
Datgelu
Bydd yr heddlu’n paratoi rhestr lawn o’r holl ddeunyddiau sydd gennym yn yr achos nad ydym yn bwriadu eu defnyddio, ac rydym yn rhannu’r rhestr honno gyda’r amddiffyniad. Gelwir hon yn broses ‘ddatgelu’ ac mae’n rhan bwysig iawn o’r gwaith paratoi cyn y treial.
Mae datgelu yn helpu i sicrhau bod y treial yn un teg. Gall helpu’r amddiffyniad i ddeall yr achos yn erbyn yr unigolyn a amheuir. Mewn rhai achosion, gall datgelu berswadio’r diffynnydd i newid ei ble i euog ar ôl gweld pa mor gryf yw’r achos yn ei erbyn.
Bydd yr heddlu wedi casglu tystiolaeth wrth ymchwilio i’r achos. Gall hyn gynnwys gwybodaeth o’ch ffôn symudol a’ch cyfrifiadur. Efallai eich bod yn poeni bod y dyfeisiau hynny’n cynnwys delweddau, gwybodaeth neu negeseuon personol nad ydych chi eisiau i bobl eraill eu gweld. Dim ond os bydd gofynion cyfreithiol caeth yn cael eu bodloni y byddwn yn rhannu deunyddiau gyda’r amddiffyniad. Gall yr amddiffyniad wneud cais i weld y deunydd hwn – ond os na fyddwn yn credu y dylid ei rannu, bydd y Barnwr yn penderfynu beth fydd yn digwydd.
Os daw unrhyw dystiolaeth newydd i’r amlwg sy’n golygu na all yr achos fynd yn ei flaen mwyach neu fod angen i’r cyhuddiadau newid, byddwn yn rhoi gwybod i chi am y penderfyniad hwn a’r rhesymau dros hynny.
Therapi neu gwnsela cyn treial
Gallwch fod yn cael, neu yn meddwl am gael, therapi neu gwnsela i’ch helpu i wella ar ôl eich profiadau. Rydym yn glir y dylech chi dderbyn triniaeth effeithiol a chymorth therapiwtig i’ch helpu i wella, cyn gynted ag y bo modd. Ni ddylid oedi gyda therapi am unrhyw reswm sy’n gysylltiedig ag ymchwiliad troseddol neu erlyniad. Os ydych chi’n cael therapi cyn treial, dim ond os yw’n drywydd ymholi rhesymol y caiff yr heddlu gasglu nodiadau gan eich therapydd neu ddarparwr therapi. Dim ond os oes rhyw reswm dros gredu y bydd y nodiadau’n cynnwys deunydd sy’n berthnasol i’r achos y bydd yn drywydd ymholi rhesymol. Mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau bod proses deg ar gyfer treial. Gall y wybodaeth hefyd ein helpu i adeiladu’r achos neu fod mewn sefyllfa well i ymateb i faterion a godir gan yr amddiffyniad.
Eich helpu chi i baratoi ar gyfer y llys
Byddwn yn helpu i roi sylw i unrhyw anghenion penodol sydd gennych, ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am drefn a phrosesau’r llys. Byddwch hefyd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Uned Gofal Tystion yr heddlu neu Gynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol (ISVA), os oes gennych un. Byddant yn dweud wrthych sut mae’r achos yn mynd yn ei flaen, pryd y bwriedir i’r treial ddechrau a gorffen, ac os a phryd y bydd angen i chi fynd i’r llys i roi tystiolaeth.
Mesurau Arbennig
Gall rhoi tystiolaeth yn bersonol yn y llys fod yn brofiad trawmatig, yn enwedig mewn achosion o dreisio. Byddwn yn gwneud cais i’r llys am ffyrdd llai brawychus i chi roi tystiolaeth os yw hynny’n addas. Gelwir y rhain yn ‘fesurau arbennig’, a gallant gynnwys rhoi eich tystiolaeth y tu ôl i sgrin, drwy gyswllt fideo neu drwy gyfieithydd. Gallwch ddarllen mwy am fesurau arbennig ar ein tudalen Canllawiau Cyfreithiol Mesurau Arbennig.
Beth i’w ddisgwyl ar ddiwrnod y treial
Byddwn yn cwrdd â chi cyn i’r treial ddechrau yn y llys. Bydd erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron, a elwir hefyd yn adfocad yr erlyniad, yn cyflwyno’i hun i chi ac yn ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych am y broses. Byddwn yn dweud wrthych am hynt yr achos a, lle bo hynny’n bosibl ac yn berthnasol, yn esbonio unrhyw oedi.
Byddwn yn egluro sut y gallwch drosglwyddo gwybodaeth i’r erlynydd yn ystod yr achos os credwch y bydd o gymorth i’r llys.
Byddwch chi ac unrhyw dystion eraill yn aros yn ystafell aros y Gwasanaeth Tystion nes y cewch eich galw i roi tystiolaeth. Bydd gwirfoddolwyr Cyngor Ar Bopeth yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hynt y treial. Os ydych chi’n poeni am weld y diffynnydd, eu ffrindiau, eu teulu, neu unrhyw dystion sy’n cael eu galw i amddiffyn yr achos, rhowch wybod i’r Uned Gofal Tystion cyn diwrnod y gwrandawiad er mwyn iddynt allu gwneud trefniadau i osgoi hyn.
Proses Llys y Goron
Ein rôl ni yw cyflwyno’r achos i’r llys. Bydd y rheithgor yn ystyried ein hachos, a’r achos a gyflwynir gan yr amddiffyniad. Byddant yn rhoi euogfarn i’r diffynnydd os ydynt yn sicr ei fod yn euog.
Efallai eich bod yn poeni y bydd eich hunaniaeth neu eich manylion personol yn cael eu rhannu y tu allan i’r llys. Fel dioddefwr trais rhywiol neu ymosodiad rhywiol difrifol, ni ddylai unrhyw un ddweud pwy ydych y tu allan i’r achos ei hun. Mae hynny’n golygu na chewch eich enwi mewn unrhyw adroddiadau yn y cyfryngau, hysbysiadau yn y wasg nac ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gydol y treial neu ar ei ôl hyd yn oed os ceir y diffynnydd yn ddieuog. Os byddwch yn darganfod eich bod wedi cael eich enwi mewn adroddiad yn y cyfryngau neu ar y cyfryngau cymdeithasol mewn perthynas â’r achos, dylech roi gwybod i’r heddlu am hyn.
Strwythur y treial
Bydd erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn agor yr achos drwy nodi’r cyhuddiadau yn erbyn y diffynnydd. Yna, mae’n debyg y byddant yn eich galw chi a thystion eraill yr erlyniad i roi tystiolaeth. Bydd cyfreithiwr yr amddiffyniad yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i chi a thystion eraill yr erlyniad hefyd – gelwir hyn yn groesholi. Mewn achosion treisio, ni all y diffynnydd groesholi dioddefwr yn bersonol (gofyn cwestiynau iddo).
Mae’r treial wedyn yn newid drosodd i glywed gan yr amddiffyniad. Gall cyfreithiwr yr amddiffyniad wneud araith agoriadol a galw ei dystion.
Fel dioddefwr trais rhywiol, mae’r gyfraith wedi’i chynllunio i atal yr amddiffyniad rhag ceisio dwyn anfri arnoch chi drwy ddefnyddio tystiolaeth hanes rhywiol ac mae’n cyfyngu ar y cwestiynau y gellir eu gofyn i chi am y pwnc hwn. Byddwn yn eich amddiffyn rhag ymosodiadau ar eich cymeriad yn ystod y croesholi. Ni chaiff yr amddiffyniad ofyn cwestiynau i chi am unrhyw brofiadau rhywiol blaenorol a gawsoch gydag unrhyw un, gan gynnwys y diffynnydd, oni bai fod y Barnwr yn rhoi caniatâd iddynt wneud hynny. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod y diffynnydd yn cael treial teg. Os rhoddir caniatâd, cewch wybod ymlaen llaw a bydd yr amddiffyniad yn gallu gofyn cwestiynau i chi am enghreifftiau penodol o ymddygiad yn unig; ni allant ofyn cwestiynau eang am eich bywyd rhywiol. Byddwn bob amser yn herio ceisiadau gan yr amddiffyniad lle bo’n briodol o dan y gyfraith i wneud hynny. Y Barnwr sy’n gwneud y penderfyniad terfynol, a dim ond os bydd amodau cyfreithiol caeth yn cael eu bodloni y caiff roi caniatâd.
Unwaith y bydd yr amddiffyniad wedi gofyn eu holl gwestiynau, bydd erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cael cyfle i groesholi tystion yr amddiffyniad.
Unwaith y bydd yr holl dystion wedi cael eu holi, bydd y ddau gyfreithiwr fel arfer yn gwneud areithiau cloi. Bydd erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn crynhoi holl bwyntiau allweddol eu tystiolaeth, ac wedyn bydd cyfreithiwr yr amddiffyniad fel arfer yn gwneud yr un peth. Bydd y Barnwr yn crynhoi unrhyw beth y dylai’r rheithgor ei gadw mewn cof wrth ystyried y dystiolaeth, ac yna bydd y rheithgor yn ymneilltuo i ddod i ddyfarniad.
Y dyfarniad – dyfarnu’n euog
Gofynnir i’r rheithgor ddod i ddyfarniad ynghylch y cyhuddiadau sydd wedi’u dwyn yn erbyn y diffynnydd. Os ceir y diffynnydd yn ‘euog’, caiff euogfarn a bydd y Barnwr yn penderfynu ar ddedfryd drwy gyfeirio at y Canllawiau Dedfrydu a’r gyfraith. Bydd yn penderfynu am ba hyd y dylai’r ddedfryd fod, pa ofynion y dylid eu cynnwys a swm unrhyw ddirwy. Bydd yr holl benderfyniadau hyn yn dibynnu ar ffeithiau a difrifoldeb y drosedd.
Gall y Barnwr ddedfrydu’r diffynnydd ar unwaith neu ofyn iddo ddychwelyd yn ddiweddarach. Nid ydym yn gyfrifol am ddedfrydu ond byddwn yn sicrhau bod gan y Barnwr yr wybodaeth sydd ei hangen arno i wneud penderfyniad priodol. Gallwch ddarllen mwy am ddedfrydu ar wefan y Cyngor Dedfrydu.
Cael ei ddyfarnu’n ddieuog
Os bydd y rheithgor yn penderfynu bod y diffynnydd yn ddieuog, nid yw hynny’n golygu na chawsoch eich credu, nad yw eich trawma’n wir, eich bod yn dweud celwydd neu ein bod yn anghywir i ddwyn yr achos. Mae’n golygu na allai rheithgor fod yn siŵr bod y diffynnydd yn euog. Os ceir y diffynnydd yn ‘ddieuog’, mae’n rhydd i adael y llys.
Beth sy’n digwydd os na all y rheithgor ddod i ddyfarniad?
Mewn rhai achosion, bydd y rheithgor yn methu â dod i ddyfarniad. Byddwn wedyn yn penderfynu a fyddai ail dreial er budd y cyhoedd, ac a fyddai’n debygol o arwain at euogfarn. Bydd unrhyw benderfyniad a wnawn yn unol â’r Prawf Cod Llawn.
Ar ôl y treial / apeliadau
Os ceir y diffynnydd yn ddieuog, ni allwn ni na chi apelio yn erbyn y rheithfarn.
Os ceir y diffynnydd yn euog, mae ganddo hawl i apelio os oes ganddo reswm cyfreithiol dros wneud hynny – gallai hyn fod yn dystiolaeth newydd sydd wedi dod i’r amlwg neu os yw’n yn credu na chafodd y treial ei gynnal yn deg. Gellir apelio yn erbyn yr euogfarn a/neu ddifrifoldeb y ddedfryd. Os bydd Barnwr yn cytuno i apêl, anfonir yr achos i’r Llys Apêl ar gyfer treial newydd. Os ceir apêl, byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ei hynt ac yn esbonio dyfarniad y llys i chi.
Apelio yn erbyn dedfryd
Mae gennych hawl i ofyn i ddedfryd y diffynnydd gael ei hadolygu os credwch ei bod yn rhy fyr (rhy drugarog). Gallwn ni ac aelodau’r cyhoedd hefyd apelio yn erbyn dedfryd ar y sail hon. Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol sy’n gyfrifol am adolygu’r ddedfryd os gofynnir am hynny; gallwch ddarllen mwy yma: apelio yn erbyn dedfrydau afresymol o isel.
Eich hawliau fel dioddefwr
Mae gennych 12 hawl dan y Cod Dioddefwyr, sy’n cael eu cynnal gennym ni a rhannau eraill o’r system cyfiawnder troseddol. Cewch ragor o wybodaeth isod: https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/974376/victims-code-2020.pdf
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron hefyd wedi gwneud Addewid Erlynwyr i ddioddefwyr, y gallwch ei ddarllen yn llawn yma: https://www.cps.gov.uk/prosecutors-pledge