Dedfrydu llofruddiwr a dagodd ei bartner i farwolaeth
Mae dyn a laddodd ei bartner drwy ei thagu yn eu cartref yng Nghaerdydd wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes.
Roedd Alcwyn Thomas, 44 oed, wedi bod allan yn yfed gyda’i bartner, Victoria Thomas, ac eraill ar 19 Awst 2024. Aethant i Club 3000 Bingo yng Ngabalfa, lle bu’r grŵp yn yfed. Roedd Alcwyn Thomas wedi cymryd cocên hefyd.
Dychwelodd y pâr adref a galwyd yr heddlu i’r eiddo yn ystod oriau mân y bore canlynol, lle canfuwyd bod Victoria wedi marw.
Gwadodd Alcwyn Thomas ei fod wedi lladd Victoria’n fwriadol, gan ddweud wrth y rheithgor yn ei dreial yn Llys y Goron Caerdydd, mai “tagu erotig” oedd y rheswm dros ei marwolaeth.
Ar ôl clywed yr holl dystiolaeth yn yr achos, cafodd y rheithgor ef yn euog o lofruddiaeth.
Dywedodd Mandy Wintle o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Arweiniodd gweithredoedd y diffynnydd at farwolaeth drasig Victoria.
“Nid oedd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn derbyn esboniad Alcwyn Thomas o farwolaeth Victoria, a chyflwynwyd tystiolaeth i’r rheithgor a arweiniodd at ei euogfarn.
“Dylai pawb deimlo’n ddiogel yn ei gartref ei hun, ac mae unrhyw honiad o gam-drin domestig yn cael ei gymryd o ddifrif.
“Rydym yn cydymdeimlo â theulu a ffrindiau Victoria, sydd wedi dioddef colled dorcalonnus.”
Dedfrydwyd Alcwyn Thomas i garchar am oes yn Llys y Goron Caerdydd ar 24 Ebrill 2025, a gorchmynnwyd iddo aros yno am o leiaf 20 mlynedd.
Nodiadau i olygyddion
- Daw Alcwyn Thomas (dyddiad geni: 4/5/1980) o Gaerdydd
- Cafodd rheithgor ef yn euog o lofruddiaeth Victoria Thomas
- Bu farw Victoria Thomas ar 20 Awst 2024 yn 45 oed
- Mae Mandy Wintle yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) Cymru.