Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Dedfrydu nyrs a ddaliwyd gan grŵp olrhain pedoffiliaid

|News, Sexual offences

Mae nyrs a oedd yn gweithio yn Ysbyty Treforys wedi cael ei ddedfrydu am droseddau rhyw wedi iddo gysylltu â chyfrif plentyn ffug a sefydlwyd gan grŵp olrhain pedoffiliaid.

Dechreuodd Phillip Hill, 54, gyfathrebu â chyfrif merch 13 mlwydd oed, ac yna anfon delweddau anweddus ohono ei hun a gofyn i’r ferch anfon delweddau tebyg yn ôl ato.

Rhoddodd y grŵp olrhain pedoffiliaid wybod i’r heddlu am y gweithgarwch hwn, ac fe arestiwyd Hill wrth iddo adael ei waith.

Dywedodd Alex Scott o’r CPS: “Fe wnaeth Phillip Hill gychwyn a chymryd rhan mewn sgyrsiau rhywiol gyda rhywun oedd yn ei feddwl e yn ferch yn ei harddegau.

“Yn ffodus, doedd dim plentyn mewn perygl yn y sefyllfa hon, ond nid dyna’r sefyllfa bob tro, ac mae’n ein hatgoffa’n glir o’r peryglon y gall plant eu hwynebu ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Mae’r CPS yn parhau i gydweithio’n agos â’r Heddlu i sicrhau bod rheibwyr rhywiol yn dod gerbron y llys os ydy’r prawf cyfreithiol yn cael ei fodloni.”

Dedfrydwyd Phillip Hill yn Llys y Goron Abertawe ar 1 Mehefin 2023 i gyfanswm o ddwy flynedd a thri mis o garchar a gorchymyn i gofrestru fel troseddwr rhyw am ddeng mlynedd.

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Alex Scott yn Erlynydd y Goron Rhanbarthol yn CPS Cymru-Wales.
    Plediodd Phillip Hill (dyddiad geni: 14/2/1969) yn euog o Gymryd rhan mewn cyfathrebu rhywiol gyda phlentyn, yn groes i a.15A(1) a (3) Deddf Troseddau Rhywiol 2003; Annog neu beri i blentyn (13-15) wylio neu edrych ar ddelwedd o weithgarwch rhywiol, yn groes i a.10(1)(a), (b), (c)(ii) ac a.2 Deddf Troseddau Rhywiol 2003; Ceisio peri i ferch/annog merch (13-15) i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol (dim treiddio), yn groes i a.12(1)(a), (b), (c)(i) ac a.2 Deddf Troseddau Rhywiol 2003.

Further reading

Scroll to top