Tad i ddau wedi’i garcharu am dreisio yng nghanol y ddinas
Mae dyn o Gasnewydd a dreisiodd fenyw a gyfarfu ar noson allan wedi cael ei garcharu.
Gwahoddodd Christian Okafor, 48, y fenyw ac eraill yn ôl i’w fflat ar ôl iddo gwrdd â nhw ar noson allan yng nghanol y ddinas.
Rhoddwyd diod i’r fenyw a llewygodd am ychydig, gan ddeffro gydag Okafor ar ei phen.
Cafwyd tystiolaeth DNA a oedd yn cysylltu Okafor â’r dioddefwr.
Gwadodd Okafor ei fod wedi treisio’r fenyw, ond fe’i cafwyd yn euog gan reithgor o’r trosedd ar ôl clywed yr holl dystiolaeth.
Dywedodd Scott McCrimmon o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Mae treisio yn drosedd dychrynllyd sy’n cael effaith ddinistriol ar y dioddefwr.
“Manteisiodd Okafor ar rywun/ddynes/y dioddefwr a oedd mewn sefyllfa fregus er mwyn bodloni ei chwant rhywiol ei hun.
“Mae ei euogfarn wedi deillio o’r dystiolaeth gref a gyflwynwyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron i’r rheithgor.”
Cafodd Christian Okafor ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ar 3 Hydref i wyth mlynedd o garchar a gorchymyn i gofrestru fel troseddwr rhyw am gyfnod amhenodol.
Ychwanegodd Scott McCrimmon: “Roedd y ffaith i'r dioddefwr ddod ymlaen yn gynnar yn hollbwysig, gan ganiatáu i Wasanaeth Erlyn y Goron weithio gyda’r heddlu i ymchwilio i’r elfennau allweddol a sicrhau tystiolaeth a arweiniodd at yr euogfarn hon. Diolchwn iddi am ei chydweithrediad a’r dewrder a ddangosodd.”
Notes to editors
- Atgoffir golygyddion fod cyfyngiadau adrodd yn atal cyhoeddi unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod y dioddefwr.
- Fe gafwyd Christian Okafor (Dyddiad geni: 2/3/1976) yn euog o un trosedd o dreisio yn dilyn treial.
- Dyddiad y trosedd oedd 27 Ionawr 2024.
- Mae Scott McCrimmon yn Uwch Erlynydd y Goron yn nhîm Treisio a Throseddau Rhywiol Difrifol Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.