Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn arwain at gyhuddiadau troseddol yn erbyn dyn o Benarth

|News

Mae dyn 26 oed a bostiodd sylwadau yn annog y terfysg cyhoeddus diweddar yn Lloegr wedi cael ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Caerdydd heddiw.

Gwnaeth Shane McAndrew y sylwadau ar 30 Gorffennaf 2024 ar Facebook mewn perthynas á therfysg cyhoeddus yn Southport.

Pan arestiwyd ef gan yr heddlu yn ei gartref, daethant o hyd i ddwrn haearn wrth chwilio.

Awdurdododd Gwasanaeth Erlyn y Goron yr heddlu i gyhuddo McAndrew o drosedd rhwydwaith cyfathrebu a meddu ar arf bygythiol mewn man preifat.

Dywedodd Iwan Jenkins o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd McAndrew yn credu’n anghywir y gallai ledaenu cynnwys difrïol a bygythiol o’r tu ôl i sgrin cyfrifiadur.

“Er na wnaeth gymryd rhan mewn unrhyw derfysg ei hun, defnyddiodd gyfryngau cymdeithasol i annog eraill i ymddwyn yn dreisgar.

“Rwy’n gobeithio bod canlyniad heddiw yn anfon neges glir at y rheini sy’n defnyddio’r rhyngrwyd i hybu rhaniadau – mae gan eich gweithredoedd ganlyniadau a byddwch yn cael eich erlyn.”

Cafodd Shane McAndrew ddedfryd i gorchymyn cymunedol 18 mis sy'n cynnwys gofyniad gweithgaredd adsefydlu 20 diwrnod a 120 awr o waith di-dâl ar 12 Medi 2024.

Nodiadau i olygyddion

  • Plediodd Shane McAndrew (Dyddiad geni:3/7/1997) yn euog o anfon neges sarhaus gan ddefnyddio rhwydwaith cyfathrebu cyhoeddus, yn groes i adran 127(1)(a) Deddf Cyfathrebiadau 2003, ac o feddu ar arf mewn man preifat, yn groes i adran 141(1)(a) Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988.
  • Mae Iwan Jenkins yn Dirprwy Brif Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.

Further reading

Scroll to top