Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Dedfrydu dyn am lofruddiaeth tu allan i dafarn gydag un ergyd â dwrn

|News, Violent crime

Cafodd llofrudd ddedfryd o garchar am oes ar ôl iddo ladd dyn gydag un ergyd â dwrn tu allan i dafarn, a bydd yn treulio o leiaf un-ar-bymtheg o flynyddoedd yn y carchar.

Cafodd Christopher Cooper, 39, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe heddiw, am ladd dyn gydag un ergyd â dwrn y tu allan i dafarn yng Ngorseinon.

Ym mis Mai 2024, roedd Kelvin Evans allan gyda’i bartner yn y Station Hotel, sy’n cael ei alw’n “The Gyp” yn lleol. Roedd Cooper a’i bartner, Catherine Francis, hefyd yn yfed yno.

Aeth Mr Evans allan o’r dafarn i fynd at ei bartner a oedd eisoes wedi mynd ymlaen i rywle arall. Dilynodd Cooper Mr Evans a'i daro yn ei ben o'r tu ôl.

Aethpwyd â Mr Evans i’r ysbyty, ac yn anffodus bu farw o’i anafiadau fis yn ddiweddarach, ar 26 Mehefin 2024.

Roedd Francis yn gwybod am yr ymosodiad ond ni ffoniodd yr heddlu. Roedd dadansoddiad o’i ffôn yn dangos ei bod wedi chwilio am westai yn syth ar ôl yr ymosodiad. Cafodd y ddau eu harestio’r diwrnod canlynol mewn gorsaf betrol yng Nghorneli Waelod.

Roedd Cooper wedi pledio’n euog i ddynladdiad ond wedi gwadu ei fod wedi bwriadu lladd neu achosi niwed difrifol. Fodd bynnag ar ôl gwrando’r holl dystiolaeth, cafodd Cooper ei ddyfarnu’n euog o lofruddiaeth.

Plediodd Francis yn ddieuog i gynorthwyo troseddwr ond fe’i cafwyd yn euog hefyd gan reithgor.

Dywedodd Nia Sturgess, o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Mae’r achos hwn yn dangos yr effaith ofnadwy sy’n gallu digwydd o ganlyniad i ddim ond un ergyd â dwrn.

“Roedd rhywbeth a ddechreuodd fel mater dibwys i Christopher Cooper wedi arwain at weithred dreisgar hurt a marwolaeth drasig.

“Roedd Cooper wedi taro Kelvin Evans o’r tu ôl, felly ni chafodd unrhyw gyfle i amddiffyn ei hun.  

“Cyflwynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron dystiolaeth gref i ddangos bwriad Cooper, a arweiniodd at yr euogfarn hon.

“Rydym yn dal i feddwl am anwyliaid Kelvin Evans ac yn cydymdeimlo â nhw.”

Dedfrydwyd Christopher Cooper i garchar am oes, a gorchmynnwyd iddo aros yno am o leiaf un-ar-bymtheg o flynyddoedd. Cafodd Catherine Francis ei dedfrydu i ddwy flynedd o garchar. Cafodd y ddau ddiffynnydd eu dedfrydu ar 3 Ionawr 2025. 
 

Nodiadau i olygyddion

  • Cafodd Christopher Paul Cooper (dyddiad geni: 20/1/1985) o Abertawe euogfarn am lofruddiaeth (27/5/24) ar ôl treial.
  • Cafodd Catherine Tracy Francis (dyddiad geni: 3/2/1970) o Lanelli euogfarn am gynorthwyo troseddwr (rhwng 25/5/24 a 28/5/24). 
  • Bu farw Kelvin Evans ar 26 Mehefin 2024 yn 64 oed. 
  • Mae Nia Sturgess yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.

Further reading

Scroll to top