Skip to main content

Cymru-Wales

Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yw'r prif awdurdod erlyn yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'r holl asiantaethau yn y system cyfiawnder troseddol, ac yn arbennig o agos gyda'r heddlu, er mai corff annibynnol ydym. Yr heddlu sy'n ymchwilio i droseddau a'n rôl ni yw paratoi a chyflwyno achosion i'r llysoedd.

Map of CPS Cymru-WalesMae gan y CPS 14 Ardal ledled Cymru a Lloegr. CPS Cymru-Wales yw ein Hardal ni. Mae'r CPS yng Nghymru'n gwasanaethu poblogaeth o dros dair miliwn o bobl ac mae'n timau lleol yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau partner yn mhedair ardal yr heddlu yng Nghymru: Dyfed Powys, Gwent, Gogledd Cymru a De Cymru.

Cymru-Wales
CPS Wales area map

CPS Cymru-Wales

Mae CPS Cymru-Wales yn cyflogi tua 320 aelod o staff, gan gynnwys cyfreithwyr, paragyfreithwyr a gweinyddwyr. Rydym yn gweithio o bell ar draws amryw leoliadau yng Nghymru ond mae ein tair prif swyddfa yng Nghaerdydd, yr Wyddgrug ac Abertawe.

Ein dyletswydd yw erlyn y bobl gywir am y troseddau cywir. Ein nod yw gweithredu'n broffesiynol ac rydym yn anelu at ragoriaeth, gan edrych yn gyson am ffyrdd i wella'n gwasanaeth a sut rydym yn gweithio.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel yn Gymraeg neu Saesneg, ar sail gyfartal.

Caiff CPS Cymru-Wales ei gefnogi gan Ganolfan Fusnes sy'n cynnwys tîm o arbenigwyr ym meysydd Cyllid, Perfformiad, Newid, Cyfleusterau, Diogelwch, Iechyd a Diogelwch, Cyfathrebu, Cynhwysiant ac Ymgysylltu â'r Gymuned ac Adnoddau Dynol.

Caiff CPS Cymru-Wales ei arwain gan Brif Erlynydd y Goron (CCP), Jenny Hopkins, sydd â'r cyfrifoldebau canlynol: cynnal erlyniadau; gosod a chynnal safonau proffesiynol a moesegol; cynrychioli'r CPS yn lleol; cyfrannu at bolisi a strategaeth genedlaethol; a sicrhau cysylltiadau cyflogaeth effeithiol.

Caiff y CCP ei gefnogi gan dîm o uwch reolwyr gydag arbenigedd mewn materion cyfreithiol a rheolaeth busnes. Ar yr ochr gyfreithiol, darperir cefnogaeth gan Ddirprwy Brif Erlynwyr y Goron Nathan Fear a Huw Rogers. Rhian Thomas yw Rheolwr Busnes yr Ardal gyda chyfrifoldeb dros y swyddogaethau busnes a chyflenwi gweithredol.

Gweithio gyda chi

Mae Cymru yn wlad fywiog ac amrywiol gyda hunaniaeth unigryw.

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yng Nghymru wedi ymrwymo i ymgysylltu â chymunedau lleol er mwyn gwella'n gwasanaethau ac rydym eisiau darparu gwasanaeth deg i bawb.

Mae'n bwysig bod pobl yn deall sut mae'r system cyfiawnder troseddol yn gweithio a sut rydym yn gwneud ein penderfyniadau.Yn rhy aml, nid yw pobl yn gwybod pwy ydym neu'n deall beth rydym yn ei wneud/ Mae'r CPS yng Nghymru wedi ymrwymo at newid hyn a chael presenoldeb gweladwy.

Ledled Cymru, ein nod yw gweithio gyda phob grwp a chymuned er mwyn sicrhau bod polisïau newydd a fabwysiedir gan y CPS yn adlewyrchu'r gymuned amrywiol rydym yn byw ynddi a bod ein gweithrediadau'n cael eu hysbysu gan anghenion y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Mae gennym sawl ffordd o geisio cynnwys cymunedau lleol yn sut rydym yn cynllunio ac yn cyflwyno ein gwasanaethau.

Paneli Craffu ac Ymgysylltu Lleol

Mae Paneli Craffu ac Ymgysylltu Lleol (LSIPs) yn fecanwaith allweddol a ddefnyddir gennym i ymrwymo gyda chymunedau lleol a'u cynrychiolwyr. Yn benodol, y cymunedau hynny gyda nodweddion gwarchodedig mewn perthynas ag oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, crefydd, cred, hil neu rhywioldeb.

Mae tri LSIP. Un ar gyfer ardal heddlu De Cymru a Gwent; un ar gyfer heddlu Gogledd Cymru ac un ar gyfer heddlu Dyfed Powys. Nod y Paneli yw:

  • Sicrhau bod CPS Cymru-Wales yn ystyried barn cymunedau er mwyn adnabod pryderon lleol.
  • Craffu ar achosion o Droseddau Casineb, Trais yn erbyn Menywod ac achosion o ddiddordeb lleol er mwyn gwella perfformiad yn lleol a chefnogi dioddefwyr a thystion mewn modd effeithiol.
  • Ymgynghori â chymunedau lleol ar strategaethau a chynlluniau gan gyfeirio'n benodol at wella polisi, gwaith achos, cyfflogaeth a hyfforddiant.
     

Dioddefwyr a Thystion

Rydym wedi ymrwymo at ymdrin â Dioddefwyr a Thystion â pharch.  Deallwn fod bod yn ddioddefwr neu'n dyst i drosedd yn gallu bod yn anodd a bod rhai pobl yn gallu deimlo'n fregus yn ei sgil.  Byddwn yn eu cefnogi trwy'r broses er mwyn iddynt allu rhoi eu tystiolaeth orau yn y llys.

Rydym yn erlyn achosion ar ran bob cymuned ac eisiau i gymunedau barhau i gael hyder yn eu system cyfiawnder troseddol, i gredu bod eu buddion yn cael eu cynrychioli'n deg a'u bod yn gallu gweld bod cyflawnder yn digwydd.

Byddwn yn darparu gwasanaeth cyfartal yn Gymraeg neu Saesneg.

Hawl Dioddefwyr i Adolygiad (VRR)

Mae cynllun VRR yn ei gwneud yn haws i ddioddefwyr geisio adolygiad o benderfyniad y CPS i beidio â ddwyn cyhuddiad neu i roi terfyn ar brawf.

Os ydych yn ddioddefwr yn ceisio arfer eich hawl i wneud cais am adolygiad o benderfyniad y CPS i beidio â dwyn cyhuddiad, i roi terfyn ar brawf neu i gynnig dim tystiolaeth mewn achos, cliciwch yma.

Pwynt cyswllt Cymru-Wales ar gyfer ymholiadau Hawl Dioddefwyr i Adolygiad:
E-bost: [email protected]
Ffôn: 02920 803966 - nodwch y dylid defnyddio'r rhif hwn ar gyfer ymholiadau VRR YN UNIG

Nodwch fod y cynllun yn berthnasol mewn perthynas â phenderfyniadau cymwys a wnaed ar neu ar ôl 5 Mehefin 2013.

Hawl Dioddefwyr i Adolygiad