Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Main content area

Cyn-gynghorydd wedi’i ddedfrydu am ymgais i lofruddio

|News, Domestic abuse

Cafodd cyn-gynghorydd tref Pen-y-bont ar Ogwr ei garcharu yn Llys y Goron Merthyr Tudful heddiw am geisio lladd ei wraig.

Roedd Darren Brown, 35 oed, wedi gwahanu oddi wrth ei wraig ond roedd yn dal i fyw yn yr un eiddo. Ar 10 Gorffennaf 2023 roedd y ddau yn dadlau pan aeth Darren Brown i lawr y grisiau a nôl cyllell o’r gegin.

Aeth yn ôl i fyny’r grisiau a thra oedd ei wraig yn ceisio setlo’r babi, trywanodd hi ddwywaith yn ei chefn. Llwyddodd y dioddefwr i fynd i’r ystafell ymolchi a chloi’r drws ond ciciodd Darren Brown y drws mor galed fel iddo ddod oddi ar ei golfachau.

Yna, cafodd y dioddefwr ei thrywanu yn ei chefn am y trydydd tro, cyn i Darren Brown adael yr eiddo a gyrru oddi yno.

I ddechrau, dywedodd Darren Brown mai gan ei wraig oedd y gyllell, a’i fod wedi ceisio ei thynnu oddi arni, ac mai dyna pryd y cafodd ei hanafu.

Yn ddiweddarach, plediodd yn euog yn y Llys i anafu’n fwriadol, ond roedd yn gwadu’r cyhuddiad o ymgais i lofruddio. Fodd bynnag, fe’i cafwyd yn euog o’r drosedd yn dilyn treial, ar ôl i’r rheithgor glywed yr holl dystiolaeth.

Dywedodd Hannah West o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd hwn yn ymosodiad dychrynllyd a threisgar.

“Aeth Darren Brown i nôl y gyllell yn fwriadol a dod â hi i fyny’r grisiau, a’i defnyddio pan oedd y dioddefwr ar ei mwyaf agored i niwed.

“Byddai unrhyw un o’r anafiadau wedi gallu bod yn angheuol, ac roedd y dystiolaeth a gyflwynwyd i’r rheithgor yn dangos mai bwriad Brown oedd lladd ei wraig.

“Mae’n anodd dychmygu pa mor ddychrynllyd oedd hyn i’r dioddefwr. Rydyn ni’n dal i feddwl amdani ac rydyn ni’n gobeithio y bydd hi’n gallu cael cysur o wybod bod ei gŵr wedi cael ei ddwyn gerbron y llys am yr ymosodiad erchyll hwn.”

Cafodd Darren Brown ei ddedfrydu i 18 mlynedd o garchar ar 15 Tachwedd 2024 a gorchymyn atal.

Notes to editors

  • Daw Darren Brown (Dyddiad Geni: 2/12/1988) o’r Felin-wyllt, Pen-y-bont ar Ogwr.
  • Cafodd y dioddefwr dri anaf trywanu i’w chefn ac anafiadau i’w bysedd ar ei llaw chwith.
  • Mae Hannah West yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru. 
     

Further reading

Scroll to top