Pa gymorth sydd ar gael i’ch helpu
Mae gennych hawl dan y Cod Dioddefwyr i gael eich cyfeirio at wasanaethau cymorth i ddioddefwyr. Gallwch gysylltu â nhw eich hun neu gallwch ofyn i’ch cyswllt yn yr heddlu eich cyfeirio. Dyma rai enghreifftiau o’r mathau o wasanaethau a chymorth a allai fod yn ddefnyddiol i chi.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Gwybodaeth i Ddioddefwyr a Thystion y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Os oes angen help arnoch mewn argyfwng unrhyw bryd, ffoniwch 999.
Gall dioddef trosedd fod yn brofiad anodd i unrhyw un. Gallwch gael gafael ar wasanaethau cwnsela a therapïau seicolegol eraill gan y GIG.
Dylech roi blaenoriaeth i’ch lles. Nid oes angen gohirio therapi neu gwnsela am unrhyw reswm sy’n gysylltiedig ag ymchwiliad neu erlyniad troseddol. Os ydych chi’n teimlo y byddai’n helpu, mae’n bwysig cael gafael arno cyn gynted â phosibl.
Gall y Gwasanaeth Tystion, sy’n cael ei redeg gan Gyngor ar Bopeth, eich helpu i ddeall beth i’w ddisgwyl yn y llys drwy gynnig cymorth cyn-treial ac ymweliad â’r llys cyn y diwrnod. Mae hyn yn golygu y byddant yn eich tywys o amgylch llys ac yn egluro beth fydd yn digwydd ar y diwrnod.
Byddant yno hefyd i’ch cefnogi ar ddiwrnod y treial a gallant ddod gyda chi i ystafell y llys os byddai hynny o gymorth i chi. Gall yr heddlu eich cyfeirio at y Gwasanaeth Tystion neu gallwch ofyn am gymorth ganddynt eich hun drwy lenwi ffurflen fer.
Yn Llundain, darperir cymorth cyn treial gan Gymorth i Ddioddefwyr.
Cynllun a ariennir gan y llywodraeth yw’r Cynllun Digolledu am Anafiadau Troseddol, a’i nod yw digolledu dioddefwyr troseddau treisgar.
Efallai y bydd gennych hawl i gael iawndal os ydych wedi dioddef anaf neu golled o ganlyniad i drosedd. Mae’r cynllun wedi’i gynllunio i fod yn un o’r dewisiadau olaf i ddioddefwyr, nad oes ganddynt unrhyw ffordd arall o gael iawndal.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynllun a’r terfynau amser ar gyfer gwneud cais yn y canllaw ar iawndal am anafiadau troseddol.
Os bydd eich achos yn mynd i dreial, mae cefnogaeth ar gael i’ch helpu i roi eich tystiolaeth. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn yr adran Cymorth i roi eich tystiolaeth.