Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Y gwrandawiad cyntaf yn Llys y Goron – y gwrandawiad Pledio a pharatoi ar gyfer treial

Llys y Goron sy’n delio â’r achosion troseddol mwyaf difrifol. Goruchwylir pob achos gan farnwr sy’n gyfrifol am bennu amserlen yr achos, gan benderfynu ar unrhyw gwestiynau cyfreithiol (fel a ellir defnyddio mathau penodol o dystiolaeth) a dedfrydu’r diffynnydd os ceir ef yn euog. 

Os bydd achos yn mynd i dreial, bydd yn cael ei glywed gan reithgor. Mae’r rheithgor yn cynnwys 12 aelod o’r cyhoedd a ddewisir ar hap o’r rhestr etholiadol. Yn Llys y Goron, y rheithgor sy’n penderfynu a yw’r diffynnydd yn ‘euog’ neu’n ‘ddieuog’.

Mae gennych yr hawl dan y Cod Dioddefwyr i gael gwybodaeth am y treial a phroses y treial. 

Fel arfer, y gwrandawiad cyntaf yn Llys y Goron yw’r ‘Gwrandawiad Pledio a Pharatoi ar gyfer Treial’ (PTPH). Yn y gwrandawiad hwn, bydd clerc y llys yn darllen y rhestr o droseddau y cyhuddwyd y diffynnydd ohonynt (y ditiad) ac yn gofyn i’r diffynnydd bledio’n ‘euog’ neu’n ‘ddieuog’. Gelwir y broses hon yn areiniad.  

Gall unrhyw aelod o’r cyhoedd fynychu unrhyw wrandawiad mewn llys troseddol.

Os yw’r diffynnydd yn pledio’n ‘euog’ i bob cyhuddiad

Os yw’r diffynnydd yn pledio’n ‘euog’ i’r cyhuddiadau i gyd, gall y barnwr naill ai ddedfrydu’r diffynnydd ar unwaith neu gall ohirio’r gwrandawiad dedfrydu i ofyn am ragor o wybodaeth i’w helpu i benderfynu beth ddylai’r ddedfryd fod. 

Gall hyn gynnwys adroddiad ‘cyn-dedfrydu’, a ysgrifennir gan y gwasanaeth prawf, sy’n darparu asesiad annibynnol o’r troseddwr a’r risgiau a berir ganddo. 

Byddwn hefyd yn rhoi eich ‘Datganiad Personol Dioddefwr’ i’r llys os ydych wedi ysgrifennu un. Bydd yr heddlu’n gofyn i chi a hoffech chi ysgrifennu un yn ystod yr ymchwiliad – dyma eich cyfle chi i egluro sut mae’r drosedd wedi effeithio arnoch chi. 

Os hoffech ddarllen eich ‘Datganiad Personol Dioddefwr’ yn uchel i’r llys, yna gallwn wneud cais i’r llys i chi gael gwneud hyn. Fel arall, bydd yr erlynydd yn ei ddarllen i’r llys ar eich rhan. Os byddwch yn darllen eich ‘datganiad personol dioddefwr’ i’r llys eich hun, mae gennych hawl i gael mesurau arbennig i wneud hynny

Yna bydd y barnwr yn defnyddio’r wybodaeth honno i benderfynu pa ddedfryd y bydd y diffynnydd yn ei derbyn yn unol â’r canllawiau dedfrydu ar gyfer y drosedd y mae wedi’i gael yn euog ohoni. 

Pennir canllawiau dedfrydu gan y Cyngor Dedfrydu yn unol â chyfraith y DU.

Os yw’r diffynnydd yn pledio’n ‘euog’ i rai o’r cyhuddiadau

Os bydd y diffynnydd yn pledio’n ‘euog’ i rai o’r cyhuddiadau ond yn ‘ddieuog’ i eraill, bydd yn rhaid i erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron benderfynu a ddylid derbyn y pleon ‘euog’ ai peidio.

Mae angen iddynt hefyd benderfynu pa gamau i’w cymryd yng nghyswllt y cyhuddiadau y mae’r diffynnydd wedi pledio’n ‘ddieuog’ iddynt. 

Mae gan yr erlynydd ddau opsiwn:

  1. Gall naill ai ‘gynnig dim tystiolaeth’ ar gyfer y cyhuddiadau y mae’r diffynnydd wedi pledio’n ‘ddieuog’ iddynt neu gall ofyn i’r cyhuddiadau hyn ‘aros ar y ffeil’. Os na fyddwn yn cynnig unrhyw dystiolaeth, mae hyn yn golygu bod y llys wedi derbyn rheithfarn ‘dieuog’ ar gyfer y cyhuddiadau hynny ac ni allwn gymryd camau pellach yn eu cylch. Os ydym yn credu y dylai’r cyhuddiadau aros ar y ffeil, mae angen i ni ofyn am ganiatâd y barnwr i wneud hyn. Yn dechnegol, gallai cyhuddiadau sy’n aros ar ffeil gael eu hailgychwyn yn ddiweddarach ond mae hyn yn anghyffredin iawn. Bydd y barnwr wedyn yn dedfrydu’r diffynnydd am y cyhuddiadau y mae’r diffynnydd wedi pledio ‘euog’ iddynt yn unig. 

Neu

  1. Gall ofyn i’r cyhuddiadau y mae’r diffynnydd wedi pledio’n ‘ddieuog’ iddynt gael eu rhestru ar gyfer treial. Ni fydd y diffynnydd yn cael ei ddedfrydu am unrhyw gyhuddiadau hyd nes y bydd y treial wedi’i gynnal. 

I wneud y penderfyniad hwn, mae’n rhaid i’r erlynydd ystyried nifer o ffactorau sydd wedi’u nodi yn y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron a chanllawiau’r Twrnai Cyffredinol ar dderbyn pleon.

Mae hyn yn cynnwys a fyddai’r llys yn gallu rhoi dedfryd i’r diffynnydd sy’n adlewyrchu difrifoldeb y troseddau yr ydym wedi cyhuddo’r diffynnydd ohonynt. Er enghraifft, pe bai diffynnydd yn pledio’n ‘euog’ i drosedd fwy dibwys fel dwyn ond yn ‘ddieuog’ i drosedd fwy difrifol fel trais rhywiol, yna ni fyddai’r ddedfryd y gallai’r llys ei rhoi iddo yn adlewyrchu difrifoldeb y troseddau y bu i ni ei gyhuddo ohonynt. Os nad ydym yn credu y byddai’r llys yn gallu rhoi dedfryd briodol i’r diffynnydd, yna byddwn yn gofyn i’r cyhuddiadau sy’n weddill gael eu rhestru ar gyfer treial. 

Lle bo’n bosibl, byddwn yn ystyried eich barn chi fel dioddefwr er mwyn ein helpu i benderfynu a yw er budd y cyhoedd i dderbyn y ple.

Os yw’r diffynnydd yn pledio’n ‘ddieuog’ i bob cyhuddiad

Os yw’r diffynnydd yn pledio’n ‘ddieuog’ i’r holl gyhuddiadau, bydd y barnwr yn pennu dyddiad ar gyfer y treial.

Scroll to top