Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Ar ôl y treial – apeliadau

Mae gennych yr hawl dan y Cod Dioddefwyr i gael gwybodaeth am unrhyw apeliadau yn yr achos. Bydd eich cyswllt yn yr heddlu yn rhoi gwybod i chi os oes unrhyw apeliadau. 

Os cafwyd y diffynnydd yn ‘ddieuog’, ni allwn apelio yn erbyn y dyfarniad. Y rheswm am hyn yw nad yw’r gyfraith yn rhoi’r hawl i ni apelio yn erbyn penderfyniad y rheithgor. 

Mewn amgylchiadau prin iawn, efallai y bydd modd i ni ofyn i’r llys ddileu’r rhyddfarn a gofyn am ail dreial os bydd yr heddlu’n dod o hyd i dystiolaeth ‘newydd a chryf’ nad oedd ar gael adeg y treial gwreiddiol. Fodd bynnag, mae’r achosion hyn yn brin iawn gan fod safon y dystiolaeth sydd ei hangen i orchymyn ail dreial yn uchel iawn. 

Os yw’r diffynnydd yn dymuno apelio yn erbyn ei euogfarn neu ei ddedfryd

Os ceir y diffynnydd yn ‘euog’, gall apelio yn erbyn ei euogfarn – mae hyn yn golygu ei fod yn gofyn iddo gael ei wrthdroi am nad yw’n credu y dylai fod wedi’i gael yn ‘euog’.
 
Gall hefyd apelio yn erbyn difrifoldeb ei ddedfryd. Mae hyn yn golygu nad yw’n herio’r ffaith ei fod wedi cael ei ganfod yn ‘euog’ ond ei fod yn credu bod y gosb a roddwyd iddo yn rhy llym. 

Ar ôl treial yn y llys ynadon

Mae gan ddiffynyddion sydd wedi’u cael yn euog ar ôl treial yn y llys ynadon hawl awtomatig i apelio, os ydynt yn dymuno gwneud hynny. 

Os bydd diffynnydd yn apelio, bydd barnwr a phanel o ynadon yn gwrando eto ar yr achos unwaith eto yn Llys y Goron. Weithiau, bydd hyn yn golygu y bydd gofyn i chi roi tystiolaeth eto. Os bydd hyn yn digwydd, bydd yr heddlu’n esbonio hyn i chi. 

Gall diffynyddion yn yr achosion hyn hefyd ofyn am gael apelio ‘ar bwynt cyfreithiol’ i’r Uchel Lys. Mae hyn yn golygu eu bod yn dweud nad yw’r gyfraith wedi’i gweithredu’n gywir yn eu hachos. Nid yw'r hawl i apelio fel hyn yn awtomatig. Os bydd yr Uchel Lys yn cytuno i wrando ar y math hwn o apêl, bydd yn cynnwys dadleuon cyfreithiol yn unig ac ni ofynnir i chi roi tystiolaeth eto. 

Bydd yr heddlu’n rhoi gwybod i chi os yw’r diffynnydd wedi gwneud apêl ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am fanylion unrhyw wrandawiadau. 

Ar ôl treial yn Llys y Goron

Er mwyn apelio ar ôl treial yn Llys y Goron, mae angen i ddiffynnydd gael ‘sail’ dros apelio. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddo gael rheswm cyfreithiol pam ei fod yn meddwl bod y rheithfarn yn anghywir. Er enghraifft, os yw’n dweud nad oedd y barnwr wedi cynnal y treial mewn ffordd deg neu wedi gwneud camgymeriadau cyfreithiol.  Os yw diffynnydd am apelio, mae angen i farnwr o’r Llys Apêl gytuno bod ganddo ‘seiliau’ i apelio. 
 
Os caniateir i ddiffynnydd apelio, anfonir ei achos i’r Llys Apêl, a fydd yn gallu cadarnhau’r euogfarn, gwrthdroi’r euogfarn fel y ceir y diffynnydd yn ddieuog neu wrthdroi’r euogfarn a gorchymyn bod treial newydd yn cael ei gynnal.

Apelio yn erbyn dedfryd sy’n rhy fyr (dedfrydau rhy drugarog)

Mewn rhai mathau o achosion, gan gynnwys trais rhywiol ac ymosodiad rhywiol difrifol, mae gan unrhyw un hawl i ofyn am adolygu dedfryd diffynnydd os ydynt yn meddwl ei bod yn rhy drugarog (afresymol o isel). Os byddwn yn credu bod dedfryd yn rhy drugarog, byddwn yn argymell y dylid ei hadolygu. 
 
Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol, sy’n un o adrannau’r llywodraeth, sy’n gyfrifol am adolygu’r achosion hyn. Mae angen i’r sawl sydd am apelio yn erbyn y ddedfryd gysylltu â Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol cyn gynted ag y bo modd (cyn 5pm 28 diwrnod calendr ar ôl dedfrydu fan bellaf). 
 
Os bydd Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol yn cytuno bod y ddedfryd yn rhy fyr (rhy drugarog) byddant yn anfon yr achos i’r Llys Apêl. Yna bydd y Llys Apêl yn penderfynu a ddylid clywed yr achos ai peidio. Os byddant yn clywed yr achos, byddant yn penderfynu a ydynt am gadw’r ddedfryd yr un fath neu ei chynyddu. 

Scroll to top