Cymru-Wales
Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yw'r prif awdurdod erlyn yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'r holl asiantaethau yn y system cyfiawnder troseddol, ac yn arbennig o agos gyda'r heddlu, er mai corff annibynnol ydym. Yr heddlu sy'n ymchwilio i droseddau a'n rôl ni yw paratoi a chyflwyno achosion i'r llysoedd.
Mae gan y CPS 14 Ardal ledled Cymru a Lloegr. CPS Cymru-Wales yw ein Hardal ni. Mae'r CPS yng Nghymru'n gwasanaethu poblogaeth o dros dair miliwn o bobl ac mae'n timau lleol yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau partner yn mhedair ardal yr heddlu yng Nghymru: Dyfed Powys, Gwent, Gogledd Cymru a De Cymru.
Mae CPS Cymru-Wales yn cyflogi tua 280 aelod o staff, gan gynnwys cyfreithwyr, paragyfreithwyr a gweinyddwyr. Rydym yn gweithio o bell ar draws amryw leoliadau yng Nghymru ond mae ein tair prif swyddfa yng Nghaerdydd, yr Wyddgrug ac Abertawe.
Ein dyletswydd yw erlyn y bobl gywir am y troseddau cywir. Ein nod yw gweithredu'n broffesiynol ac rydym yn anelu at ragoriaeth, gan edrych yn gyson am ffyrdd i wella'n gwasanaeth a sut rydym yn gweithio.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel yn Gymraeg neu Saesneg, ar sail gyfartal.
Caiff CPS Cymru-Wales ei gefnogi gan Ganolfan Fusnes sy'n cynnwys tîm o arbenigwyr ym meysydd Cyllid, Perfformiad, Newid, Cyfleusterau, Diogelwch, Iechyd a Diogelwch, Cyfathrebu, Cynhwysiant ac Ymgysylltu â'r Gymuned ac Adnoddau Dynol.
Caiff CPS Cymru-Wales ei arwain gan Brif Erlynydd y Goron (CCP), Jenny Hopkins, sydd â'r cyfrifoldebau canlynol: cynnal erlyniadau; gosod a chynnal safonau proffesiynol a moesegol; cynrychioli'r CPS yn lleol; cyfrannu at bolisi a strategaeth genedlaethol; a sicrhau cysylltiadau cyflogaeth effeithiol.
Caiff y CCP ei gefnogi gan dîm o uwch reolwyr gydag arbenigedd mewn materion cyfreithiol a rheolaeth busnes. Ar yr ochr gyfreithiol, darperir cefnogaeth gan Ddirprwy Brif Erlynwyr y Goron Iwan Jenkins a Huw Rogers. Rhian Thomas yw Rheolwr Busnes yr Ardal gyda chyfrifoldeb dros y swyddogaethau busnes a chyflenwi gweithredol.
Jenny Hopkins, Prif Erlynydd y Goron
Cafodd Jenny ei magu yng Nghymru a bu'n gyfreithiwr mewn practis preifat cyn ymuno â CPS Llundain ym 1998 fel Uwch Erlynydd y Goron. Daeth yn Rheolwr Cyfreithiol yn CPS Llundain cyn treulio 5 mlynedd fel Pennaeth Uned yn yr Is-adran Troseddau Cyfundrefnol. Dychwelodd i CPS Llundain fel Pennaeth Dynladdiad ac yn 2011 fe'i penodwyd yn Ddirprwy Brif Erlynydd y Goron gyda chyfrifoldeb am yr Uned Gwaith Achos Cymhleth.
Rhwng 2014 a 2018 Jenny oedd Prif Erlynydd y Goron ar gyfer Ardal Dwyrain Lloegr y CPS cyn dechrau yn ei swydd fel Pennaeth yr Is-adran Troseddau Arbennig a Gwrthderfysgaeth. Penodwyd Jenny yn Brif Erlynydd y Goron dros Gymru ym mis Mai 2021.
Iwan Jenkins, Dirprwy Brif Erlynydd y Goron
Ymunodd Iwan Jenkins â’r CPS yn 1992 wedi iddo weithio fel cyfreithiwr amddiffyn troseddau am nifer o flynyddoedd. Mae wedi arwain amryw o dimau a llifau gwaith o fewn CPS Cymru-Wales, gan gynnwys CC, RASSO, a CCU, ar hyn o bryd mewn gweithredu fel DCCP gyda chyfrifoldeb am waith CCU a MC.
Bu Iwan yn arweinydd ardal ar gyfer amryw o brosiectau. Yn ddiweddar, arweiniodd yr ymgysylltiad gyda Llywodraeth Cymru wrth gynllunio a gweithredu’r newidiadau a ddaeth yn sgil Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020.
Cymhwysodd Iwan fel Eiriolwr Llys Uwch yn 1999 ac wedi erlyn achosion llys yn Llys y Goron ac wedi ymddangos yn y Llys Apêl.
Yn 2019 penodwyd Iwan yn Llywydd Tribiwnlys yr Iaith Gymraeg ac mae’n gyfrannwr rheolaidd ar faterion cyfreithiol yn y cyfryngau Cymraeg.
Huw Rogers, Dirprwy Brif Erlynydd y Goron
Ymunodd Huw â'r CPS yn 2004 ar ôl sawl blwyddyn mewn practis preifat lle bu'n bennaeth adran droseddol y cwmni. Bu'n Bennaeth Gwaith Achos Cymhleth a RASSO yn y De Orllewin cyn iddo ymuno â CPS Cymru yn 2018.
Mae gan Huw brofiad o erlyn achosion yn Llysoedd y Goron a Llysoedd yr Ynadon, ac fe yw Dirprwy Brif Erlynydd y Goron sy'n gyfrifol am ein gwaith yn y Llysoedd Ynadon.
Rhian Thomas, MBE, Rheolwr Busnes Ardal
Rhian Thomas yw'r Rheolwr Busnes Ardal ac mae'n gyfrifol am y swyddogaethau busnes a chyflawni gweithredol.
Ar ôl ymuno â’r CPS yn 1989, mae Rhian wedi ymgymryd â sawl rôl cyflawni gweithredol gan gynnwys Pennaeth y Ganolfan Fusnes Ardal, rôl a ddaliodd Rhian o gyflwyno’r Canolfannau Busnes ar draws y CPS yn 2011 tan 2022.
Derbyniodd Rhian MBE yn 2022 am ei gwasanaethau i’r System Cyfiawnder Troseddol.
Mae Uned y Llys Ynadon yn erlyn amrywiaeth eang o droseddau ble nad yw'r ddedfryd hiraf ar gyfer pob trosedd yn hwy na chwe mis o garchar neu flwyddyn os oes dwy drosedd perthnasol neu ragor yn cael eu hystyried. Mae pob achos yn cychwyn yn y llys ynadon.
Mae Uned Llys y Goron yn ymdrin ag achosion mwy difrifol a'r sawl sy'n debygol o dderbyn cosbau uwch. Mae ein Huned Llys y Goron yn cynnwys timau sy'n ymdrin â gwaith achos cymhleth a thrais a throseddau rhywiol difrifol.