Pedoffil wedi’i ddedfrydu am geisio cwrdd â merch 12 oed
Mae dyn o Benarth, a oedd yn meddwl ei fod yn cwrdd â merch 12 oed am gyswllt rhywiol ar ôl sgwrsio â hi ar-lein, wedi cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe.
Roedd David Parton, 57 oed, yn credu ei fod yn anfon negeseuon at ferch ifanc ond cyfrif ffug a sefydlwyd gan yr heddlu oedd yn derbyn y negeseuon. Datblygodd y negeseuon yn rhywiol eu natur gyda Parton yn trefnu i gwrdd â’r “ferch” mewn lleoliad yn ne Cymru.
Pan gyrhaeddodd y lleoliad yn ne Cymru cafodd ei arestio gan swyddogion yr heddlu.
Dywedodd Craig Harding o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd negeseuon ar-lein David Parton yn ddiamwys o rywiol er y gwyddai ei fod yn anfon negeseuon at blentyn.
“Gwnaeth drefniadau i gwrdd â’r “ferch” gan gredu ei bod yn colli’r ysgol i’w gyfarfod.
“Yn ffodus, nid oedd unrhyw blentyn mewn perygl yn yr achos hwn, ond nid yw hynny’n wir bob amser. Mae’r achos hwn yn ein hatgoffa o’r peryglon y gall plant eu hwynebu wrth ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.
“Bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn erlyn pob troseddwr rhyw pan fodlonir y prawf cyfreithiol i wneud hynny.”
Ar 11 Rhagfyr 2024, dedfrydwyd David Parton i chwe blynedd o garchar gyda thrwydded estynedig ychwanegol pedair blynedd a Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol amhenodol. Cafodd ei roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw am gyfnod amhenodol hefyd.
Nodiadau i olygyddion
- Mae David Ian Parton (Dyddiad Geni: 4/10/1966) yn dod o Benarth.
- Plediodd Parton yn euog o dorri gorchymyn atal niwed rhywiol; ceisio cyfathrebu’n rhywiol â phlentyn; ceisio cymell plentyn dan 13 oed i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol; trefnu neu hwyluso cyflawni trosedd rywiol ar blentyn.
- Mae Craig Harding yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.