Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Carchar am oes i lofrudd Penfro

|News, Violent crime

Mae dyn a lofruddiodd menyw 18 oed ym Mhenfro wedi ei ddedfrydu i garchar am oes yn Llys y Goron Abertawe.

Bu i Lewis Haines, 31, gyfarfod y fenyw, Lily Sullivan, mewn clwb nos pan oedd hithau ar noson allan ym Mhenfro.

Gadawsant y clwb nos gyda’i gilydd a chawsant eu gweld yn cerdded i gyfeiriad ardal sy’n wybyddus fel Mill Pond.

Derbyniodd yr heddlu alwad 999 yn eu hysbysu bod rhywun yn y dŵr ym Mill Pond. Yn dilyn gwaith chwilio yn yr ardal cafwyd hyd i gorff Lily ger Mill Bridge.

Dywedodd Michael Cray o’r CPS:“Cyflawnodd Haines drosedd ofnadwy ac erchyll, gan lofruddio menyw ifanc a oedd â bywyd llawn o’i blaen.

“Bydd sioc y drychineb hon i’w deimlo ymysg y gymuned am gryn amser.

“Rydym yn cydymdeimlo’n ddwys â theulu a chyfeillion Lily wrth iddynt ddioddef yn amlwg o golled mor drom.”

Yn y gwrandawiad i ddedfrydu ar 26 Awst 2022, carcharwyd Haines am oes a gorchmynwyd iddo dreulio o leiaf 23 mlynedd a 4 mis dan glo.

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae Michael Cray yn Uwch Erlynydd y Goron i CPS Cymru-Wales
  • Plediodd Lewis Haines (12/9/1990) yn euog i lofruddiaeth
  • Bu farw Lily Sullivan ar 17 Rhagfyr 2021 yn 18 mlwydd oed. 

Further reading

Scroll to top